Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Busnes Byd-eang (Ategol) - BA (Anrh)

Rheoli Busnes Byd-eang (Ategol) - BA (Anrh)


Noder: Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig. Dim ond drwy'r gwasanaeth
Derbyniadau Rhyngwladol y gellir gwneud ceisiadau.

Mae'r BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang yn radd ategol sy'n caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen tuag at gymhwyster gradd anrhydedd drwy flwyddyn o astudio llawn amser pellach. Mae'r radd yn cael ei chynnal dros ddau semester ac mae ganddi ddau bwynt mynediad ym mhob blwyddyn academaidd.

Nod y cwrs yw darparu cymhwyster gradd o ansawdd uchel sy'n berthnasol yn broffesiynol, gan ddatblygu gwerthfawrogiad beirniadol ymhlith myfyrwyr o'r rôl y mae rheolwyr yn ei chyflawni yn y byd busnes rhyngwladol modern ynghyd â'r sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer dull amlddisgyblaethol o ymdrin â busnesau amrywiol.

​Cynnwys y Cwrs

Cynigir y rhaglen fel gradd lawn amser blwyddyn o hyd. Mae'n para am ddau semester gyda myfyrwyr yn astudio tri modiwl ugain credyd yn y naill semester a'r llall gan ennill cyfanswm o 120 credyd lefel 6 dros y flwyddyn academaidd.

Wrth ddyfeisio cynnwys y cwrs mae'r tîm addysgu wedi ceisio sicrhau cydbwysedd priodol rhwng sgiliau academaidd a galwedigaethol er mwyn rhoi corff o wybodaeth i fyfyrwyr sy'n briodol i fyd rhyngwladol busnes ynghyd â'r sgiliau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth o'r fath i sefyllfaoedd busnes rhyngwladol realistig.

Yn y semester cyntaf mae'n ofynnol i bob myfyriwr astudio tri modiwl ugain credyd gorfodol. Y rhain yw:

  • Rheoli Adnoddau Dynol Byd-eang (HRM)
  • Rheoli Cadwyni Cyflenwi Byd-eang
  • Economeg, Strategaeth a Rheoli

Ar ddiwedd y semester cyntaf, gall myfyrwyr benderfynu, gydag arweiniad academaidd, a ydynt yn dymuno dilyn y radd BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang generig neu ddilyn un o'r tri llwybr y mae'r rhaglen yn eu cynnig. Ar hyn o bryd, y tri llwybr a gynigir yw:

  • BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang (Rheoli Adnoddau Dynol)
  • BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang (Logisteg a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi)
  • BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang (Rheoli Strategol)

Mae pob llwybr yn cynnwys dau fodiwl ugain credyd llwybr penodol gorfodol, fel a ganlyn:

BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang (Rheoli Adnoddau Dynol)

  • Rheoli Talent Byd-eang
  • Adnoddau Pobl yn y Cyd-destun Byd-eang

BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang (Logisteg a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi)

  • Logisteg Ryngwladol
  • Rheoli Gweithrediadau

BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang (Rheoli Strategol)

  • Strategaeth Busnes Cyfoes
  • Amgylchedd Busnes Byd-eang

Yn ogystal, rhaid i fyfyrwyr ddewis un modiwl dewisol ugain credyd o'r rhestr a ddarperir gan y rhaglen

Ar gyfer myfyrwyr ar y radd BA (Anrh) Rheoli Busnes Byd-eang generig, rhaid dewis unrhyw dri modiwl dewisol ugain credyd o'r opsiynau canlynol:

  • Marchnadoedd Ariannol Byd-eang
  • Strategaeth Busnes Cyfoes
  • Rheoli Arloesedd a Chreadigrwydd mewn Marchnadoedd Byd-eang
  • Rheoli Marchnata a'r Brand Byd-eang
  • Effaith Amrywiaeth Ddiwylliannol ar Benderfyniadau Rheoli
  • Logisteg Ryngwladol
  • Rheoli Talent Byd-eang
  • Prosiect Menter

Sylwer bod llwybrau a modiwlau dewisol yn dibynnu ar alw myfyrwyr ac er y gwneir pob ymdrech i fodloni eich dymuniadau efallai na fydd yn bosibl bob amser.


