Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Proffiliau Staff>Dr Mohammad Humyun Fuad RAHMAN

Dr Mohammad Humyun Fuad RAHMAN

Darlithydd mewn Rheoli Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi

Adran: Busnes, Rheolaeth a’r Gyfraith

Rhif/lleoliad swyddfa: 2.41b

Rhif ffôn:+447708185721

Cyfeiriad e-bost: frahman@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Dr Mohammad Humyun Fuad RAHMAN yw’r Darlithydd mewn Rheoli Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi yn Ysgol Reoli Caerdydd. Mae Fuad wedi ennill gradd ddoethuriaeth mewn Cyfrifiadureg (ffocws: Ymchwil Gweithrediadau) o Brifysgol De Cymru Newydd (UNSW), Awstralia. Mae ei ddiddordeb ymchwil yn cynnwys rheoli prosiect a’r gadwyn gyflenwi. Yn fwy penodol, mae ganddo ddiddordeb mewn rheoli risgiau, ansicrwydd ac aflonyddwch wrth reoli cadwyni cyflenwi a phrosiectau cynaliadwy drwy fodelau ac optimeiddio mathemategol. Mae ymchwil Fuad hefyd yn cynnwys gwneud penderfyniadau deallus ar gyfer busnes, modelu ac efelychu, ac ymchwil gweithrediadau cymhwysol. Roedd ei ymchwil yn canolbwyntio ar faterion cydamserol, er enghraifft, bu’n gweithio ar ddatblygu modelau ac atebion ar gyfer cadwyni cyflenwi brechu i liniaru ar bandemig COVID-19 gan ystyried ansicrwydd ac aflonyddwch gwahanol. Mae hefyd wedi datblygu modelau ar sut i wneud systemau gweithgynhyrchu’n fwy cynaliadwy.

Gallwch weld ei gyhoeddiadau ymchwil diweddaraf drwy’r ddolen Google Scholar ganlynol: scholar.google.com/citations

Mae Fuad wedi cyhoeddi sawl erthygl mewn cyfnodolion a chynadleddau’r haen uchaf gan gynnwys OMEGA-The International Journal of Management Science, European Journal of Operational Research, Expert Systems with Applications, Computers and Industrial Engineering, ac Automation in Construction, ymhlith sawl un arall. Mae wedi gwasanaethu fel golygydd gwadd ac adolygydd gweithredol ar sawl cyfnodolyn o fri.

Cyn ymuno â Phrifysgol Met Caerdydd fel darlithydd, gwasanaethodd Fuad fel aelod o staff academaidd ym Mhrifysgol UNSW, Awstralia, a chyn hynny, ym Mhrifysgol Aalborg (AAU), Denmarc. Wrth weithio yn AAU, cydweithiodd ag Airbus Defence and Space industry mewn prosiect ymchwil i ddatblygu systemau cynllunio ac amserlennu deallus ar gyfer systemau trin deunydd drwy ddefnyddio cerbydau awyr di-griw mewn amgylcheddau ansicr.

Addysgu.

Modiwlau Ôl-raddedig:

  • Rheoli Cynhyrchu a Gweithrediadau

Modiwlau Israddedig:

  • Rheoli Gweithrediadau
  • Logisteg Ryngwladol

Goruchwylio:

  • Rheoli Prosiectau Integredig Cadwyni Cyflenwi mewn amgylcheddau deinamig (rhaglen Ddoethuriaeth, SEIT, UNSW, Canberra, Awstralia).
  • Dylunio a chreu llwybrau rhwydwaith ar gyfer systemau Logisteg cynaliadwy (Cyd-oruchwylio) (rhaglen Ddoethuriaeth, SEIT, UNSW, Canberra, Awstralia).

Ymchwil

Meysydd ymchwil allweddol:

  • Gwneud penderfyniadau mewn cadwyni cyflenwi (e.e., rheoli stocrestrau a logisteg, trin deunydd, creu llwybrau, dylunio rhwydweithiau).
  • Optimeiddio systemau gweithgynhyrchu (e.e., amserlennu peiriannau gorchwyl, cydbwyso rhesi cydosod).
  • Cynllunio a rheoli prosiectau (e.e., amserlennu prosiectau adnoddau cyfyngedig)
  • Cynllunio ac amserlennu’r gweithlu.
  • Ystyried risg, ansicrwydd ac aflonyddwch wrth wneud penderfyniadau
  • Ystyried tri philer Cynaliadwyedd

Cyhoeddiadau allweddol

[1] H. F. Rahman, R. K. Chakrabortty, S. K. Paul, and S. El Sawah, “Optimizing vaccines supply chains to mitigate the COVID-19 pandemic,” International Journal of Systems Science: Operations & Logistics, 2022, 1-33.

