Hafan>Newyddion>Datganiad mewn ymateb i farwolaeth George Floyd

Datganiad mewn ymateb i farwolaeth George Floyd

​Mehefin 4, 2020

"Rydym yn siarad ar ran ein Prifysgol pan ddywedwn inni gael ein taro yr wythnos diwethaf gan farwolaeth ansynhwyrol a thrasig George Floyd ym Minneapolis, y mae ei effaith wedi cael ei deimlo ledled y byd. 

"Mae'r digwyddiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau, gwahaniaethu a materion sylfaenol hirsefydlog y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw'n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Rydym yn cydnabod bod y digwyddiadau hyn yn naturiol yn mynd i greu gofid a phryder mawr i lawer yn ein cymuned Un Met Caerdydd lle mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn un o'n pedwar gwerth.  

"Mae ein prifysgol yn sefyll ochr yn ochr â phawb sydd wedi bod yn darged o gasineb, yn seiliedig ar hunaniaeth hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd neu grefydd. Fel Prifysgol a chymuned, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddileu anghydraddoldebau hiliol a mynd i'r afael â'r strwythurau a'r diwylliannau sy'n cefnogi hiliaeth trwy ein gweithgareddau parhaus ac yn y dyfodol. Rydym am arwain newid parhaus. 

"Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 yn nodi ein pedwar amcan trosfwaol i yrru cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymlaen yn gadarnhaol ym Met Caerdydd, gan gydnabod pwysigrwydd gweithio ar y cyd â'n staff, myfyrwyr, cymunedau rhyngwladol a lleol. Rydym yn gwybod bod gennym fwy i'w wneud i gynyddu amrywiaeth ein staff a'n corff myfyrwyr, i gau'r bwlch cyflog a dyrchafiad Pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac i wella canlyniadau recriwtio, cadw a gradd i fyfyrwyr o gefndiroedd Pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. 

"Ar yr adeg hon o dristwch ac anniddigrwydd dwfn, mae ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau cymorth i fyfyrwyr yma i'ch cefnogi a'ch cynrychioli, nawr ac ar bob adeg, wrth i ni ymdrechu i sicrhau tegwch, cydraddoldeb a newid sy'n parhau. 

"Os yw'r digwyddiadau diweddar wedi effeithio arnoch chi, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'n Swyddfa Cydraddoldeb yn Equality@cardiffmet.ac.uk neu Undeb ein Myfyrwyr yn studentunion@cardiffmet.ac.uk.

"Mae ein tîm Caplaniaeth hefyd ar gael i rai o bob hunaniaeth ddiwylliannol, cyfeiriadedd, ffydd, a rhai o ddim, ac mae'n cynnig amgylchedd croesawgar, cyfrinachol a diogel sydd ar gael i chi i gyd.  Maent yn wrandawyr arbenigol ac yn brofiadol mewn cefnogi staff a myfyrwyr trwy unrhyw heriau y gallech fod wedi'u profi. Gallwch gysylltu â'r Tîm Caplaniaeth yn Pfitzpatrick@cardiffmet.ac.uk neu ABahadur-Kutkut@cardiffmet.ac.uk."

Grŵp Gweithredol yr Is-Ganghellor 
#BlackLivesMatter