Dysgu ac Addysgu

Amcan strwythur y cwrs a'r strategaethau addysgu arfaethedig yw annog dull dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Bydd strategaethau o'r fath yn cynnwys; astudiaethau achos; prosiectau; ymarferion ymarferol a ategir gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol; fideos; ac ati Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.

Bydd y deunydd cwricwlaidd yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gweithdai.

Darlithoedd Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.

Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd Cyfarfodydd myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr gyda darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.

Seminarau Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi ymlaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno, blogiau neu bodlediadau, yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Gweithdai Ymarferol Defnyddir gweithdai ymarferol mewn rhai modiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.

Astudiaethau Achos

Strategaethau addysgu a dysgu yw astudiaethau achos a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau. Maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Yn ogystal â'r sesiynau ar yr amserlen, disgwylir i fyfyrwyr gyflawni astudiaeth annibynnol sy'n cyfateb i tua 104 awr ar gyfer pob ugain modiwl credyd

Cymorth i fyfyrwyr a'u dysgu

Tiwtoriaid Personol

Mae'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd yn elwa ar y tîm o diwtoriaid ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd i fyfyrwyr. Maent yn rhoi myfyrwyr ar ben ffordd gyda materion megis cyllid, lles, datblygu gyrfa yn ogystal â helpu gyda chynllunio patrymau astudio effeithiol, paratoi ar gyfer arholiadau ac amrywiaeth o faterion pwysig eraill lle bo angen.

Y Swyddfa Ryngwladol Mae cymorth ychwanegol ar gael i bob Myfyriwr Rhyngwladol, a ddarperir gan y Swyddfa Ryngwladol.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â'r sesiynau darlithio a seminar mae gan bob modiwl slot wythnosol ar yr amserlen lle mae arweinydd y modiwl ar gael i roi arweiniad a chymorth pellach ar ei fodiwl. Mae yna slot wythnosol ar yr amserlen hefyd lle mae Cyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn yn cyfarfod â myfyrwyr yn rheolaidd i fentora a hwyluso datblygiad proffesiynol personol pellach.

Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth cyffredinol pellach i'r myfyrwyr drwy'r canlynol:

  • Rhaglen sefydlu
  • Llawlyfr myfyrwyr, llawlyfr rhaglen a llawlyfrau modiwlau unigol
  • Cynnwys a deunyddiau modiwlau drwy Moodle
  • Llyfrgell a phecynnau sgiliau astudio
  • Llyfrgell ac adnoddau dysgu
  • Cyfleusterau cyfrifiadura arbenigol gan gynnwys labordai rhyngweithiol ac aml-gyfrwng
  • Cyfleuster TG mynediad agored 24 awr ar gampysau Cyncoed a Llandaf
  • Mynediad diderfyn i'r we fyd-eang
  • Mynediad at wasanaethau myfyrwyr gan gynnwys y rhai a gynigir gan y gwasanaethau gyrfaoedd, lles, anabledd, cwnsela, caplaniaeth a'r ganolfan feddygol

Asesu

Mae asesiadau'n ymwneud yn uniongyrchol â deilliannau dysgu ac mae pob asesiad yn cwmpasu casgliad o ddeilliannau o'r fath fel arfer. Wrth gynllunio a phenderfynu ar fformat asesu ar gyfer modiwl, ystyriwyd y ffactorau canlynol:

