Hafan>Newyddion>Sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd rhwydweithiau seilwaith ynni i ddarparu ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy?

Sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd rhwydweithiau seilwaith ynni i ddarparu ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy?

​Barn | 10 Tachwedd 2021

Cardiff Metropolitan University

 

Gan
Dr Carla De Laurentis, Darlithydd yn cyfrannu at gynllunio a chyflwyno'r rhaglen 'Cymunedau Arloesi Economi Gylchol' ac at fodiwl Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy'r BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth.

Bydd manteisio ar gyfleoedd ynni adnewyddadwy rhatach yn chwarae rhan bwysig yn y trafodaethau COP26 sydd i ddod. Yn ddiamau, wrth i lawer o wledydd symud tuag at nodau carbon niwtral, bydd cyrraedd y nodau hynny'n gofyn am ymdrechion cynyddol mewn datblygu a defnyddio ynni adnewyddadwy. Eto i gyd, mae darparu ar gyfer treiddiad ynni adnewyddadwy uchel yn galw am gynllunio ac ystyriaeth ofalus o'r heriau pellgyrhaeddol sy'n effeithio ar y seilwaith rhwydwaith ynni sydd eisoes yn bodoli— yn arbennig gridiau trosglwyddo a dosbarthu. 

Wrth i dargedau datgarboneiddio dynhau, felly hefyd y mae rhwydweithiau trydan yn dod o dan bwysau i newid ar sawl graddfa ofodol. Oddi mewn i genedl-wladwriaethau, ceir pwysau i ddarparu ar gyfer cyfrannau uwch o ynni adnewyddadwy, megis solar a gwynt, sy'n fwy gwasgaredig yn ofodol ac ysbeidiol o ran eu patrymau cynhyrchu na'r generaduron ffosil a niwclear a lywiodd rowndiau cynt y gwaith o adeiladu'r grid. Y tu hwnt i'r wladwriaeth, ceir diddordeb cynyddol mewn cydgysylltu gridiau ar draws ffiniau cenedlaethol, i hwyluso ymestyn y farchnad a sicrwydd cyflenwad. Yn ychwanegol at hyn, ceir galwadau amrywiol am hyblygrwydd, sy'n deillio o gartrefi, cymunedau a dinasoedd, i ddarparu ar gyfer mwy o gynhyrchu ynni datganoledig, rheoli galw ac integreiddio trawsfector (h.y. gwres, trafnidiaeth a thrydan). Gyda'i gilydd, mae'r pwysau hyn yn codi cwestiynau ynghylch i ba raddau y gall y gwaith o ddatblygu rhwydweithiau trydan newid o'r ehangu capasiti traddodiadol a yrrir gan effeithlonrwydd ac sy'n adweithio i'r farchnad, i ad-drefnu mwy strategol, er mwyn hwyluso trawsnewid i ynni carbon isel yn well, ymdopi â'r galwadau cynyddol am gydlynu, a thrafod y cwestiynau dosbarthol am 'pwy sy'n talu?'

Fel ymchwilydd sy'n ymwneud â deall prosesau arloesi a newid mewn systemau ynni carbon isel, rwy'n gwbl ymwybodol mai'r dasg dan sylw yw nid yn unig deall y posibiliadau technolegol, ond hefyd sut mae gwireddu newid o'r fath. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y cwestiwn hollbwysig hwnnw, sef 'sut' rydym yn cyflymu gweithredu a chynnydd i sicrhau y defnyddir ynni adnewyddadwy ar y lefel ranbarthol mewn systemau trydan, er gwaethaf y consensws cynyddol ynghylch 'pam' mae angen i lywodraethau flaenoriaethu fframweithiau polisi i gyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy a sylfaen wybodaeth gynyddol am 'beth' sydd angen ei wneud. Er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiwn 'sut', mae gofyn ymchwilio i sut y caiff newidiadau i systemau trydan eu llywio gan bwysau a chyfleoedd, a'u dylanwadu arnynt gan amodau lleoedd unigryw ac sy'n benodol i gyd-destun. Ymysg yr amodau hyn y mae adnoddau, galluoedd llywodraethu, rhwydweithiau actor, gwaddol seilwaith a hanes. Yn amlwg, nid nodau a anelir atynt gan lywodraethau cenedlaethol a chyfranogwyr presennol megis cwmnïau ynni, cyfleustodau a rheoleiddwyr yn unig yw prosesau arloesi adnewyddadwy, gan gynnwys defnyddio ynni adnewyddadwy, ond maent hefyd yn cynnwys llu o gyfranogwyr is-genedlaethol a buddiannau cymdeithasol a gwleidyddol a allant ysgogi gweledigaethau, offerynnau ac ymatebion gwahanol mewn cysylltiad â rhai o'r mandadau a allai fod gan lywodraethau is-genedlaethol mewn meysydd polisi amrywiol (e.e. defnydd tir, cynllunio, trafnidiaeth a symudedd, lles cymdeithasol a datblygiad economaidd). Daw'r meysydd hyn yn fodd i gyfranogwyr rhanbarthol a lleol ddylanwadu ar newid yn y seilwaith ynni. Er yr ystyrir bod llywio seilwaith ar y lefelau lleol a rhanbarthol yn broblematig, mae capasiti'r grid ac uwchraddio isadeiledd (gan gynnwys datblygiadau newydd, cynnal a chadw a chyflenwi) yn troi'n fater sy'n benodol i safle sy'n pwysleisio'r rôl y gall y llywodraethau is-genedlaethol ei chwarae wrth lywio newid yn y seilwaith rhwydwaith ynni.

