Hafan>Newyddion> Penodi deuawd deinamig i Rhaglen Perfformiad Uchel Pêl-fasged Uchel

Penodi deuawd deinamig i Rhaglen Perfformiad Uchel Pêl-fasged Uchel

Newyddion | 22 Gorffennaf 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gyhoeddi’r tîm hyfforddi ar gyfer y rhaglen Perfformiad Uchel Pêl-fasged Cadair Olwyn. 

Bydd Rosie Williams a Tom Guntrip yn ymuno â’i gilydd fel cyd-brif hyfforddwyr i arwain y rhaglen, sy’n cynnwys y tîm Uwch Gynghrair y Merched dechreuol, y cyntaf o’i fath ar gyfer pêl-fasged cadair olwyn merched yn y byd.  Mewn cydweithrediad â Phêl-fasged Cadair Olwyn Prydain, bydd y RhPU hefyd yn cefnogi datblygiad athletwyr Prydain a thwf y gamp ar lefel prifysgol.

Dechreuodd Rosie ymwneud â’r gêm fel chwaraewr ac yna yn 2017, penodwyd Rosie’n rheolwr tîm dros garfan Menywod Dan24 Prydain ac mae hi wedi arwain y tîm i ddod yn Bencampwyr Ewrop 2018 a medalyddion Efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd 2019. Rosie hefyd yw Hyfforddwr Cynorthwyol carfan Gemau Invictus Tîm y DU, yn cefnogi taith adfer cyn-filwyr clwyfedig, anafedig a sâl.

Yn ogystal â hyn, mae Rosie’n ymwneud â’r rhaglen Gymreig, yn datblygu llwybr talent ar gyfer Menywod a Merched gan sicrhau eu bod nhw’n medru cyrraedd eu llawn botensial. Mae hyn yn cynnwys gweithio â charfan sy’n adeiladu tuag at gymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022.

Astudiodd Rosie radd israddedig mewn Gwyddor Hyfforddi Chwaraeon gyda Chwaraeon Anabledd, a gradd ôl-raddedig mewn Hyfforddi Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerwrangon. Yn dilyn ei hastudiaethau, dechreuodd Rosie weithio gydag athletwyr i gefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol ochr yn ochr â’u gyrfaoedd chwaraeon cystadleuol fel cynghorydd ffordd o fyw yn perfformio ar gyfer Chwaraeon Cymru.

Dywedodd Rosie Williams: "Mae pêl-fasged cadair olwyn merched yn parhau i ffynnu, gyda’n tîm cenedlaethol yn yr ail safle yn y byd a lansiad yr Uwch Gynghrair y Merched gyntaf erioed. Mae cael fy mhenodi i’r rôl gyffrous hon yn ystod cyfnod mor gynhyrfus yng nghamp y merched yn anrhydedd.

“Mae fy mhrofiad mewn chwaraeon perfformiad uchel yn dangos fy ymrwymiad i ddatblygu athletwyr sy’n llwyddo ar y cwrt ac oddi arno i’r lefel uchaf. Mae Archers Met Caerdydd yn rhannu’r uchelgais hon ac wedi ennill llwyddiant ar bob lefel o’r gamp am ddegawdau. 

Nawr yw’r amser i gychwyn arni a dechrau adeiladu tuag at dymor cyntaf Uwch Gynghrair y Merched!"

Mae Tom yn wyneb cyfarwydd yn rhaglen yr Archers, oherwydd iddo hyfforddi yn y clwb ers 2016. Mae Tom wedi dal rôl fel Prif Hyfforddwr a Hyfforddwr Cynorthwyol, gan weithio yn rhaglen y dynion a’r menywod ar lefel cynghrair BUCS a Chenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys rhywfaint o amser gyda’r tîm WBBL ac yn fwy diweddar fel Prif Hyfforddwr Cyswllt ar gyfer dynion Adran 2.

Bu Tom hefyd yn ymwneud â’r timau cenedlaethol gan iddo fod gyda’r rhaglen Gymreig ers 2016 ac enillodd brofiad gwerthfawr gyda Phêl-fasged Prydain fel dadansoddwr perfformiad yn 2017.

Astudiodd Tom ei radd israddedig mewn Dadansoddi Perfformiad a’i radd Meistr mewn Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd.

Dywedodd Tom Guntrip: "Rydw i wedi dwli ar fy saith mlynedd ag Archers Met Caerdydd hyd yn hyn, ac mae cael y cyfle i gyfrannu at ein tîm Uwch Gynghrair y Merched newydd yn anhygoel.

"Ar ôl dysgu am y nodau ar gyfer y tîm a’r rhaglen, gwyddwn fod hwn yn rhywbeth yr oeddwn i eisiau helpu ag ef a chyfrannu ato.

"Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain fu un o’n timau mwyaf llwyddiannus o unrhyw gamp yn y trefniannau Olympaidd a Pharalympaidd, ac nid yw gweithio â chwaraewyr a hyfforddwyr sydd wedi llwyddo ar y lefel uchaf yn rhywbeth i feddwl dwywaith amdano.  

"Rwy’n dwli ar bêl-fasged fel gêm, yr hyn mae’n ei ddysgu i bobl a’r hyn mae’n ei gynrychioli, ac rwy’n gobeithio, ochr yn ochr â Rosie, y gallwn adeiladu rhywbeth arbennig yma.” 

Dywedodd Sarah Wagstaff, Pennaeth Pêl-fasged ym Met Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein staff hyfforddi ar gyfer y rhaglen a gwyddom fod gennym ddau berson gwych a fydd yn cyd-fynd â’i gilydd yn dda iawn.

“Rwy’n llawn cyffro i weld y ddeuawd hon yn dod ynghyd ac arwain y rhaglen ac ni allaf aros inni adeiladu ein tîm ymhellach a dechrau arni”.

Dywedodd Haj Bhania OBE, Pennaeth Hyfforddi a Datblygu Tactegol ym Mhêl-fasged Cadair Olwyn Prydain: “Bydd cyd-benodiad Rosie a Tom yn darparu deinameg bositif iawn gyda’r ddau hyfforddwr yn dod â’u profiadau, eu gwybodaeth a’u safbwyntiau eu hunain i’r rolau fel cyd-brif hyfforddwyr.  

“Bydd gwybodaeth a phrofiad Rosie o bêl-fasged cadair olwyn trwy ei rolau hyfforddi a Rheoli Tîm yn Rhaglen Perfformio Prydain yn amhrisiadwy, ac yn yr un modd, dylai gwybodaeth Tom o chwaraeon Prifysgol, y rhaglen yn Archers Met Caerdydd a’i rolau hyfforddi tîm cenedlaethol sicrhau partneriaeth gref wrth gefnogi a datblygu athletwyr a’r tîm.

“Yn yr un modd â phob un o’n Partneriaethau Perfformiad Uchel, edrychwn ymlaen at weithio gyda Rosie, Tom ac Archers Met Caerdydd a’u tîm Uwch Gynghrair y Merched i greu’r amgylchedd a’r llwybr gorau posibl i athletwyr a hyfforddwyr.”