Hafan>Newyddion>Y Bŵtcamp Busnes CF5 Blynyddol yn nodi cyraeddiadau diweddaraf Met Caerdydd o ran hynt graddedigion a llwyddiannau cychwyn busnes

Y Bŵtcamp Busnes CF5 Blynyddol yn nodi cyraeddiadau diweddaraf Met Caerdydd o ran hynt graddedigion a llwyddiannau cychwyn busnes

Newyddion | 6 Gorffenaf 2022

Rhwng yr 20fed a’r 24ain o Fehefin, cynhaliodd Canolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei Bŵtcamp Busnes CF5 blynyddol i rymuso myfyrwyr a graddedigion trwy roi’r adnoddau a’r hyder iddynt ddechrau ar eu taith cychwyn busnes.

Mae’r digwyddiad blaenllaw’n cefnogi myfyrwyr a graddedigion sydd â meddylfryd entrepreneuraidd i archwilio hunangyflogaeth a chychwyn busnes trwy raglen ddwys wythnos o hyd o weithdai rhyngweithiol, gweithgareddau, rhwydweithio, a chyflwyno cynigion. Bu’r garfan o 23 o fyfyrwyr a graddedigion yn cydweithio yn ystod yr wythnos i gefnogi ei gilydd, darparu adborth, a dod yn gymuned o entrepreneuriaid newydd. Dangoswyd gwerth y rhwydweithiau cychwyn busnes ymhellach yn ystod yr wythnos pan ymwelodd y garfan ag ICE Cymru yng Nghaerffili i archwilio’r dirwedd entrepreneuraidd ehangach yng Nghymru a dysgu am y cymorth pellach sydd ar gael i fusnesau newydd.

Hwyluswyd y gweithdai yn ystod yr wythnos gan amrywiaeth o sylfaenwyr busnes lleol, gyda chefnogaeth ychwanegol gan fodelau rôl Syniadau Mawr Cymru i gefnogi’r cyfranogwyr i fireinio eu cysyniadau busnes a datblygu fel entrepreneuriaid. Penllanw’r gefnogaeth a’r datblygiad amhrisiadwy a ddarparwyd yn ystod yr wythnos oedd diwrnod arddangos, a alluogodd y cyfranogwyr i ymarfer eu pecynnau cynnig ac arddangos eu cynnyrch er mwyn derbyn adborth cyn ymgeisio am hyd at £3000 a ddarperir gan Brifysgolion Santander. Fe wnaeth y prif siaradwr eleni, Jamie McAnsh, sydd wedi dringo i wersyll cychwyn Mynydd Everest ar faglau yn ddiweddar, gloi’r wythnos gyda sgwrs ysgogol am wytnwch, dewrder, a chychwyn arni gyda’r moddion sydd wrth law – neges a wnaeth daro tant gyda’r cyfranogwyr.

Bŵtcamp Busnes CF5


Meddai’r myfyriwr Lou Wild, sylfaenydd Rio Wild Design, “Roedd Bŵtcamp CF5 y Ganolfan Entrepreneuriaeth (CE) yn wythnos ddwys addysgiadol ac ysbrydoledig a oedd yn llawn o’r holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf i gychwyn arni a chreu fy musnes. Roedd pob sesiwn yn cynnwys syniadau pwysig i adeiladu ar fy mhroses feddwl a’i symleiddio. Roedd y sesiynau lle cawsom siarad ag arbenigwyr a gofyn cwestiynau yn gefnogol ac yn ddefnyddiol. Rwy’n gwybod beth rwy’n ei wneud ac i ble rwy’n mynd gyda fy nghamau nesaf, ac rwy’n teimlo’n hyderus o wybod bod gennyf yr adnoddau a’r wybodaeth i ddelio â’r newidiadau ansicr sydd eu hangen i greu fy musnes delfrydol. Diolch i CE a phawb a gymerodd ran yn ystod yr wythnos.”

Un o fentrau’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yw Bŵtcamp Busnes CF5, sy’n rhan o raglen gynhwysfawr sy’n grymuso ac yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd ac ennill sgiliau defnyddiol ar gyfer dyfodol entrepreneuraidd gwerthfawr. Dengys gan y data hynt graddedigion diweddaraf ar gyfer 2021/22 mai Prifysgol Met Caerdydd sydd â’r gyfradd cyflogadwyedd uchaf yng Nghymru ac mae data o arolwg blynyddol HE-BCI yn dangos mai Met Caerdydd sydd â’r gyfradd cychwyn busnes uchaf ymhlith graddedigion yng Nghymru, gan gefnogi mwy na 60 o fusnesau newydd a mentrau cymdeithasol yn 2021.

Ychwanegodd Rheolwr Entrepreneuriaeth y Ganolfan, Steve Aicheler, “Gall dechrau busnes fel myfyriwr graddedig fod yn frawychus ac yn gyffrous i’r un graddau. Rydym wedi gweld ein graddedigion yn magu hyder aruthrol dros yr wythnos ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi ymhellach wrth iddynt lansio a thyfu eu busnesau a’u mentrau cymdeithasol. Ni allem wneud hyn heb gefnogaeth yr ecosystem entrepreneuraidd sy’n ffynnu yng Nghymru – diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd yr wythnos hon.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/business/cse/Pages/default.aspx