Hafan>Newyddion>Dosbarthiadau 2020 a 2021: teithio ar hyd y llwybr mwyaf heriol

Dosbarthiadau 2020 a 2021: teithio ar hyd y llwybr mwyaf heriol

​Newyddion | 21 Ebrill 2022

Yr wythnos ddiwethaf, ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd a naw mis o ganlyniad i Covid, dychwelodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ganolfan Mileniwm Cymru i gynnal pum Seremoni Raddio ar gyfer Dosbarth 2020. Cynhelir chwe seremoni arall ar gyfer Dosbarth 2021 Met Caerdydd yn ystod yr wythnos ar ôl y Pasg, ac erbyn mis Gorffennaf, rwy'n gobeithio y byddwn yn ôl at ein hamserlen fwy arferol pan fyddwn yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer saith seremoni Dosbarth 2022.

Mae cynnal 18 seremoni raddio mewn pedwar mis yn her logistaidd a chorfforol, ond rydym wedi ceisio mynd i’r afael ag effaith emosiynol Covid trwy gynnal y seremonïau a'r dathliadau hyn cyn gynted â phosibl.

Yn fuan ar ôl y cyfnod clo Covid cyntaf ym mis Mawrth 2020, daeth yn amlwg na fyddem yn gallu cynnal ein seremonïau ym mis Gorffennaf 2020. Mewn trafodaeth gynnar ag Is-Ganghellor fy alma mater - dyn a fu’n Llywydd Prifysgol Hong Kong ar adeg epidemig SARS 20 mlynedd yn ôl - dywedodd wrthyf fod 'pob pandemig yn para dau aeaf, a dim ond y gwanwyn yw hi... '. Yna, penderfynais yn gynnar i ohirio seremonïau 2020 gan wybod ei bod hi’n debygol y byddai angen inni ohirio seremonïau 2021 hefyd. Wrth i bandemig Covid fynd rhagddo, fe wnaethom wylio dosbarthiadau 2020 a 2021, a phob un hyd at Ddosbarth 2025 erbyn hyn, yn profi effeithiau colli addysgu yn y cnawd, digwyddiadau cymdeithasol, cyngherddau cerddoriaeth, cystadlaethau chwaraeon, teithio dramor a'r holl ddefodau newid byd cymdeithasol a diwylliannol hynny a brofwyd gennym i gyd, yn ystod adegau mwy arferol, ar y daith i ddod yn oedolion.

Mae Dosbarthiadau 2020 a 2021 wedi aros yn amyneddgar am eu diwrnod i gerdded ar draws y llwyfan, ac mae hi wedi bod yn wych, unwaith eto, i gyfarch pob un o'n graddedigion yn unigol wrth eu henwau. Mae Seremonïau Graddio'r mis hwn hefyd wedi rhoi cyfle inni rannu cyfraniad ac aberth Dosbarth 2020 â theuluoedd a ffrindiau, a pha mor falch yr ydym o'u cyflawniadau: myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol fel Violet Thomas a Suzie Barr a aethant yn syth i nyrsio ar y rheng flaen, a Chloe James, myfyriwr gwaith cymdeithasol, a ddechreuodd weithio mewn tîm amddiffyn plant y diwrnod ar ôl y cyfnod clo cyntaf; Gabrielle Davies a weithiodd mewn cartref gofal preswyl i oedolion hŷn bregus, a Chella Rowles a ymunodd â’r gwaith amddiffyn rhag haint Covid a’i reoli; o addysg athrawon, Nathan Jones, myfyriwr TAR Uwchradd Saesneg, a fu’n arwain myfyrwyr wrth ddarparu cefnogaeth ar-lein i rieni a gafodd eu taflu i fyd addysgu gartref, myfyrwyr TAR Cynradd a ddatblygodd 'Hamperi i Ysbytai', a staff a myfyrwyr addysg athrawon a gyflwynodd raglenni lles ar-lein ar gyfer cymunedau a ffrydio sesiynau ioga i ysgolion cynradd ledled Cymru. Gallais gydnabod hefyd waith myfyrwyr y biowyddorau a fu’n cefnogi staff a arhosodd yn y gwaith i gwblhau ymchwil arloesol i brofion gwrthgyrff, myfyrwyr dylunio cynnyrch a fu’n creu, gweithgynhyrchu a rhoi cyfarpar diogelu personol, gan gynnwys fisorau a argraffwyd yn 3D a chymhorthion ar gyfer masgiau wyneb a gafodd eu cymeradwyo at ddefnydd y GIG, a’r rhai a gefnogodd y gwaith o groesawu Canolfan Rhoddwyr Gwaed Genedlaethol Cymru a Chanolfan Profi Covid ar y campws.
Mae gan bawb bron stori o alar ac aberth o'r ddwy flynedd ddiwethaf ac mae dod at ein gilydd i gydnabod y gorffennol, edrych ymlaen at y dyfodol a cholli ambell ddeigryn hyd yn oed, wedi bod yn hanfodol i fyfyrwyr a staff yr wythnos hon.

Mae gan bob seremoni raddio ei heiliadau cofiadwy ac, yr wythnos hon, roedd y cyferbyniad rhwng dwy stori fel petai'n crynhoi galar a gobaith y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ein seremoni gyntaf, roedd hi’n bleser imi ddyfarnu gradd ôl-raddedig i Lora Agbasso, myfyriwr hŷn ac athrawes Saesneg a ddaeth i Gymru gyda'i thri phlentyn ifanc o ranbarth Donbass Wcráin ar ôl goresgyniad Rwsia yn 2014. Hi oedd ein Hysgolor Noddfa ôl-raddedig cyntaf, a gafodd ei chefnogi â bwrsariaeth lawn i gwblhau gradd Meistr mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Mae Lora’n dal i fod yn athrawes Saesneg, ond mae hi bellach yn dysgu Saesneg yng Nghasnewydd ac i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n ffoi rhag rhyfel a gwrthdaro.
Yn ein seremoni olaf o’r wythnos, cododd Dosbarth 2020 Ysgol Reoli Caerdydd ar eu traed i gymeradwyo dyn ifanc o'r enw Liam a fu farw yn ystod ei flwyddyn olaf. Nid oes dyletswydd fwy teimladwy i Is-Ganghellor na chyflwyno gradd ar ôl marwolaeth i deulu’r ymadawedig, a'r wythnos hon, fe wnaethom groesawu naw aelod o deulu Liam ar y diwrnod graddio ac fe gasglwyd ei wobr ar y llwyfan gan ei chwaer. Roedd rhannu'r foment honno o alar a gobaith yn rhan o'r broses iacháu sydd ei hangen arnom i gyd ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Dosbarthiadau 2020 a 2021 wedi teithio ar hyd y llwybr mwyaf heriol ac maent wedi dangos penderfyniad a gwydnwch anhygoel wrth gyflawni eu nodau. Byddwn yn falch o bob un ohonynt am byth.

Yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol fel colofn University View yn y Western Mail