Hafan>Newyddion>Datganiad ar ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â chymwysterau ar gyfer ysgolion yn Lloegr yn 2021

Datganiad ar ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â chymwysterau ar gyfer ysgolion yn Lloegr yn 2021

​Datganiad | 06 Ionawr 2021Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn falch o fod bod yn brifysgol sy'n cael ei hysgogi gan werthoedd ac yn blaenoriaethu lles ein myfyrwyr, ein staff a'n cymuned. Mae’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Addysg y DU heddiw (6 Ionawr) y bydd arholiadau Safon Uwch, UG a TGAU yn cael eu disodli yn Lloegr gan asesiadau sy'n seiliedig ar athrawon, yn dilyn arweiniad Cymru, yn rhoi eglurder mawr ei angen i fyfyrwyr a'r sector. Rydym yn croesawu'r penderfyniad, a fydd yn rhoi amser i fyfyrwyr yn Lloegr fanteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd dysgu a'r gallu prifysgolion i ddatblygu ein prosesau derbyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw fyfyrwyr dan anfantais. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn ein hymrwymiad i fyfyrwyr yng Nghymru yn dilyn penderfyniad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ôl ym mis Tachwedd 2020 i fabwysiadu asesiadau sy'n seiliedig ar athrawon yn 2021.Rydym am roi sicrwydd pellach na fydd unrhyw fyfyriwr dan anfantais o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw a bydd ein tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau yn parhau i roi cymorth mawr ei angen ar ddarpar fyfyrwyr i wneud eu ceisiadau UCAS.  Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau UCAS wedi'i ymestyn i 29 Ionawr 2021 ar gyfer mynediad ym mis Medi 2021.Mae ein tudalennau Profiad Diwrnod Agored Rhithwir yn fyw ac mae ein tîm Derbyn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y broses dderbyn ac maent bob amser ar gael ar e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.    Rydym yma i gynnig cymaint o gymorth ag y gallwn i fyfyrwyr i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.