Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn ailgychwyn ei Menter Partneriaeth Affrica ar ôl Covid

Met Caerdydd yn ailgychwyn ei Menter Partneriaeth Affrica ar ôl Covid

​Newyddion | 4 Mai 2022

Am y 19 blynedd diwethaf, mae Menter Partneriaeth Affrica Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn newid bywydau pobl er gwell ledled nifer o wledydd, gan gynnwys Nigeria, Uganda, Ghana, Rwanda a Kenya. O ddarparu pennau ysgrifennu a chyfrifiaduron i blant ysgol i weithio i leihau lefelau afiechydon sy’n gysylltiedig â thlodi megis malaria, mae sawl cymuned wedi cael budd o haelioni academyddion, staff a myfyrwyr sydd wedi’u lleoli filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Ne Cymru.

Yna, ym mis Mawrth 2020, daeth pandemig Covid-19, gan roi’r Fenter ar stop hyd y gellid rhagweld.

Nawr, mae’n ôl ar waith, er mawr lawenydd i fwy na 300 o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Nyamathumbi yn nhref Thika, tua 65 cilomedr i’r gogledd ddwyrain o brifddinas Kenya, Nairobi.

Y mis diwethaf, fe wnaeth sawl sach o roddion a chyflenwadau’n cynnwys pennau, pensiliau a hyd yn oed crysau T a bagiau a oedd yn weddill o Wythnosau’r Glas blaenorol ym Met Caerdydd gyrraedd yr ysgol, wedi’u dosbarthu’n bersonol gan yr Athro George Karani, y rhoddwyd bwyd gan ei deulu hefyd.

Yn ogystal â byw yng Nghaerdydd am 27 mlynedd a darlithio ym Met Caerdydd, mae’r Athro Karani hefyd yn digwydd bod yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Nyamathumbi. Mewn geiriau eraill, mae’n gwybod o brofiad pa mor anodd y gall bywyd fod i bobl sy’n byw mewn cymunedau megis Thika.

"Yn Thika, rydych chi’n siarad am rai plant nad ydyn nhw’n aml yn bwyta cyn iddynt fynd i’r ysgol yn y boreau," meddai’r Athro Karani. "Maen nhw’n ffodus os ydyn nhw’n cael bwyta reis ddwy neu dair gwaith y flwyddyn. Mae rhywbeth sydd mor syml i ni â phen, iddyn nhw yn foeth. Mewn gwirionedd, mae’n cynrychioli bywyd iddyn nhw, nwydd prin y gallant ddysgu a chyfathrebu drwyddo.

"Dyna pam mae’r Fenter Partneriaeth Affrica mor bwysig. Mae’n enghraifft berffaith o brifysgol yn newid bywydau trwy estyn allan i’r gymuned – heblaw bod y gymuned honno wedi’i lleoli filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae Met Caerdydd, a’r bobl sy’n gweithio yno, wedi creu amgylchedd lle gall hyn ddigwydd. Rydw i mor falch o fod yn rhan ohono, ac rwy’n gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun."

Roedd y rhoddion a’r cyflenwadau a gyrhaeddodd Kenya’n rhan o ddau lwyth gwahanol a gasglwyd gan academyddion, staff a myfyrwyr Met Caerdydd cyn i bandemig Covid-19 gyrraedd.

Fe wnaeth yr ail lwyth, a oedd wedi’i fwriadu ar gyfer Nigeria, gyrraedd ei gyrchfan diolch i ddirprwyaeth o’r wlad a oedd yn digwydd bod yn ymweld â Met Caerdydd tua diwedd 2019.

"Am y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi methu mynd i unrhyw le na gwneud unrhyw beth, sydd, ar gyfer prosiect fel hwn, wedi bod yn hynod o rwystredig," ychwanega’r Athro Karani.

"Nawr, gobeithio, mae gwaethaf y pandemig y tu cefn i ni a gall gwaith Met Caerdydd yn Affrica ailgychwyn go iawn.

"Prosiect parhaus yw hwn sydd wedi tyfu’n gryfach a chryfach ers ei gychwyn yn 2003 a chyda chymorth grantiau ymchwil a chymunedau lleol, gan effeithio ar fwyfwy o bobl mewn ffordd gadarnhaol. Mae’n rhywbeth y mae cymunedau yn Affrica’n buddio ohono ar lefel annirnadwy, ac mae’n rhywbeth y dylai pobl Caerdydd ac yn wir, Cymru, fod yn hynod o falch ohono."