Skip to main content

Harry Cameron

Adran:

Rhif/lleoliad swyddfa:

Rhif ffôn:

Cyfeiriad e-bost:  

Trosolwg/bywgraffiad byr

Cyfeiriad e-bost:  hcameron@cardiffmet.ac.uk

Ar hyn o bryd mae Harry Cameron yn Ddarlithydd Cyswllt ym mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn dysgu a goruchwylio traethodau hir MBA, prosiectau Capstone ac adroddiadau NBP ar yr MBA Rhyngwladol a'r MBA amser llawn yng Nghaerdydd a Dubai. Mae hefyd yn dysgu ar y radd BA mewn Gweinyddu Busnes Rhyngwladol, gan weithio gyda myfyrwyr ar y modiwl Adeiladu Busnes a'r modiwl Pobl mewn Sefydliadau ar y rhaglen MBA. 

Ar ôl graddio o Goleg Polytechnig Bryste ym 1981 gyda gradd yn y Dyniaethau, gan arbenigo mewn economeg, economi wleidyddol a hanes economaidd, cwblhaodd Ddiploma mewn TEFL a bu’n gweithio dramor yng Ngwlad Groeg a Gogledd Sbaen. Mae Harry wedi bod yn gweithio fel darlithydd mewn Addysg Bellach ac Uwch am 30 mlynedd, gan ddechrau ei yrfa mewn astudiaethau busnes a rheoli hamdden yng Ngholeg Addysg Bellach Hounslow (Coleg West Thames bellach) lle cwblhaodd leoliad athro a'i Dystysgrif mewn Addysg o Goleg Hyfforddi Athrawon Garnett (sydd bellach yn rhan o brifysgol Greenwich). 

Harry oedd pennaeth adran yr adran astudiaethau Cyffredinol a Chyfathrebu yn Hounslow a hefyd  darlithydd cyswllt gyda chyrsiau masnachfraint HND Hamdden gyda Phrifysgol Thames Valley. Graddiodd ym 1984 gydag MSc mewn Astudiaethau Polisi Trefol o Brifysgol South Bank. 

Yn 1997 daeth yn uwch ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Birmingham a bu’n gydlynydd cwrs am 10 mlynedd ar gyrsiau MA Rheoli Busnes Twristiaeth a MA Rheoli Twristiaeth Antur. Mae Harry hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Wolverhampton gan gydweithredu â'r tîm yno ar  brosiectau ymchwil amrywiol ar gyfer y diwydiant, gan gwblhau adroddiad gwasanaeth cwsmeriaid yn ddiweddar ar gyfer Severn Valley Railway ac mae wedi cyd-olygu'r rhifyn newydd o Operations Management in the Travel industry 2016. Mae hefyd wedi cyfrannu at y llyfr Tourism: The Key Concepts, gol, Peter Robinson 2012 a’r Encyclopaedia of Leisure and Outdoor Recreation, (gol. J. Pigram a J.Jenkins, 2003). 

Mae Harry wedi gwneud ymchwil doethuriaeth i rym a gwleidyddiaeth mewn cyrchfannau twristiaeth arfordirol, gan ganolbwyntio ar rôl awdurdodau lleol o ran dirywiad ac adfywiad cyrchfannau. Mae Harry wedi gweithio ar lawer o brosiectau ymgynghori rheoli twristiaeth dramor a phrosiectau Erasmus yng Ngwlad Groeg, Sbaen, Portiwgal, Slofenia a Gogledd Cyprus ac wedi darlithio ar MA rheoli twristiaeth yn Hong Kong, Macau a'r Maldives. 

Addysgu.

Ymchwil

Cyhoeddiadau allweddol

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Dolenni allanol