Hafan>Newyddion>HUG i bawb wrth i’r ddyfais ddementia newydd lansio

HUG i bawb wrth i’r ddyfais ddementia newydd lansio

​Newyddion | 19 Hydref 2021

 

Cip olwg agos o'r dyfais HUG yn gwenu

 

Mae HUG by LAUGH, cwmni deillio Met Caerdydd, heddiw’n lansio’n swyddogol HUG™ - dyfais leddfol therapiwtig sy’n torri tir newydd y’i dyluniwyd i gysuro pobl sy’n byw gyda dementia.

Bellach, gall y cyhoedd brynu HUG™ i’w hunain neu anwyliaid yn uniongyrchol gan HUG by LAUGH neu o siop ar-lein Cymdeithas Alzheimer’s y DU.

Cafodd y busnes newydd ei ddatblygu i fasnacheiddio ymchwil dementia o dan arweiniad yr Athro Cathy Treadaway o Met Caerdydd, y’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Arbenigedd SMART Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cydweithrediad rhwng y Brifysgol, y GIG a Sunrise Senior Living Ltd. gyda chefnogaeth Hwb Strôc Cymru oedd y prosiect LAUGH EMPOWERED.

Datblygwyd HUG™ ar gyfer person sy’n byw gyda dementia a gafodd fudd mawr o’r cynnyrch hwn sy’n rhoi’r ymdeimlad o roi a derbyn coflaid. Mae ganddo gorff gweol ystwyth meddal a breichiau wedi’u trymhau sy’n lapio o gwmpas y corff. Y tu mewn, mae ganddo efelychiad o galon yn curo a modiwl electroneg y gellir ei bersonoli i chwarae rhestr chwarae o hoff gerddoriaeth person.

Treialwyd a gwerthuswyd 40 HUG™ â chleifion mewn ysbyty’r GIG a chartref gofal preswyl Sunrise yng Nghaerdydd gan y prosiect LAUGH EMPOWERED. Mae canfyddiadau’r astudiaeth werthuso’n dangos y gall HUG™ helpu i leihau gorbryder a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia a nam gwybyddol ar ôl strôc.   

Mae HUG by LAUGH, o dan arweiniad y rheolwr gyfarwyddwr Dr Jac Fennell, Tiwtor Cyswllt yn YGDC, wedi’i bartneru â Chymdeithas Alzheimer’s y DU trwy ei rhaglen Accelerator. Nod y cynllun yw helpu i fasnacheiddio cynhyrchion a fydd o fudd i bobl sy’n byw gyda dementia a chyflymu eu llwybr i’r farchnad er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.

Dywedodd yr Athro Treadaway: “Rydym wedi ein gwefreiddio gan lwyddiant y prosiect ymchwil ac rydym wrth ein boddau bod HUGs bellach ar gael i’w prynu. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn dwli cael cwtsh ac mae hynny wedi bod yn anodd iawn yn ystod y 18 mis diwethaf, yn enwedig i bobl sy’n agored i niwed neu’n ynysig. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ein hariannu ni ac i’r Gymdeithas Alzheimer’s, y GIG a Sunrise Senior Living Ltd. am bartneru â ni yn y gwaith hwn.”