  • Deilliannau dysgu'r modiwl a'u lefel, gyda phwyslais arbennig ar allu'r myfyriwr i ddadansoddi, cyfosod, gwerthuso a chyfleu gwybodaeth sy'n deillio o:
  • Cynnwys y Modiwl
  • Gwybodaeth a ddysgwyd o feysydd/cymwysterau eraill
  • Profiad
  • Gweithredu strategaethau systematig i chwilio am wybodaeth
  • Annog myfyrwyr i gymhwyso eu sgiliau i broblemau diwydiant/busnes/rheoli penodol
  • Ymdrin â phroblemau mewn ffordd systematig a defnyddio dulliau profi a allai ddatrys y problemau hynny
  • Meini prawf perfformiad asesu, fel y'u cyfathrebir i'r myfyriwr
  • Dilysrwydd a dibynadwyedd y dulliau asesu, sy'n cael eu monitro gan arweinwyr modiwlau, grwpiau maes a thimau rhaglenni
  • Cyfyngiadau amser (i fyfyrwyr a staff) a'r angen i sicrhau cysondeb
  • Y defnydd o strategaethau amrywiol y gall myfyriwr eu defnyddio i ddangos yr hyn y mae'n ei wybod, ei ddeall neu'n gallu ei wneud
  • Yr angen am asesiad i ganiatáu ar gyfer adolygu a myfyrio gan y myfyriwr

Gall yr asesiadau eu hunain fod mewn sawl ffurf wahanol er mai un o nodweddion allweddol y rhaglen yw'r ddibyniaeth ar waith cwrs yn hytrach nag asesiadau sy'n seiliedig ar arholiadau. Mae enghreifftiau o asesiadau'n cynnwys cyflwyniadau unigol neu grŵp, cyflwyniadau poster, adroddiadau, traethodau, tasgau ymarferol, cwestiynau amlddewis a phrofion dosbarth ag amser cyfyngedig.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Mae graddedigion llwyddiannus wedi cael swyddi ar lefel goruchwylio a rheoli nid yn unig yn y sectorau busnes a masnach traddodiadol ond hefyd mewn mentrau bach a chanolig, y sector cyhoeddus a'r sectorau gwirfoddol.

Mae eraill wedi dewis parhau â'u hastudiaethau ac wedi symud ymlaen i raglenni Lefel Meistr fel MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol, MSc Rheoli Ariannol ac MBA yn Ysgol Reoli Caerdydd.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai fod gan ymgeiswyr naill ai Ddiploma Cenedlaethol Uwch (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Busnes a Rheoli, gradd Sylfaen neu gymhwyster (NARIC) cyfatebol sydd werth 240 o gredydau.

Ymgeiswyr Rhyngwladol: Cyn gwneud cais, dylai myfyrwyr rhyngwladol (y rhai y tu allan i'r UE), gysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol ym Met Caerdydd i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol mewn perthynas ag astudio gyda ni. Am ragor o wybodaeth ewch i tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.


Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol: Y prif feini prawf ar gyfer dethol ymgeiswyr yw bod yn rhaid iddynt ddangos y gallant lwyddo ar raglen radd.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno ymuno â'r cwrs wneud cais ar sail Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) neu Gydnabod Dysgu Blaenorol drwy Brofiad (RPEL) i'w derbyn gyda Chredyd. Rhaid i geisiadau o'r fath gydymffurfio â Rheoliadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer statws uwch a rhaid i ymgeiswyr gyflwyno portffolio o dystiolaeth. Caiff hyn ei asesu gan aelodau o dîm y cwrs yn y lle cyntaf ac anfonir adroddiad i'w gadarnhau at Bwyllgor Dysgu ac Addysgu'r Ysgol. Bydd y manylion yn y portffolio hwn yn dibynnu ar natur y credyd sy'n cael ei hawlio.


Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r Brifysgol yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais Rhyngwladol.


Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau Rhyngwladol ar 029 2041 6045 neu e-bostiwch international@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch ag Dr Kyriaki Flouri
E-bost: kflouri@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn yn llawn amser.

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms