Hafan>Newyddion>Trawsnewid y ddinas yn oriel gelf ar gyfer sioe haf myfyrwyr

Trawsnewid y ddinas yn oriel gelf ar gyfer sioe haf myfyrwyr

​Newyddion | 9 Mehefin, 2021


Mae myfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn troi'r brifddinas yn oriel stryd fwyaf Cymru i nodi lansiad eu sioe gradd haf. 

Bydd mwy na 400 o fyfyrwyr yn arddangos gwaith o ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys animeiddio, pensaernïaeth, celf gain, ffasiwn a dylunio cynnyrch. Cynhelir yr arddangosfa flynyddol hon yn rhithiol am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws parhaus. 

Wrth i Gymru ddechrau llacio ei rheolau ymhellach, bydd digwyddiad eleni’n cymylu'r gwahaniaethau rhwng rhithiol a realiti, gan droi'r ddinas yn oriel gelf fodern am ddim. Caiff mannau hysbysebu poblogaidd yng nghanol y ddinas ac yn y maestrefi eu trawsnewid yn arddangosfeydd a mynedfeydd digidol. 

Ynghyd â gwaith gan artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr bydd cyfweliadau, podlediadau a sgyrsiau byw mewn 'gŵyl greadigrwydd ar-lein' wedi'i churadu - gyda blas o'r sioe ar gael ar safleoedd posteri ledled y ddinas. O brif strydoedd prysur ac o amgylch corneli annisgwyl, bydd gwaith yn amrywio o ddyluniadau cadeiriau olwyn cysyniadol a cherameg a wnaed yn draddodiadol i ffasiwn wedi'i uwchgylchu a goleuadau a ysbrydolwyd gan natur yn ymddangos ar rai o dotemau posteri eiconig Caerdydd.

Bydd gwaith arobryn, gan gynnwys 'Olwyn Glyfar' arloesol Thomas Salkeld ac ymatebion creadigol i weithio gartref yn arwain y gosodiad ledled y ddinas, gan arddangos arloesiadau ac arferion traddodiadol gan un o Ysgolion academaidd hynaf Caerdydd.

Dywedodd Deon Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yr Athro Olwen Mosely: “Rwy’n falch iawn o fod yn cyflwyno sioe eleni yn rhithiol ac ar draws ein dinas. 

“Mae'r creadigrwydd a ddangoswyd eleni hyd yn oed yn fwy rhyfeddol o ystyried yr amgylchiadau anodd y mae ein myfyrwyr wedi eu cael eu hunain ynddynt. Mae'r gwytnwch a'r gallu i addasu a welwch yng ngwaith eleni’n dangos y gall creadigrwydd fod ar sawl ffurf, ond yn ei holl gyfryngau, mae'n parhau i fod yn lle i bobl fynegi eu hunain, i helpu ei gilydd a gwella'r byd o'u cwmpas trwy ddyfeisgarwch, creadigrwydd a gweledigaeth.”

Mae Sioe Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd 2021 ar gael rhwng 9 a 16 Mehefin yn csadshow.uk