Hafan>Newyddion>Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison, yn cyhoeddi cynllun i ymddeol

Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison, yn cyhoeddi cynllun i ymddeol

Newyddion | 23 Ionawr 2023

Yr Athro Cara Aitchison i ymddeol ym mis Ionawr 2024 fel Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae’r Athro Cara Aitchison wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol fel Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Ionawr 2024. Wedi’i phenodi yn 2016 i arwain trawsnewidiad mawr o’r Brifysgol, bydd yr Athro Aitchison yn gadael ar ôl goruchwylio’r gwaith o gwblhau ystod o dargedau uchelgeisiol yn llwyddiannus a phrosiectau y mae hi a’r Bwrdd Llywodraethwyr wedi’u nodi yn 2017 i’w cyflawni erbyn 2023.

Ymunodd yr Athro Aitchison â Met Caerdydd ar ôl bod yn Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Plymouth Marjon. Cyn hynny bu’n dal rolau arwain ac Athro ym Mhrifysgol Caeredin, Prifysgol Swydd Bedford, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste a Phrifysgol Swydd Gaerloyw, ar ôl treulio degawd yn gweithio mewn addysg uwch yn Llundain.

Yn ystod cyfnod yr Athro Aitchison mae Met Caerdydd wedi cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru o tua 17,000 yn 2016/17 i dros 25,000 yn 2023. Canolbwynt gweledigaeth yr Athro Aitchison oedd datblygu Ysgol Dechnolegau Caerdydd a lansiwyd yn 2018 gyda bron i 20 o raglenni gradd newydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â diwydiant mewn cyfrifiadura, gwyddor data, seiberddiogelwch a roboteg. Mae 20 o raglenni gradd newydd o ansawdd uchel ac effaith uchel mewn pynciau fel pensaernïaeth, y gyfraith, plismona ac addysg gynradd wedi arwain at dwf ar draws holl Ysgolion y Brifysgol ac i Met Caerdydd yn cael y Deilliannau Graddedigion gorau o blith holl brifysgolion Cymru y llynedd.

Gan wynebu pwysau cryf i uno dim ond degawd yn ôl oherwydd pryderon ynghylch ei chynaliadwyedd ariannol, mae Met Caerdydd wedi cynyddu ei throsiant o lai na £100 miliwn yn 2016/17 i dros £150 miliwn yn 2022/23 ac, yn 2020, cafodd ei henwi’n brifysgol fwyaf cynaliadwy Cymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Mae gwargedion ariannol sylweddol a gynhyrchwyd yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf trwy recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, ymchwil, ymgynghoriaeth a gweithgaredd masnachol, wedi galluogi’r brifysgol i ymrwymo i ariannu Prif Gynllun uchelgeisiol a fydd yn gweld Campws Cyncoed y brifysgol yn cael ei ailddatblygu gyda Sero Net yn flaenoriaeth.

Mae enw da’r Brifysgol hefyd wedi datblygu’n gryf o dan arweiniad yr Athro Aitchison, a gadarnhawyd yn 2020 gan wobr The Sunday Times, ‘Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021’; yn 2021 gan Wobr y Times Higher Education, ‘Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022’ ac yn 2022 gan y safle prifysgol orau yn y DU yng Nghynghrair People and Planet Green 2022/23 ar gyfer cynaliadwyedd moesegol ac amgylcheddol.

Wrth siarad ar ddechrau ei blwyddyn olaf yn y swydd, dywedodd yr Athro Aitchison, “Yn ogystal â’r trawsnewidiad yn niferoedd myfyrwyr a chyllid, rwy’n falch bod y brifysgol dros yr un cyfnod hefyd wedi cael ei hystyried i fod â’r boddhad staff uchaf o unrhyw brifysgol yn y DU, gan ddangos ei bod yn bosibl cyflawni rhagoriaeth mewn perfformiad, canlyniadau ac effaith tra hefyd yn gofalu am ein hased pwysicaf, ein pobl.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth staff a myfyrwyr sydd wedi gweithio gyda’i gilydd fel cymuned sy’n cael ei gyrru gan werthoedd yn ystod fy nghyfnod ac sydd wedi sicrhau mai Met Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni’r Siarter Busnesau Bach; dod yn Brifysgol Noddfa ddynodedig; cyflwyno’r cyflog byw go iawn; ymrwymo i gynnal cyflogau cyn cyflwyno’r Cynllun Ffyrlo yn ystod y pandemig COVID-19, sefydlu perthynas amlochrog â’r Cyngor Academyddion Mewn Perygl; a gefeillio â Phrifysgol Skvoroda yn Wcráin yn dilyn dechrau’r rhyfel y llynedd. Rwyf hefyd wedi fy nghalonogi gan ein gwaith ehangach yn arallgyfeirio a rhyngwladoli ein staff, lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer staff, lleihau’r bwlch dyfarnu Pobl Ddu ar gyfer myfyrwyr, cynyddu cynrychiolaeth menywod mewn swyddi dyrchafedig, ymrwymo i ddod yn sefydliad gwrth-hiliol a sicrhau bod pob myfyriwr yn graddio gydag EDGE Met Caerdydd, gan ddarparu sgiliau a phrofiadau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd y mae mawr eu hangen.”

