Hafan>Newyddion>Mae canolfan ymchwil newydd Met Caerdydd yn canolbwyntio ar iechyd a lles byd-eang

Mae canolfan ymchwil newydd Met Caerdydd yn canolbwyntio ar iechyd a lles byd-eang

​Newyddion | 16 Chwefror, 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar fin lansio’n swyddogol ganolfan ymchwil newydd o safon fyd-eang a fydd yn mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf cymdeithas.

Mae’r Ganolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CYIGLI) yn gweithio gyda chymunedau gan gynnwys poblogaethau arbennig, i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd.

Bydd lansiad rhithiol CYIGLl yn digwydd ddydd Mawrth 23 Chwefror o 12yh i 1yh ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y meysydd ymchwil hyn.

Wedi’i leoli yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd, mae CYIGLl yn casglu ynghyd ddegawdau o arbenigedd staff o fewn yr Ysgol a dull Prifysgol-gyfan o ddatrys problemau.

Nod y Ganolfan, a arweinir gan yr Athro Diane Crone, yw datblygu ymhellach a dod yn brif ganolfan ar gyfer datblygu iechyd, gweithgarwch a lles yng Nghymru.

Mae gan CYIGLl bedwar maes penodol o arbenigedd - mae’r rhain yn cynnwys Lles mewn Amgylcheddau Heriol, Iechyd a Lles y Cyhoedd, Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes a Ffisioleg Gardiofasgwlaidd.

Yn barod, mae’r prosiectau sydd ar waith ar hyn o bryd gan y Ganolfan yn cyfrannu tuag at bortffolio o’r radd flaenaf mewn ymchwil iechyd, gweithgarwch a lles:

Mae un astudiaeth CYIGLl yn ymchwilio i effeithiolrwydd ‘ymyrraeth gweithgarwch corfforol a gyd-gynhyrchwyd’ ar gyfer iechyd, lles a chynhyrchiant cyflogeion sy’n weithwyr swyddfa.

Ariannwyd gan KESS 2 (Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth), mae’r ymchwil hwn yn edrych ar yr effaith y mae gwneud mwy o weithgarwch yn ystod eu diwrnod gwaith yn ei gael ar bobl, trwy darfu ar amser eistedd wrth gerdded neu wneud gweithgareddau pwysau corff syml sy’n cynyddu cyfradd curiad y galon ac sy’n medru cynyddu llif gwaed i’r ymennydd.

Mae’r astudiaeth COPE Cymru) o profiad y cyhoedd o COVID-19 y DU yn brosiect rhyngddisgyblaethol dan arweiniad Dr Rhiannon Phillips o Met Caerdydd mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberdeen.

Gyda chefnogaeth cyllid allanol gan Sêr Cymru, mae'r astudiaeth hydredol DU gyfan hon o 11,000 o bobl yn ceisio deall y ffactorau seicogymdeithasol sy'n gysylltiedig ag ymddwyn mewn ffordd sy'n atal trosglwyddiad Covid-19 a newidiadau mewn iechyd a lles yn ystod y pandemig.

Agorir y lansiad gyda chyflwyniad gan Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison i’w ddilyn gan Gyfarwyddwr CYIGLl, yr Athro Diane Crone, a fydd yn amlinellu gwelediad a ffocws y Ganolfan.

Wedi hyn, bydd y gynulleidfa’n clywed gan aelodau eraill tîm arweinyddiaeth CYIGLl a fydd yn amlinellu’r meysydd arbenigedd o fewn y Ganolfan. Y siaradwyr hyn yw'r Athro Steve Mellalieu, Dr Britt Hallingberg, Dr David Aldous, a Dr Rachel Lord a Dr Chris Pugh.

Wrth siarad am CYIGLl, dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Diane Crone: "Mae CYIGLl yn grŵp ymchwil amlddisgyblaethol sy’n casglu toreth o wybodaeth, arbenigedd a chysylltiadau ar draws Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, y Brifysgol ehangach a’r gymuned ynghyd.

"Mae ffocws y Ganolfan yn mynd i’r afael â nifer o heriau mwyaf cymdeithas, o atal, trin a rheoli afiechydon trosglwyddadwy i les meddyliol ac anghydraddoldebau iechyd.

"Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i archebu lle yn y lansiad swyddogol ar 23ain o Chwefror am 12yh i ddarganfod mwy am CYIGLl a’i weledigaeth ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd Deon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Dr Katie Thirlaway:

"Rydw i wrth fy modd i weld ystod a chyrhaeddiad ymchwil safonol Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd a gasglwyd ynghyd yn y grŵp ymchwil newydd cyffrous hwn.

"Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld CYIGLl yn datblygu ar hyd y blynyddoedd sydd i ddod gan gynhyrchu datrysiadau arloesol i ysbrydoli iechyd, gweithgarwch a lles."

Archebwch eich lle yn lansiad rhithiol CYIGLl.