Ond pa rôl all llywodraethau is-genedlaethol ei chwarae wrth ailstrwythuro rhwydweithiau grid trydan i ddarparu ar gyfer ehangu ynni adnewyddadwy? Mae fy ngwaith wedi ymchwilio i heriau darparu ar gyfer twf ynni adnewyddadwy cyflym, ond sy'n canolbwyntio ar ofod bach mewn rhanbarthau Eidalaidd, ar y cyd â llywodraethiant rhwydweithiau ynni canolog (yn draddodiadol), newidiadau ehangach tuag at ddatganoli cyfansoddiadol a her ad-drefnu rhwydweithiau i ddarparu ar gyfer ehangu YA, y mae llawer ohono'n digwydd y tu hwnt i ddinasoedd, mewn ardaloedd gwledig sydd â chapasiti grid cyfyngedig. Yn yr Eidal, mae'r ad-drefnu sydd ei angen mewn rhwydweithiau seilwaith ynni i ddarparu ar gyfer ehangu ynni adnewyddadwy wedi dangos amlygiadau rhanbarthol penodol, gyda llywodraethu rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo arloesiadau ac atebion ar lawr gwlad i fynd i'r afael â thagfeydd a chyfyngiadau rhwydwaith. Amlygwyd gan fy ngwaith y dylid ystyried rhanbarthau nid yn unig fel haen o lywodraethiant, ond fel safleoedd problemau - a gweithredu - sy'n sbarduno arloesiadau. Er mai dylanwad cymedrol y mae'r lefel ranbarthol wedi'i chael wrth reoleiddio seilwaith rhwydwaith yn yr Eidal, mae rhanbarthau wedi chwarae rôl wrth wneud eu tiriogaeth, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar gael ar gyfer buddsoddiad seilwaith ac wrth gyfleu'r cyfyngiadau posibl o ran trosglwyddo a dosbarthu rhwydweithiau.

Dangoswyd gan fy ymchwil fod llywodraethau rhanbarthol yn addas iawn i chwarae rhan berthnasol mewn cydlynu'r amrywiaeth o gyfranogwyr allweddol ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n ymwneud â hyrwyddo'r defnydd o ynni adnewyddadwy ac adnewyddu seilwaith. Gall y berthynas gydweithredol a sefydlwyd gyda chyfranogwyr rhanbarthol fod yn effeithiol nid yn unig o ran galluogi cyfnewid arbenigedd helaeth ond hefyd o ran dylanwadu ar ganlyniadau (e.e. hwyluso prosesau cydsynio, gwella seilwaith, a chaniatáu rhanbarthau i ddod yn safleoedd i arbrofi â thechnolegau). Wrth wneud hynny, gallai rhanbarthau arwain a hwyluso prosesau negodi blaenoriaethau ynghylch buddsoddi mewn seilwaith er mwyn mynd i'r afael â nid yn unig yr angen am gynllun seilwaith strategol hirdymor a all helpu rhanbarthau i gyflawni ymrwymiadau i dargedau 'sero net' ac ynni adnewyddadwy, ond hefyd i ysgogi buddsoddiad a chyfleoedd economaidd i gynorthwyo adferiad economaidd ôl-Covid-19 y mae ei angen yn fawr.

Cyfeiriadau

De Laurentis, C., and Cowell, R., 2021, Reconfiguring energy flows: energy grid-lock and the role of regions in shaping electricity infrastructure networks, Journal of Environmental Policy and Planning

De Laurentis, C. and Pearson, P. J. G. (2021) Policy insights for regional renewable energy deployment, Energy, Sustainability and Society

De Laurentis, C., (2021), Regional renewable energy deployment: a process of aligning multi scale institutions and regional agency, Local Environment