“Erbyn diwedd 2023, byddaf yn fy 11eg flwyddyn fel Is-Ganghellor ac yn fy 36ain blwyddyn o wasanaeth di-dor ar hyd a lled y DU, ar draws wyth prifysgol a choleg; mae wedi bod yn fraint fy mywyd i arwain Met Caerdydd, yn enwedig yn ystod cyfnod o gynnwrf cymdeithasol ac economaidd mawr, ac rwy’n ffodus i fod wedi gweithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr, aelodau Bwrdd a phartneriaid mor ymroddedig dros y saith mlynedd diwethaf; mae’n amser nawr i mi drosglwyddo’r awenau.”

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr, John Taylor CBE, “Mae’r Athro Aitchison wedi arwain y brifysgol gyda gweledigaeth, pwrpas, ymroddiad ac effaith wych yn ystod cyfnod o gynnwrf cymdeithasol ac economaidd digynsail. Uchelgais pob arweinydd yw gadael ei sefydliad mewn cyflwr sy’n sylweddol well o gymharu â’r hyn a etifeddwyd ganddynt.

“Nid yw cyflawniadau ein His-Ganghellor yn ddim llai na rhyfeddol ac mae hi wedi gwneud gwaith rhagorol yr ydym i gyd yn ddiolchgar iawn amdano. Bydd yn dipyn o gamp i unrhyw un ei holynu.”

Yn ogystal â’i rolau arwain ac athrawol, mae’r Athro Aitchison wedi dal amrywiaeth o swyddi ar gyrff allanol gan gynnwys bod yn Gadeirydd World Leisure Commission on Women and Gender cysylltiedig â’r Cenhedloedd Unedig, Cadeirydd Leisure Studies Association y DU, Cadeirydd Panel Rhagoriaeth Ymchwil y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth 2014 a Chadeirydd Grŵp Cynghori Staff Myfyrwyr ar Gamymddwyn yn Rhywiol Universities UK. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Gyngor Grŵp Seneddol Hollbleidiol Prifysgolion y DU, Cyngor CBI Cymru, Panel Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Grŵp Llywio Prifysgolion Noddfa a Grŵp Ewrop Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad.

Ni fydd yr Athro Aitchison, sydd â chefndir mewn daearyddiaeth a gwyddor gymdeithasol ehangach, yn gadael y byd academaidd yn gyfan gwbl a bydd yn parhau â phortffolio ymchwil, gan gynnwys rôl Athro ffracsiynol ym Met Caerdydd, ynghyd â rolau anweithredol sy’n cyfrannu at ymchwil gymdeithasol ac amgylcheddol, polisi economaidd a diwylliannol, ac arweinyddiaeth addysg tra hefyd yn datblygu cydbwysedd mwy cynaliadwy rhwng bywyd a gwaith. Cyn dod yn Is-ganghellor, bu’n Athro mewn Cyfiawnder Cymdeithasol ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caeredin a bydd y cyfuniad o’i diddordebau ymchwil, ei phrofiad arwain a’i chadernid yn ddi-os yn ychwanegu gwerth at lawer o sefydliadau eraill.

Bydd y chwiliad cystadleuol am Is-Ganghellor newydd yn cychwyn yn fuan gyda’r cyfnod rhybudd o flwyddyn yn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i Is-Ganghellor newydd nawr bod y brifysgol wedi datblygu ei chynllun strategol mawr nesaf, Strategaeth 2030, a lansiwyd fis diwethaf.