Hafan>Newyddion>REF 2021 Canlyniadau

Met Caerdydd yn cyflawni ymchwil ac effaith sy’n Arwain y Byd

​Newyddion | 12 Mai 2022

Cyhoeddwyd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) Llywodraeth y DU 2021 ar 12 Mai 2022. Roedd cyflwyniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnwys mwy na phedair gwaith yn fwy o staff na’r un diwethaf. Dangoswyd gan ganlyniadau FfRhY 2021 fod Met Caerdydd wedi cynhyrchu ymchwil sy’n Arwain y Byd yn ei chyflwyniad cyfan drwyddi draw, gyda bron i ddau draean o allbynnau’r ymchwil yn cael eu hystyried yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu eu bod yn Arwain y Byd. Roedd yr ymchwil a gyflwynwyd hefyd yn cyfrannu at effeithiau pellgyrhaeddol, a barnwyd bod 79% o effaith ymchwil y Brifysgol yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu’n Arwain y Byd. Er enghraifft, mae ymchwilwyr Celf a Dylunio wedi trawsnewid ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia datblygedig (REF 2021 HUG), tra bod ein hymchwil cardiofasgwlaidd Gwyddor Chwaraeon wedi cyfrannu at oroesiad rhywogaethau epaod mawr sydd mewn perygl difrifol. Yn yr un modd, mae ein hymchwil wedi tanio twf economaidd, gydag ymchwilwyr ledled y Brifysgol yn galluogi busnesau i gyfrannu cannoedd o filiynau o bunnoedd i’r economi.

Roedd bron i 88% o allbynnau ymchwil Chwaraeon y Brifysgol yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu’n Arwain y Byd, tra bod canran o effeithiau Met Caerdydd sy’n Arwain y Byd mewn Celf a Dylunio wedi ein gosod yn safle rhif 5 yn y DU, ar 83%, gyda’r gweddill yn Rhagorol yn Rhyngwladol. Ystyriwyd ymchwil Celf a Dylunio’r Brifysgol hefyd y gorau yng Nghymru, yn ôl pob mesur.

Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: “Mae’r canlyniadau hyn yn adeiladu ar flwyddyn lwyddiannus, lle rydym eisoes wedi ennill gwobrau Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 y Times a’r Sunday Times Good University Guide 2021. Maen nhw’n dangos y gwahaniaeth y mae ein hymchwil cymhwysol blaenllaw’n ei wneud i gymdeithas a’r economi. Mae ymchwilwyr Met Caerdydd wedi gwneud cyfraniadau hanfodol at iechyd a ffyniant y byd, ac mae’r canlyniadau hyn yn dangos ein gallu amlwg i gyflawni ymchwil ac effaith ar y lefelau uchaf oll.”