[2] M.M. Bassiounia, R. K. Chakrabortty, O.K. Hussain, and H. F. Rahman, “Advanced Deep Learning Approaches to Predict Supply Chain Risks Under COVID-19 Restrictions,” Expert Systems with Applications, vol. 193, 1 May 2022, 116446.

[3] H. F. Rahman, R. K. Chakrabortty, S. El Sawah, and M. J. Ryan, “Energy-Efficient Project Scheduling with Supplier Selection in Manufacturing Projects,” Expert Systems with Applications, vol. 193, 1 May 2022, 116446.

[4] M. Asadujjaman, H. F. Rahman, R. K. Chakrabortty, and M. J. Ryan, “Multi-operator Immune Genetic Algorithm for Project Scheduling with Discounted Cash Flows,” Expert Systems with Applications, 2022, vol. 195, 116589.

[5] H. F. Rahman, R. K. Chakrabortty, and M. J. Ryan, "Scheduling project with stochastic durations and time-varying resource requests: A metaheuristic approach," Computers & Industrial Engineering, p. 107363, 2021.

[6] H. F. Rahman, M. N. Janardhanan, L. P. Chuen, and S. Ponnambalam, "Flowshop scheduling with sequence dependent setup times and batch delivery in supply chain," Computers & Industrial Engineering, p. 107378, 2021.

[7] W. Chen, X. Gong, H. F. Rahman, H. Liu, E. Qi, “Real-time Order Acceptance and Scheduling for Data-enabled Permutation Flow Shops: Bilevel Interactive Optimization with Nonlinear Integer Programming,” OMEGA, vol. 105, 102499, 2021.

[8] M. Asadujjaman, H. F. Rahman, R. K. Chakrabortty, and M. J. Ryan, “Resource Constrained Project Scheduling and Material Ordering Problem with Discounted Cash Flows,” Computers & Industrial Engineering.

[9] R. K. Chakrabortty, H. F. Rahman, K. M. Haque, S. K. Paul, and M. J. Ryan, "An event-based reactive scheduling approach for the Resource Constrained Project Scheduling Problem with unreliable resources," Computers & Industrial Engineering, vol. 151, p. 106981, 2021.

[10] Z. Li, M. N. Janardhanan, and H. F. Rahman, "Enhanced beam search heuristic for U-shaped assembly line balancing problems," Engineering Optimization, vol. 53, no. 4, pp. 594-608, 2021.

[11] R. K. Chakrabortty, H. F. Rahman, and M. J. Ryan, "Efficient priority rules for project scheduling under dynamic environments: A heuristic approach," Computers & Industrial Engineering, vol. 140, p. 106287, 2020.

[12] H. F. Rahman, M. N. Janardhanan, and P. Nielsen, "An integrated approach for line balancing and AGV scheduling towards smart assembly systems," Assembly Automation, 2020.

[13] H. F. Rahman, R. K. Chakrabortty, and M. J. Ryan, "Memetic algorithm for solving resource constrained project scheduling problems," Automation in Construction, vol. 111, p. 103052, 2020.

[14] H. F. Rahman and I. Nielsen, "Scheduling automated transport vehicles for material distribution systems," Applied Soft Computing, vol. 82, p. 105552, 2019.

[15] H. F. Rahman, R. Sarker, and D. Essam, "A genetic algorithm for permutation flow shop scheduling under make to stock production system," Computers & Industrial Engineering, vol. 90, pp. 12-24, 2015. [16] H. F. Rahman, R. Sarker, and D. Essam, "A real-time order acceptance and scheduling approach for permutation flow shop problems," European Journal of Operational Research, vol. 247, no. 2, pp. 488-503, 2015.

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Diddordeb yn y meysydd goruchwylio canlynol:

  • Gwneud y penderfyniadau gorau mewn Logisteg a Chadwyni cyflenwi Cynaliadwy.
  • Cynllunio cludiant (e.e., creu llwybrau).
  • Cynllunio ac amserlennu’r gweithlu.
  • Cynllunio (amserlennu) a rheoli (ystyried aflonyddwch, ansicrwydd a risgiau) prosiectau, optimeiddio systemau gweithgynhyrchu (e.e., cydbwyso rhesi cydosod ac amserlennu cynhyrchu).
  • Eraill: Problemau wrth wneud penderfyniadau ym maes rheoli gweithrediadau (heb ei restru uchod) trwy ddefnyddio rhaglennu mathemategol, deallusrwydd cyfrifiannol, ac algorithmau dysgu peirianyddol.

Dolenni allanol

Proffil ar-