Hafan>Newyddion>Myfyrwyr ar eu marciau ar gyfer Cwpan athletau Ewrop 10,000m

Myfyrwyr Met Caerdydd ar eu marciau ar gyfer Cwpan athletau Ewrop 10,000m

​Newyddion | 17 Mai, 2021

Cardiff Metropolitan University
Jenny Nesbit (chwith) a Jake Smith (dde)

 

Bydd dau o athletwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Metropolitan yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau 10,000m Müller Athletau Prydain a fydd yn cael cynnal yn Birmingham ar y 5ed o Fehefin, 2021.

Bydd Jenny Nesbit, myfyrwraig y cwrs MSc Darlledu Chwaraeon a Jake Smith, myfyriwr ar y cwrs MSc Cryfder a Chyflyru yn ymuno â Syr Mo Farah ac Eilish McColgan ar linell gychwyn y ras uchel ei phroffil, fydd hefyd yn dreial ar gyfer Tîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd 2021 Tokyo.

Fis diwethaf, rhedodd Jake, sy'n cael ei hyfforddi yn y Brifysgol gan James Thie, amseroedd gorau ei fywyd mewn rasys o fewn pum niwrnod i'w gilydd; 3:50.89 yn y ras 1,5000m a 2:11.00 yn y marathon a bydd e'n ymuno â thîm y dynion tra bydd  Jenny, sy'n drydydd o ran safle yn rasys 10,000 y DU yn dilyn eu pherfformiadau yng Nghasnewydd yn gynharach eleni, yn ymuno â thîm y merched.

Gyda chwe merch a chwe dyn wedi'u dewis, bydd Prydain a Gogledd Iwerddon yn cystadlu am fedalau tîm yn y ddwy ras yng Ngemau Cwpan Ewrop 10,000m a fydd yn cyfuno Pencampwriaeth 10,000m Müller Athletau Prydain a'r treialon Olympaidd.

Dywedodd Dr. Katie Thirlaway, Deon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd: "Rydw i wrth fy modd bod Jenny a Jake yn cynrychioli Prydain yn y pencampwriaethau hyn.

"Mae eu dycnwch a'u penderfyniad i lwyddo yn erbyn popeth a ddigwyddodd iddyn nhw y llynedd yn dyst i'w hymrwymiad i'w camp, eu hegni a'u brwdfrydedd drosto. Mae'r ddau yn gwneud eu gorau glas yn mhopeth a wnân a does gen i ddim amheuaeth y byddan nhw'n gwneud yn dda iawn yn y Pencampwriaethau hyn."

Ar ôl cael ei dewis, dywedodd Jenny: " Rydw i ar ben fy nigon o gael fy newis yn y Tîm Prydeinig yn y Cwpan 10,000. Hwn ydy un o fy hoff ddigwyddiadau yn y calendr a'r un dw i wedi ei fwynhau yn y gorffennol.

"Bydd cael gwisgo fest Prydain yn rhoi'r owns ychwanegol o egni hwnnw i mi a dw i'n gobeithio y bydd yn fy nghynnal drwy'r 25 lap mewn ychydig o wythnosau! Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r brifysgol ac Athletau Cymru am roi'r cyfle i mi barhau i hyfforddi mor agos ag oedd modd i'r arferol dros y misoedd diwethaf, a thrwy hynny ganiatáu i mi baratoi am y digwyddiad."

Ychwanegodd Jake Smith: "Mae cynrychioli Prydain yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd wedi bod yn freuddwyd i mi erioed ac mae bod yn rhan o dîm cryf yn ei gneud hi'n well fyth.

"Bydda i'n rhoi fy holl egni i geisio sicrhau'r amser i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd a gobeithio'i gwneud yn ras bleserus a boddhaus i redeg ynddi a'i gwylio."