Hafan>PDR

Croeso i PDR

​​​


Sefydliad ymchwil dylunio ac arloesi yw PDR a sefydlwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ym 1994. Ers hynny, rydym wedi datblygu enw da dros y byd i gyd yn seiliedig ar ein gallu i ddatblygu gwybodaeth newydd mewn dylunio a datblygu cynnyrch, a chymhwyso a throsglwyddo’r fath wybodaeth yn y bydoedd academaidd a diwydiannol.

Bellach, ystyrir PDR yn ganolfan ddylunio blaenllaw’r DU yn ogystal ag un o’r 25 uchaf yn fyd-eang gan yr iF World Design Index mawreddog, ac mae ganddi fwy na 50 prif wobr ddylunio ryngwladol ar gyfer ei gwaith â diwydiant. Mae’r sefydliad ymchwil yn ymwneud â defnyddio dylunio’n effeithiol fel offeryn ar gyfer arloesi yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Rydym yn arwain a chydweithio ar brosiectau a ariennir gan AHRC a rhaglenni UKRI eraill, rhaglenni amrywiol y Comisiwn Ewropeaidd, elusennau, diwydiant, a llywodraeth.

Rydym yn cydweithredu â phartneriaid academaidd eraill, diwydiant, y sector cyhoeddus a llywodraethau i archwilio a gwella polisi, rheolaeth ac ymarfer yn gysylltiedig â dylunio cynnyrch a gwasanaethau.

I gael rhagor o fanylion am ein gweithgareddau, ewch i wefan PDR:
https://www.pdr-design.com/cy

Related Links