Hafan>Newyddion>Enwi cymorth dementia HUG™ yn 'Ddewis y Bobl' yng ngwobrau cenedlaethol

Enwi cymorth dementia HUG™ yn 'Ddewis y Bobl' yng ngwobrau cenedlaethol

​Newyddion | 30 Medi, 2020

Mae dyfais gysuro amlsynhwyraidd arloesol, a grëwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i helpu pobl sy'n byw gyda dementia datblygedig, wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol.

Enwyd HUG™, sy'n rhoi teimlad o lonyddwch mae rhywun yn ei gael o roi a derbyn cwtsh, yn Ddewis y Bobl ac Enillydd Cyffredinol yr Enillwyr yng Ngwobrau AbilityNet Tech4Good 2020. Mae'r gwobrau mawr eu bri hyn yn cydnabod sefydliadau ac unigolion sy'n defnyddio technoleg ddigidol i wella bywydau pobl eraill a gwneud y byd yn lle gwell. 

HUG™ yw syniad tîm yn y brifysgol dan arweiniad yr Athro Cathy Treadaway o'r Ganolfan Ymchwil Gymhwysol (CARIAD) yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Mae'n rhoi'r teimlad o lonyddwch mae rhywun yn ei gael o roi a derbyn cwtsh ac yn tawelu, cysuro a lleihau pryder ymhlith pobl sydd â symptomau mwy datblygedig o ddementia. 

Mae HUG™, sydd wedi cael ei ddatblygu dros gyfnod o bum mlynedd yn ymgorffori electroneg sy'n efelychu curiad y galon ac yn chwarae dewis personol o gerddoriaeth a synau cyfarwydd. Mae hyn wedi'i grynhoi mewn corff meddal, cyffyrddol gyda dwylo a thraed wedi'u pwysoli sy'n cefnogi pobl â dementia hwyr i eistedd i fyny’n gyfforddus.  

Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd yr Athro Treadaway: "Rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan feirniaid Gwobrau Tech4Good 2020 fel Dewis y Bobl ac Enillydd Cyffredinol yr Enillwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r nifer fawr o bobl sydd wedi cyfrannu at yr ymchwil: gofalwyr, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol a'r nifer fawr o aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cefnogi ein gwaith gan arwain at y wobr hon.

"Mae pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd wedi cael eu taro'n wael iawn gan y pandemig COVID-19 gyda chyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal a gofynion diogelu yn y gymuned. Mae angen cyswllt cymdeithasol arnom i gyd i gadw'n bositif a theimlo'n dda, yn enwedig y rheini sy'n byw gyda dementia datblygedig, ac eto gwrthodir unrhyw fath o gyffyrddiad corfforol i lawer ohonynt. Gall HUG™ helpu i leddfu'r pryder a'r unigrwydd y mae llawer yn eu profi ar yr adeg anodd hon."

Ychwanegodd Mark Walker, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu AbilityNet: "Rwyf am longyfarch holl enillwyr gwobrau eleni am helpu i wneud y byd yn le gwell a mwy hygyrch. Roedd cymaint o ymgeiswyr o safon uchel eleni ac roedd yn anhygoel o anodd dewis yr enillwyr terfynol."

Enillodd y prototeip cyntaf HUG™ ddiddordeb pellgyrhaeddol yn y cyfryngau a chafodd sylw yn y wasg ar ôl canfod ei fod yn cael effaith fuddiol iawn ar y person y'i cynlluniwyd ar ei gyfer. Roedd ei gofalwyr proffesiynol a'i theulu y honni bod yr effeithiau positif ar ei hiechyd a'i llesiant – llai o gwympo, mwy o ryngweithio cymdeithasol a bwyta’n well a lleferydd gwell – i ddefnyddio HUG™. Er ei bod ar ofal diwedd oes, bu'n byw'n hapus am naw mis arall ar ôl derbyn HUG™.

Ers hynny, mae prototeipiau o HUG™ wedi bod yn cael eu treialu o fewn y GIG a'r sector gofal preifat, gyda mewnbwn gan ofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â'r Gymdeithas Alzheimer. Mae HUG™ yn cael ei werthuso ar hyn o bryd mewn treial ymchwil gyda’r GIG a’r cwnni cartrefi gofal yng Nghaerdydd Sunrise Senior Living, a ariennir gan Lywodraeth Cymru (ERDF), gyda chanlyniadau cynnar yn dangos manteision sylweddol i les unigol. 

Lansiwyd cwmni cyfyngedig sy'n deillio o'r rhaglen, HUG gan LAUGH™ yn ddiweddar, ynghyd ag ymgyrch ariannu torfol gyda'r nod o ariannu cynhyrchu ar raddfa fawr, gan sicrhau bod HUG™ ar gael yn fasnachol i'r bobl sydd ei angen. 
x