Hafan>Newyddion>Kathryn Roberts will become an Honorary Fellow of Cardiff Metropolitan University

Bydd Kathryn Roberts yn dod yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd

​Ddydd Mercher, 6 Ebrill, bydd Kathryn Roberts yn dod yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae Kathryn Roberts yn uwch bartner yn swyddfa Caerdydd y cwmni cyfreithiol uchel ei barch, Eversheds Sutherland.

Hi hefyd ydy pennaeth lleoliad swyddfa tîm 'Cardiff Real Estate', sy'n darparu gwasanaethau eiddo tirol i rai o gleientiaid mwyaf y cwmni o’r sectorau cludiant, ynni, addysg a gwasanaethau ariannol, ymhlith eraill.

Mae Kathryn yn o sefydlwyr grŵp 'Monumental Welsh Women' (sy’n arwain ymgyrch i gyflwyno mwy o gelf gyhoeddus i gynrychioli menywod yng Nghymru), mae hi hefyd aelod o fwrdd Caerdydd yr elusen cymorth a gwybodaeth canser 'Maggie’s', yn aelod o Gyngor CBI Cymru ac yn aelod o'r sefydliad 'Thriving At Work Leadership Council', sy'n ymroi i wella iechyd meddwl a lles yn y gweithle trwy weithredu cadarnhaol gan gyflogwyr.

Mae Kathryn hefyd yn aelod o 'UK Finance', y Gymdeithas Trawsgludo a’r Cyngor Rhyddhau Ecwiti, ac yn gadeirydd Tîm Arweinyddiaeth Rhyngwladol Cysgodol Eversheds Sutherland yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Elusennol Eversheds Sutherland ac yn aelod o banel penodi’r cwmni.

Graddiodd yn y gyfraith o Goleg 'King's', Llundain, ac mae hi hefyd yn angerddol am hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb rhywiol a symudedd cymdeithasol yn Eversheds Sutherland ac o fewn y proffesiwn cyfreithiol yn ehangach.

Yn ei geiriau ei hun, “Yn hanesyddol, mae byd busnes yn aml wedi cael ei weld fel y dihiryn, yn llygadu dim ond y geiniog. Mewn gwirionedd, mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau yn ystyried eu cyfrifoldebau'n fawr iawn. Mae busnes yn rhan o’r ateb mewn cymdeithas i godi'r gwastad, i fynnu chwarae teg a dileu rhwystrau, boed hynny ar sail rhywedd, oedran, cefndir, neu hil.”