Hafan>Newyddion>Ffurfio Partneriaeth newydd i ddatblygu ymchwil iaith a lleferydd

Ffurfio Partneriaeth newydd i ddatblygu ymchwil iaith a lleferydd

Newyddion | 1 Chwefror 2022

Mae Met Caerdydd yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gydag Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste. 

Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste (BSLTRU) yw'r brif ganolfan ar gyfer ymchwil ym maes namau cyfathrebu a llyncu ac mae’n cynnal ymchwil sydd â’r nod o wella gofal a rheolaeth pobl ag anhwylderau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu drwy ddatblygu gwybodaeth sy'n ymwneud ag atal, rheoli a chanlyniadau cymdeithasol yr anhwylderau. Llywyddir yr Uned gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste ac mae wedi'i lleoli ar dir Ysbyty Southmead, Bryste. Mae'r tîm yn cynnwys ymchwilwyr therapi iaith a lleferydd, seicoleg ac ieithyddiaeth sy’n arbenigo mewn oedi yn iaith gynradd, anhwylder sain lleferydd, taflod hollt, cyfathrebu amgen ac ategol, anhwylderau niwrolegol caffaeledig, llais, ac atal dweud yn ogystal â chymorth gweinyddol a thechnegol. 

Bydd y Bartneriaeth yn arwain at linyn newydd o ymchwil ar gyfer y Grŵp Ymchwil Lleferydd, Iaith a Chlyw, gan ychwanegu at eu meysydd presennol sef Datblygu Lleferydd Dwyieithog a Chlyw Iach a Nam ar y Clyw.  Bydd y llinyn Ymchwil Glinigol yn cynnal ymchwil a fydd yn cael effaith ar therapyddion iaith a lleferydd a'u cymunedau o gleifion. Gan adeiladu ar hanes cryf o gyllid ymchwil a phroffil rhyngwladol, bydd aelodau'r llinyn Ymchwil Glinigol yn cynnwys ymchwilwyr o YChGIC a BSLTRU a bydd yn cynnwys clinigwyr a chynrychiolwyr cleifion i sicrhau bod nodau ac allbynnau’r ymchwil yn mynd i'r afael ag anghenion y rhai sy'n gweithio yn y maes a defnyddwyr gwasanaethau.

Dywedodd Dr Yvonne Wren, Cyfarwyddwr BSLTRU a Darllenydd mewn Therapi Iaith a Lleferydd a benodwyd yn ddiweddar yn YChGIC, y bydd y bartneriaeth yn adeiladu ar gryfderau'r ddau sefydliad ac yn arwain at gyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil. 

Dywedodd Dr Wren: “Mae'r Bartneriaeth rhwng YChGIC a BSLTRU yn rhoi cyd-destun delfrydol i gynnal ymchwil glinigol. Bydd arbenigedd academaidd ar draws y ddau sefydliad ynghyd â chysylltiadau agos â gwasanaethau clinigol a chymunedau o gleifion ym Mryste a Chymru’n darparu cyfleoedd digynsail ar gyfer ymchwil a fydd o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau a chlinigwyr yn ogystal â rhoi’r cyfle i fyfyrwyr therapi iaith a lleferydd gymryd rhan mewn ymchwiliadau clinigol.”

Mae'r Bartneriaeth eisoes wedi cael llwyddiant, gan iddi dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau sy'n cefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Dr Robert Mayr, arweinydd y Grŵp Ymchwil Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu yn YChGIC: “Mae YChGIC wedi cydweithio â BSLTRU yn y gorffennol ac mae'r Bartneriaeth newydd hon yn ffurfioli'r berthynas sydd â manteision clir ar gyfer gweithgarwch ymchwil yr ysgol. Mae gan BSLTRU gydnabyddiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ei waith yn y maes a bydd y Bartneriaeth hon yn ehangu gweithgarwch ymchwil yn y rhanbarth ac yn ymestyn y capasiti ar gyfer goruchwyliaeth ddoethurol, gan sicrhau ein bod ni’n meithrin gweithlu cynaliadwy sy’n weithredol ym maes ymchwil ar gyfer y dyfodol.”