Hafan>Newyddion>Gallai ymchwil newydd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ddarogan y risg o gael strôc yn y dyfodol

Gallai ymchwil newydd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ddarogan y risg o gael strôc yn y dyfodol

​Newyddion | 10 Mai 2023

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd i dderbyn cyllid Grant Prosiect gan y Gymdeithas Strôc i gynnal ymchwil sy’n darparu gwybodaeth newydd ar sut i atal a thrin strôc ar ôl i gleifion ddioddef ‘mân strôc’.

Bydd yr astudiaeth, a elwir yn PREDICT-EV, yn profi biofarcwyr newydd mewn cleifion sy’n dioddef mân strôc, a elwir hefyd yn Bwl Ischaemig Dros Dro (PIDD). Bydd yr ymchwil yn cael ei chynnal mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BCTMUHB), lle bydd cleifion yn cael eu sgrinio am lefelau o fesiglau microsgopig yn y gwaed. Os ydynt yn bresennol, gall hyn olygu bod rhai cleifion mewn perygl sylweddol o dolchennu’r gwaed.

Bob blwyddyn, mae 46,000 o bobl ym Mhrydain yn dioddef ‘mân strôc’ gyntaf, sef rhwystr dros dro yn y cyflenwad gwaed i’r ymennydd. Mae cleifion yn dangos arwyddion cyffredinol o strôc, a gydnabyddir gan ymgyrch FAST, sy’n diflannu’n gyflym iawn ac yn aml yn gallu mynd heb i neb sylwi arnynt. Er gwaethaf y driniaeth gyfredol orau, mae unigolion bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o strôc fawr yn ystod y 12 mis nesaf, oherwydd bod mwy o risg y byddant yn ffurfio tolchennau gwaed newydd a all achosi niwed parhaol i’r ymennydd. Ar hyn o bryd, nid oes ffordd gadarn o ddarogan pa gleifion sydd mewn mwy o berygl.

Mae’r Athro Metabolaeth Cardiofasgwlaidd, Philip James, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn arwain tîm PREDICT-EV*: “Nid yw asesu amser tolchennu clinigol yn cael ei gynnal fel rheol ar ôl ‘mân strôc’ ond mae’n cael ei gipio mewn canran fach o gleifion. Rydym am fanteisio ar y ffaith bod 85% o gofnodion cleifion yng Nghymru wedi cael eu monitro dros 20 mlynedd, gan ddarparu adnodd pwerus i’n galluogi i benderfynu wrth edrych yn ôl a oedd amser tolchennu ar adeg mân strôc yn gysylltiedig â strôc yn y dyfodol.

“Rydym wedi ymchwilio sut mae tolchennau gwaed ar ôl ‘mân strôc’ yn egluro’r risg uwch o strôc ac wedi canfod y gallai fesiglau microsgopig a wneir gan gelloedd ein pibellau gwaed achosi hyn. Mae profion labordy o’r radd flaenaf wedi’u datblygu i fesur fesiglau gwaed ac rydym yn credu y gellid eu defnyddio, ynghyd â phrofion tolchennu clinigol, fel dull newydd o ddarogan strôc mewn cleifion sydd mewn perygl.”

Bydd y cyllid o £250,000 gan y Gymdeithas Strôc yn caniatáu i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a BCTMUHB i ehangu recriwtio ymhellach a dilyn cleifion dros gyfnod o amser, er mwyn penderfynu os yw mwy o fesiglau a tholchennu wedi newid yn amlwg mewn cleifion sy’n mynd ymlaen i ddioddef strôc lawn.

Mae Canolfan Strôc Cymru, a Grŵp Gweithredu Strôc Llywodraeth Cymru, yn falch iawn o gefnogi’r prosiect hwn. Dywedodd Cadeirydd Canolfan Strôc Cymru, Dr Anne Freeman OBE: “Os yn llwyddiannus, bydd y prosiect hwn yn darparu sail wyddonol ar gyfer mwy o dolchennu mewn rhai cleifion a allai helpu clinigwyr i adnabod cleifion sydd â’r risg uchaf o strôc, gan roi cipolwg beirniadol ar atal strôc ac am y tro cyntaf, arwain at driniaeth wedi’i thargedu. Mae ein tîm cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn falch iawn bod y prosiect hwn wedi’i gefnogi a byddwn yn monitro ei gynnydd yn eiddgar.”

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru yn y Gymdeithas Strôc: “Mae dioddef o PIDD yn arwydd mawr y gallai cael strôc llawn fod yn anochel. Mae angen i ni wybod mwy am y cysylltiad rhwng PIDD a risg strôc, fel y gallwn ddarogan yn well a datblygu strategaethau i atal strôc ymhlith pobl sydd wedi dioddef o PIDD. Rydym yn falch iawn o allu dyfarnu cyllid Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer yr astudiaeth hon, a allai ddysgu pethau hanfodol i ni am PIDD a strôc a’n helpu i achub bywydau.

“Mae ein helusen wedi darparu gwasanaethau cymorth i oroeswyr strôc yng Nghymru ers 2005. Mae atal strôc yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer ymchwil a gofal strôc. Felly, rydym yn falch o alluogi ymchwilwyr fel yr Athro Philip James i ddod o hyd i ffyrdd newydd o atal strôc a llywio triniaeth.”

Dywedodd yr Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil a Datblygu, yn CTMUHB: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn bartner clinigol ac yn ddarparwr yymorth cyflenwi ar gyfer yr astudiaeth ymchwil hon. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddylunio a symud yr astudiaeth yn ei blaen. Amlygodd aelodau ein tîm bwysigrwydd yr astudiaeth beilot cam cynnar a ddarparodd ddata cynnar a gwybodaeth newydd sydd wedi helpu i lywio ac esblygu’r llwybrau sydd eu hangen i optimeiddio recriwtio, dilyniant cleifion a dylunio’r astudiaeth fwy, wedi’i chefnogi gan gyllid y Gymdeithas Strôc.

“Mae’r astudiaeth yn enghraifft wych o’r byd academiadd, y GIG a phartneriaid yn y trydydd sector, yn gweithio ar y cyd, yn rhannu adnoddau ac amcanion strategol cyffredin i ymgymryd ag ymchwil sydd â’r potensial i gael effaith ar ofal cleifion ac i elwa poblogaeth Cymru a thu hwnt.”