Hafan>Newyddion>Triathlon Cymru a Chwaraeon Met Caerdydd yn cryfhau partneriaeth

Triathlon Cymru a Chwaraeon Met Caerdydd yn cryfhau partneriaeth

Newyddion | 31 Hydref 2022

Gan adeiladu ar lwyddiant carfan Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, mae Chwaraeon Met Caerdydd yn falch o gyhoeddi partneriaeth well gyda Triathlon Cymru. 

Ffurfiwyd y berthynas yn 2019 pan ddaeth Campws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn Ganolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru (NTPCW). Ei nod yw darparu hyfforddiant, cefnogaeth, ac amgylchedd o'r radd flaenaf i ddatblygu athletwyr elitaidd i sicrhau llwyddiant rhyngwladol a chyflawni eu potensial mwyaf.

Fe wnaeth cyfanswm o saith athletwr o Garfan NTPCW Triathlon Cymru a Chwaraeon Met Caerdydd berfformio yng Ngemau'r Gymanwlad eleni yn Birmingham. Sicrhaodd Cymru ei medal Triathlon gyntaf yn y Gemau mewn 20 mlynedd pan enillodd y tîm ras gyfnewid gymysg fedal arian.

Dywedodd Beverley Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru: "Llwyddodd y nod o ddatblygu NTPCW ar gampws Chwaraeon Met Caerdydd i greu amgylchedd hyfforddi o'r radd flaenaf, gan alluogi athletwyr i berfformio ar lwyfan y byd. Rwy'n credu bod Gemau'r Gymanwlad 2022 yn arddangosfa wych o ba mor bell rydyn ni wedi dod.

"Hoffwn estyn fy niolch a chydnabod y cyfraniad y mae Chwaraeon Met Caerdydd wedi'i wneud wrth ein galluogi i gael y llwyddiant hwn, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddefnyddio hyn fel llwyfan i gydweithio er mwyn parhau i gael llwyddiant cynaliadwy."

Bydd Triathlon Cymru'n parhau i ddefnyddio Pwll Nofio, trac awyr agored, Campfa Perfformiad Cymru, ac arena athletau dan do genedlaethol enwog (NIAC) Chwaraeon Met Caerdydd i gynorthwyo cynnydd yr athletwyr. Byddant hefyd yn cefnogi'r brifysgol i ddarparu athletwyr a recriwtio myfyrwyr, wrth greu sgwad hyfforddi a datblygu Triathlon prifysgol newydd.

Yn ogystal, drwy'r bartneriaeth hon a rhaglen Campws Agored Chwaraeon Met Caerdydd, bydd myfyrwyr ac athletwyr elît yn rhoi cyfleoedd i bobl o fewn dinas-ranbarth Caerdydd a'r tu hwnt drwy ddarparu ymchwil, addysg a chyfleoedd chwaraeon.

Dywedodd Ollie Toogood, Pennaeth System Chwaraeon Met Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o allu parhau â'r bartneriaeth gyda Triathlon Cymru lle mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cefnogi myfyrwyr ac athletwyr elitaidd i symud ymlaen tuag at lwyddiant rhyngwladol. 

"Roedd gennym bedwar o fyfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr Chwaraeon Met Caerdydd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, gan dynnu sylw at y llwyddiant mae'r bartneriaeth eisoes wedi'i chyflawni. Hoffem ddiolch i Triathlon Cymru am barhau i gefnogi Chwaraeon Met Caerdydd ac edrychwn ymlaen at weld llwyddiant y tîm yn y dyfodol mewn digwyddiadau sydd i ddod."

Rhai o lwyddiannau athletwyr Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022:

  • Iestyn Harrett - Medal Arian yn Ras Gyfnewid Tîm Cymru gan orffen yn 9fed yn y ras unigol, gorffenwr gwrywaidd uchaf erioed Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

  • Issy Morris yn gorffen yn 19eg a gorffennodd Dom Coy yn 18fed yn eu gemau mawr cyntaf.

  • Rhys James a arweiniodd Rhys Jones, gan greu hanes fel Paratriathetle cyntaf erioed Cymru gan orffen yn 4ydd.