Hafan>Newyddion>Newyddiadurwr data arloesol John Burn-Murdoch yn cael ei anrhydeddu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd

Newyddiadurwr data arloesol John Burn-Murdoch yn cael ei anrhydeddu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd

Newyddion | 22 Gorffennaf 2022

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dyfarnu Doethuriaeth er Anrhydedd i John Burn-Murdoch.

Mae John Burn-Murdoch yn newyddiadurwr Prydeinig sy'n gweithio i'r Financial Times ar hyn o bryd. Yn fwy penodol, mae John yn enwog fel newyddiadurwr data arloesol, rôl sy'n cynnwys prosesu llawer iawn o ddata, gan alluogi darllenwyr i dreulio'r wybodaeth honno.

Yn ystod pandemig Covid-19, daeth sgiliau newyddiadurol John i'r amlwg o ran cyfleu i'r byd yr union beth yr oedd y math yn ei wynebu, yn dilyn y stori o fân adroddiadau cychwynnol am achosion yn Tsieina i'r drasiedi fyd-eang a welwyd gan bob un ohonom. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cododd cynulleidfa'r Financial Times o'i miloedd traddodiadol i'r miliynau, gyda siartiau tracio llwybrau Covid-19 John yn llywio trafodaeth ac yn effeithio ar benderfyniadau ar draws llawer o sectorau.

O'r herwydd, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ei waith ac mae'n debyg mai dim ond yn y blynyddoedd i ddod y caiff ei wireddu'n llawn.

Wrth sôn yn seremonïau graddio Met Caerdydd, dywedodd John: "Mae'n anrhydedd hollol enfawr, mae'n rhywbeth na allwn fod wedi'i ddisgwyl. Pan gefais y llythyr gan yr Is-Ganghellor, nid yn unig y gwnaeth fy niwrnod, gwnaeth fy negawd.

"Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu mynd i fy ngraddio israddedig fy hun felly mae hwn yn ddiwrnod enfawr i mi. Mae'n anrhydedd ac yn fraint ac rwy'n ddiolchgar iawn."

Mae John hefyd yn ddarlithydd gwadd yn City, Prifysgol Llundain, yn ymdrin â phynciau mor amrywiol â datblygu straeon, sgrapio ar y we, glanhau data a cartograffeg ddigidol. Dechreuodd ei yrfa newyddiadurol fel gohebydd chwaraeon ar Wasg Rydd Doncaster a, chyn ymuno â'r Financial Times yn 2013, mwynhaodd gyfnodau gyda The Guardian a'r cylchgrawn defnyddwyr Which?

Mae wedi gweithio gyda'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol fel mentor dysgu ac arwain, gan helpu myfyrwyr a ariennir gan RGS i gynllunio prosiectau cadwraeth dramor.

Ar wahân i MSc mewn Gwyddor Data o Brifysgol Dundee, mae gan John hefyd MA mewn Newyddiaduraeth Ryngweithiol o City, Prifysgol Llundain, ynghyd â BSc mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Durham.