Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn Dathlur Naid Fwyaf Erioed yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian

Met Caerdydd yn Dathlu'r Naid Fwyaf Erioed yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian

Newyddion | 05 Medi, 2020

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu ei naid fwyaf erioed yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian eleni.

Dringodd y brifysgol 41 safle – y cynnydd mwyaf yng Nghymru – ac mae bellach yn safle 72 yn y DU. 

Mae Tabl Cynghrair y Guardian yn defnyddio nifer o fesurau a gydnabyddir yn genedlaethol megis yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a'r Arolwg Canlyniadau i Raddedigion yn ogystal â chymryd tariff mynediad cyfartalog i ystyriaeth. Mae'r tabl yn un o dri prif dabl cynghrair y mae myfyrwyr a rhieni yn ymgynghori â hwy wrth ystyried eu dewis o brifysgol. 

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor a Llywydd Met Caerdydd:

"Rydym wrth ein bodd gyda'n safle yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian eleni gan ei fod yn dangos yn glir y ffordd y mae ein cymuned staff wedi gweithio'n ddiflino i sefydlu Met Caerdydd fel un o brifysgolion mwyaf effeithiol y DU yn unol â'r uchelgeisiau a nodwyd gennym dair blynedd yn ôl.

"Ym Met Caerdydd rydym eisoes wedi cael blwyddyn lwyddiannus gyda pherfformiadau gwell yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Arolwg Canlyniadau i Raddedigion, y Complete University Guide a Safleoedd Prifysgolion y Byd y Times Higher Education

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn hynod heriol a hoffwn ddiolch i bob aelod academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol am fynd y tu hwnt i bob disgwyliad ers dechrau’r pandemig coronafeirws. Mae pawb wedi gweithio'n galed iawn i roi cyfle i fyfyrwyr Met Caerdydd gyflawni eu potensial a gwneud cyfraniadau hynod fel graddedigion drwy dwf economaidd cynaliadwy a chydlyniant cymdeithasol i Gymru a'r byd ehangach.

"Ein cenhadaeth yw rhoi sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd i bob myfyriwr graddedig ym Met Caerdydd er mwyn i rhoi’r mantais iddynt yn y farchnad gyflogaeth hynod gystadleuol a heriol heddiw ac mae ein lle yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian yn dangos yn glir ein bod yn cyflawni hyn.

"Mae ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau iechyd a lles ein cymuned myfyrwyr a staff drwy ddulliau dysgu hyblyg o ddysgu ar-lein ac ar y campysau.

"Mae amrywiaeth o fesurau cadarn ar waith i sicrhau y bydd myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r campysau ym mis Hydref a'r rhai sy'n ymuno â ni am y tro cyntaf yn dal i elwa o'r un profiad o ansawdd uchel tra byddwn yn cynnal ein lefelau diogelwch llym."​