Hafan>Newyddion>Sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa

Sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa o gyllid o £50m

​Newyddion | 22 July 2021

 

Cardiff Metropolitan University

 

Bydd media.cymru’n gwneud y rhanbarth yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu gan y cyfryngau 

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch iawn o fod yn aelod o Gonsortiwm media.cymru sydd wedi ennill cais o £50m i ddatblygu clwstwr sy’n arwain y byd ar gyfer arloesi yn y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Mae media.cymru’n dwyn 24 sefydliad ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd ac mae’n cynnwys partneriaid sy’n gweithio mewn addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu cyfryngau ac arweinyddiaeth leol i yrru twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a £236m ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) erbyn 2026. 

Darperir £22m o gyllid trwy Gronfa Strength in Places blaenllaw Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) a cheir arian cyfatebol o £3m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a £2m o Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Ers 2006, mae’r Rhanbarth wedi datblygu un o’r cyfraddau twf cryfaf gan sector y cyfryngau yn y DU, gan ddenu un ym mhob wyth o bob swydd newydd mewn ffilm/teledu yn y DU, gan gynhyrchu llwyddiannau byd-eang ar ffilm a rhaglenni teledu gan gynnwys Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a Dream Horse.

Gan ymateb i’r datblygiadau a wnaed mewn cynhyrchu rhithiol ac o bell yn ystod pandemig COVID-19, bydd media.cymru’n buddsoddi yn seilwaith digidol y Rhanbarth, gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, a chan gynyddu capasiti busnesau bach ar gyfer arloesi a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau. 

Arweinir cyfranogiad Met Caerdydd gan asiantaeth ddylunio arobryn y Brifysgol, PDR.

Ar hyn o bryd yn safle rhif 1 yn y DU yn yr iF World Design Guide Index ar gyfer 2021, mae gwaith dylunio PDR yn croesi ymchwil academaidd ac ymgynghoriaeth ryngwladol, gyda chreu cynnyrch, gwasanaethau a datblygiad sefydliadol wrth galon sawl prosiect ymchwil wedi’u hariannu.

Dywedodd Yr Athro Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth gyffrous hon ac yn edrych ymlaen at rannu ein harbenigedd er budd sector y cyfryngau yma yng Nghymru.”

“Rydym yn gyfarwydd ag arwain a chydweithredu ar brosiectau a ariennir ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal ag â phartneriaid academaidd eraill, byd diwydiant, y sector cyhoeddus a llywodraethau. Mae gennym hanes cryf o gefnogi a chyflawni arloesiadau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr o fewn sefydliadau a bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar ein profiad sylweddol yn cefnogi cwmnïau cyfryngau a’r diwydiant creadigol yng Nghymru. Rydym yn hyderus ac wedi cyffroi i ddod â’n profiad ac arbenigedd ymchwil i’r prosiect hwn.” 

Bydd cyfres o feysydd her dan arweiniad diwydiant i ymchwilio iddynt, gan gynnwys cynaliadwyedd, cynhyrchu dwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg, yn gosod sector cyfryngau’r Rhanbarth fel mainc arbrofi ar gyfer cynnwys, dulliau a fformatau newydd.

Aelodau Consortiwm media.cymru yw: Alacrity Foundation, BBC, Boom Cymru, Cyngor Caerdydd, Cardiff Productions, Channel 4, Dragon DI, Ffilm Cymru Wales, Gorilla TV, Great Point Media, Nimble Dragon, Object Matrix, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rescape Innovation, Rondo Media, S4C, Shwsh, Town Square Spaces, Unquiet Media, Wales Interactive a Llywodraeth Cymru.