Ysgol Reoli Caerdydd>Ymchwil>Canolfannau a grwpiau ymchwil

Canolfannau a Grwpiau Ymchwil

Mae gweithgareddau ymchwil yr Ysgol wedi'u trefnu yn ganolfannau ymchwil a grwpiau ymchwil. Mae ein canolfannau yn cynnwys:

Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (WCTR)

Dyma un o ganolfannau rhagoriaeth ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n cynhyrchu ymchwil blaenllaw o fri rhyngwladol.  Mae'n rhoi pwyslais ar gyflawni ymchwil sy'n cael ei lywio gan bolisi am bob math o ddiddordebau ymchwil dan fantell eang twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau. Mae gan y Ganolfan gysylltiadau cryf ag uned digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru, ac mae wedi datblygu methodoleg gwerthuso effaith digwyddiad a ddefnyddiwyd yn ddiweddar mewn digwyddiadau proffil uchel, megis Ras y Cefnfor Volvo 2018 a rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017 yng Nghaerdydd. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnwys Next Tourism Generation Alliance (Cymru), sy'n rhan o brosiect €4,000,000 yr UE sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghenion sgiliau ym maes twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig gan ganolbwyntio ar setiau sgiliau digidol, cymdeithasol a chynaliadwyedd. INSERT LINK.  Arweinydd Ymchwil Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru: Dr Nic Matthews

Canolfan Llif Gwerth (VFC)

Mae'r Ganolfan hon yn cynnal gwaith ymchwil cymhwysol ac yn defnyddio patrymau rheoli a gweithredu cyfoes (COMPs) i brosesu a gwella cadwyni cyflenwi. Mae'r COMPs hyn yn cynnwys Meddwl yn Ddarbodus, Damcaniaeth Cyfyngiadau (TOC), Chwe Sigma Darbodus ac Ystwythder.  Mae gwaith ymchwil y Ganolfan wedi galluogi gwelliannau busnes sylweddol mewn ystod o sefydliadau gan gynnwys British Airways Maintenance, GE Aviation a hefyd wrth ddatblygu'r cwricwlwm (Rhaglen MSc mewn Rheoli Peirianneg Cynhyrchu, MSc mewn Cadwyni Cyflenwi Rhyngwladol a Rheoli Logisteg). Hefyd, mae'r Ganolfan yn gweithio'n agos â PDR (Canolfan Genedlaethol Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil Datblygu, Met Caerdydd) Mae'n rhan allweddol o brosiect cydweithredol MEECE a gychwynnodd yn 2020.  

Arweinydd Ymchwil y Ganolfan Llif Gwerth: Dr Rachel Mason-Jones

Canolfan Menter ac Arweinyddiaeth Greadigol (CLEC)

Mae CLEC yn darparu hyfforddiant arweinyddiaeth o'r radd flaenaf i ddarpar arweinwyr sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus. Mae CLEC yn ymchwilio i sgiliau rheoli ac entrepreneuriaeth, arloesi a datblygu economaidd, a materion polisi cysylltiedig. Dyma'r cyfrwng cyflenwi ar gyfer rhaglen arwain twf busnes 20Twenty hefyd, rhaglen ymchwil a chyflawni fawr ar feithrin sgiliau rheoli busnesau bach a chanolig, a ariennir gan Ewrop. Mae aelodau CLEC hefyd yn darparu tystiolaeth polisi (Llywodraeth Cymru, strategaeth ddiwydiannol y DU) yn rheolaidd.  

Arweinydd Ymchwil: Yr Athro Brian Morgan.