Hafan>Newyddion>Paratoi’r ffordd ar gyfer cartrefi

Paratoi’r ffordd ar gyfer cartrefi a busnesau cynaliadwy trwy bartneriaeth academaidd

​Newyddion | 18 Chwefror, 2021

Mae academyddion ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymuno â Sevenoaks Modular (SOM) i arwain chwyldro adeiladu tai a weithgynhyrchwyd yn gynaliadwy oddi ar y safle (GOS) yng Nghymru.

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) rhwng y Brifysgol a SOM wedi bod yn cyfrannu tuag at wella perfformiad busnes yn Ne Cymru, gan wella prosesau dylunio, cynhyrchu a gosod adeiladau ‘modwlar’ fframwaith coed parod. 

Ariannwyd trwy Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, Llywodraeth Cymru, mae’r PTG yn gydweithrediad rhwng grŵp Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy a Gwydn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, a chwmni adeiladu Sevenoaks Modular (SOM) a leolir yng Nghastell-nedd, De Cymru. 

Yn arwain ar ehangiad a thrawsnewid adeiladu cartrefi parod yng Nghymru i ynni gweithredol bron-i-sero a charbon ymgorfforedig bron-i-sero, ac felly adeiladu modwlar cynaliadwy, mae’r grŵp yn ail-lunio dylunio preswyl, GOS ac adeiladu ar y rheng flaen. 

Mae cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor Senedd Cymru wedi rhoi’r cyfle i SOM i adnewyddu eu model busnes, mewn ymateb i alwadau’r sector tra’n diogelu swyddi a pherffeithio eu gweithrediadau. 

Un ffocws sydd gan y PTG yw perffeithio dyluniad a pherfformiad gweithgynhyrchu fframwaith pren DAM SOM ar gyfer waliau allanol (Trisowarm (TW)), lloriau, a thoeon. Mae hyn wedi cynnwys cynnal asesiadau amser a symudiad a mapio ffrwd gwerth llinellau cynhyrchu gan ddilyn egwyddorion rheoli main Toyota, sydd wedi dod â datrysiadau hawdd i’r amlwg. Mae’r rhain yn cynnwys camau i wella effeithlonrwydd cynhyrchu, mireinio’r defnydd o ddeunyddiau a llafur, lleihau gwastraff a thrwy hynny i ostwng diffygion posibl a allai gyfrannu tuag at y bwlch perfformiad. O ganlyniad i’r PTG, mae SOM wedi cynyddu safon eu DAM a’u perfformiad thermal i gwrdd â safonau perfformiad ynni gweithredol bron i sero. Yn ogystal, mae’r cyfuniad o systemau gweithgynhyrchu clyfar SOM a berffeithiwyd ac ymchwil gan y PTG wedi caniatáu datblygiad ystod o systemau adeiladu carbon isel wedi’u safoni, sy’n defnyddio sawl ffurf naturiol o ddeunydd inswleiddio ar gyfer dull adeiladu carbon isel deunydd-yn-gyntaf. 

Dywedodd Charlotte Hale, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sevenoaks Modular: “Tra bo’r sector wedi cyrraedd trobwynt o ganlyniad i’r pandemig, trwy’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon rydyn ni’n gobeithio datblygu datrysiadau i heriau’r byd go iawn rydyn ni’n eu hwynebu a fydd yn cryfhau ein cyfran o’r farchnad, a chaniatáu i’r busnes dyfu a helpu’r sector i gwrdd â heriau adeiladu tai’r dyfodol.

“Trwy weithio â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, gallwn fanteisio ar ein gwybodaeth am y diwydiant a thynnu ar arbenigedd academaidd i chwyldroi ein harferion, adnewyddu ein busnes, gan sicrhau ein sefydlogrwydd o fewn y sector.”  

Dywedodd Verity Moorhouse, Cydymaith PTG: “Rydw i’n lwcus i fod mewn rôl mor amrywiol, sy’n golygu er bod themâu a nodau’n aros yr un fath, mae bob dydd yn wahanol, ac rydw i wedi bod ynghanol ystod eang o dasgau sydd wedi helpu i ehangu fy ngwybodaeth o’r sector yn sylweddol mewn ychydig iawn o amser.

“Bydd gan y penderfyniadau a wnawn heddiw, rwy’n gobeithio, effaith barhaol ar adeiladu tai yma yng Nghymru, a thu hwnt.”