Hafan>Newyddion>Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â chyfleusterau ymchwil sy'n arwain y byd ym Mhrifysgol Met Caerdydd

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â chyfleusterau ymchwil sy’n arwain y byd ym Mhrifysgol Met Caerdydd

​Newyddion | 15 Chwefror 2023

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, â champws Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i weld drosto ei hun raglenni ymchwil ac arloesi’r sefydliad sy’n arwain y byd, gan gynnwys labordai roboteg ac ystafelloedd dadansoddi swynhwyraidd bwyd.

Cyfarfu Mr Davies â’r Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor Met Caerdydd, a chael taith o amgylch Ysgol Technolegau, Ysgol Celf a Dylunio a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE y Brifysgol.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, yn Ysgol Dechnolegau Prifysgol Metropolitan Caerdydd


Roedd taith yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnwys ymweliad â Labordy Roboteg Eureka yr Ysgol Dechnolegau, canolbwynt ymchwil arloesol sy’n arbenigo mewn Roboteg Gwasanaeth a Chymdeithasol ar Ffurf Bodau Dynol. Mae’r Ganolfan yn adnabyddus am ei defnydd ar ymchwil a datblygu i ddatblygu cymwysiadau robotiaid ar gyfer byd gofal iechyd a lleoliadau ysbyty.

Yn Ysgol Celf a Dylunio Met Caerdydd, gwelodd Ysgrifennydd Cymru y dechnoleg gwbl newydd sy’n cael ei defnyddio gan fyfyrwyr heddiw. Roedd hyn yn cynnwys y Labordy Profiad Canfyddiad (PEL) – sy’n defnyddio technoleg seiliedig ar Fovography™ i efelychu amgylcheddau’r byd go iawn trwy ddefnydd sain, arogl, tymheredd a golwg ymgolli. Mae un o’i gynhyrchion, FovoRender, yn newid profiad defnyddwyr o ofod 3D drwy symud i ffwrdd o 600 mlynedd o draddodiad geometreg ddelweddu, ar sail persbectif llinol, i agor gofodau rhithiol sy’n seiliedig ar y ffordd mae bodau dynol, yn hytrach na chamerâu, yn gweld. Mae gan gywirdeb uwch y dechneg ddelweddu hon ddefnyddiau ar draws sector lluosog diwydiant.

Yn olaf, dangoswyd y cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Met Caerdydd i’r Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys cegin datblygu cynnyrch yn ogystal ag ystafelloedd melysfwydydd a dadansoddi synhwyraidd.

Meddai’r Is-ganghellor yr Athro Cara Aitchison: “Rydym yn hynod o falch o’n rhaglenni ymchwil ac arloesi o safon orau’r byd ym Met Caerdydd, ac heddiw roeddem yn gallu dangos i Ysgrifennydd Gwladol Cymru peth yn unig o effaith ein hymchwil.

“Mae gennym hanes rhagorol ym maes ymchwil gymhwysol, arloesi, busnesau’n cael eu cychwyn a’u hehangu gan raddedigion, wedi eu hategu gan ein harbenigedd rhyngddisgyblaethol, gyda’n hymchwil yn gallu cael ei chymhwyso’n uniongyrchol mewn busnes, diwydiant, y proffesiynau a’r gymuned. Fel y cyfryw, mae ein hymchwilwyr yn gwneud cyfraniadau hanfodol at iechyd a ffyniant y byd, ac effaith ar ein cymdeithas a’r economi. Roedd yn bleser gallu arddangos hynny heddiw.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: “Hoffwn i ddiolch i Met Caerdydd am gynnal ymweliad hynod o ddiddorol. Roedd amrediad ac ansawdd yr ymchwil a’r gwaith datblygu yn y Brifysgol yn drawiadol iawn.

“Mae’n arbennig o braf gweld gwaith ymchwil sydd â’r potensial i effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl mewn cynifer o feysydd pwysig. Mae gan brifysgolion Cymry enw da iawn am eu gwaith ymchwil a datblygu ac mae’n ardderchog i gael cip ar gyfraniad Met Caerdydd.”