Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Marchnata Digidol – Gradd BA (Anrh)

Rheoli Marchnata Digidol – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Digidol ym Met Caerdydd wedi'i hachredu a'i datblygu ar y cyd â meysydd llafur y Sefydliad Marchnata Uniongyrchol a Digidol (IDM) ac anghenion y diwydiant digidol. Mae sianeli marchnata digidol wedi chwyldroi'r modd y mae pob busnes - boed yn fentrau annibynnol domestig neu fyd-eang, mawr neu fach - yn gweithredu ac yn marchnata eu gweithgareddau busnes. Mae nifer cynyddol o sefydliadau'n manteisio ar blatfformau marchnata digidol er mwyn gwella a chefnogi eu hamcanion cyfathrebu marchnata craidd. O'r herwydd, mae rheoli marchnata digidol wedi esblygu o fod yn elfen ymylol o farchnata sefydliadol i weithgaredd allweddol y mae'n 'rhaid ei wneud'. Mae cyflogwyr o bob sector busnes yn chwilio am raddedigion sydd â sgiliau marchnata digidol er mwyn hwyluso'r sylfaen wybodaeth hon yn eu sefydliadau. Byddwch yn dysgu ystod eang o offer a thechnegau marchnata digidol allweddol gan gynnwys Dadansoddeg Ddigidol, Marchnata Chwilio: Cynnwys a SEO a PPC a Marchnata Symudol a Chymdeithasol.

Bydd dod yn 'Farchnatwr Met' yn eich galluogi i ennill y wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gael gwaith yn y diwydiant marchnata ac mae ganddo enw da am ei bwyslais galwedigaethol. Ar ôl graddio bydd gennych sylfaen eang o wybodaeth am ddigidol, marchnata a rheoli, ac yn ôl marchnatwyr dyma fydd y galluoedd gwybodaeth pwysicaf ymhen pum mlynedd: Marchnata Digidol, Brandio, Cyfathrebu Marchnata, Marchnata Byd-eang a Rhyngwladol, Cysylltiadau Cyhoeddus ac Enw Da Corfforaethol. Bydd y radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Digidol yn eich galluogi i ddefnyddio'r wybodaeth hon i greu cynllun marchnata digidol cydgysylltiedig hefyd.

Mae gan y Darlithwyr wybodaeth academaidd a phrofiadau diwydiant i addysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl graddio. Byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn oherwydd ystyrir hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob myfyriwr marchnata. I'r rhai sy'n dymuno, mae cyfle ychwanegol i wneud gradd ryngosod lle gellid treulio'r drydedd flwyddyn yn gwneud lleoliad priodol yn y diwydiant marchnata. Mae gan Ysgol Reoli Caerdydd dîm lleoliadau gwaith pwrpasol i'ch helpu.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.

Mae 100% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion ​2023)


Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Gradd:

Mae'r cwrs yn integreiddio profiad 'byd go iawn' yn ein harferion addysgu er mwyn galluogi dealltwriaeth glir o'r broses rheoli marchnata. Mae aseiniadau'n seiliedig ar sefydliadau lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac mae darlithwyr gwadd hefyd o blith ymarferwyr o gwmnïau fel Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Admiral Insurance, Confused.com, Lloyds Bank a Johnson and Johnson.

Byddwch yn cael cyfle hefyd i astudio iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac i astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a'ch sgiliau; pob un yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn Rheoli Marchnata Digidol.


Blwyddyn Un:

Mae myfyrwyr yn dilyn 120 credyd o fodiwlau craidd:

  • Cyflwyniad i Farchnata Digidol (20)
  • Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr (20)
  • Marchnata Chwilio (20)
  • Hanfodion Systemau Gwybodaeth (20)
  • Cyllid i Reolwyr (20)
  • Y Gyfraith a’r Byd Busnes (20)

Blwyddyn Dau:

Mae myfyrwyr yn dilyn 100 credyd o fodiwlau craidd a bydd yn rhaid iddynt ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol.

Ym mlwyddyn dau cewch eich cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol. Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig y profiad o roi theori ar waith a gweld sut mae'r theorin cael ei defnyddio mewn sefydliad, yn uniongyrchol. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.

Modiwlau craidd:

  • Cyfathrebu Marchnata Digidol Creadigol (20)
  • Dadansoddeg Ddigidol (20)
  • Ymddygiad Defnyddwyr Digidol (20)
  • Dulliau Ymchwil Marchnata (20)
  • Marchnata Digidol Ar Waith (20)

Modiwlau dewisol:

  • Marchnata Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol (20)
  • Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd (20)

Blwyddyn Tri:

Dyma'ch cyfle i gyflawni'r opsiwn a threulio blwyddyn tri mewn lleoliad gwaith perthnasol i ennill blwyddyn o brofiad diwydiannol.


Blwyddyn Tri/ Blwyddyn Pedwar

Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis yr opsiwn blwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i'r myfyrwyr hynny sy'n dewis yr opsiwn profiad ymarferol.

Mae myfyrwyr yn dilyn 60 credyd o fodiwlau craidd a bydd yn rhaid iddynt ddewis 60 credyd o fodiwlau dewisol. Bydd blwyddyn tri/pedwar yn rhoi dewis i chi ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno cynllun Marchnata hefyd. Mae ein myfyrwyr wedi gweld hyn yn ddefnyddiol iawn, gan ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fynd i'r afael â gofynion sefydliadau. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau i fynd i'r afael â materion marchnata penodol ac ennill lefel uchel o brofiad, yn ogystal â ffurfio perthynas waith dda gyda'r sefydliadau. Bydd hyn o fudd mawr i'ch gyrfa.

Modiwlau craidd:

  • Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang mewn Byd Digidol (20)
  • Cynnwys, Hawlfraint a Chreadigrwydd (20)
  • Marchnata Dylanwadwyr (20)

Modiwlau dewisol:

  • Traethawd Hir Digidol (40)
  • Rheoli Cyfrifon i Farchnatwyr (20)
  • Cynllun Marchnata Digidol (40)
  • Materion Cyfoes ym maes Marchnata (20)
  • Rheoli Hysbysebu Strategol (20)
  • Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20)
  • Arloesi ac Entrepreneuriaeth (20)
  • Profiad Gwaith mewn Diwydiant (20)

Mae modiwlau dewisol yn rhedeg yn amodol ar alw ac argaeledd digonol.

Dysgu ac Addysgu

Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol; astudiaethau achos; prosiectau; tiwtorialau; ymarferion ymarferol, a ategir gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol; darlithoedd gan arbenigwyr busnes; fideos; meddalwedd gyfrifiadurol; ac ati Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.

Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.

Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.

Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.

Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.

Bydd pob myfyriwr yn elwa o'r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.

Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.


Asesu

Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, a thraethawd hir, gyda llawer ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achosion bywyd go iawn.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sy'n ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd mewn:

  • Marchnata Digidol
  • Marchnata Symudol
  • Rheoli Cyfrifon Uwch Swyddog Gweithredol
  • Dadansoddeg y We
  • Chwilio a'r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Rheoli Cynnwys y We
  • Datblygiad Creadigol Digidol
  • Cyfathrebiadau Marchnata

Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Ddigidol ym Met Caerdydd wedi'i ddatblygu ar y cyd â meysydd llafur y Sefydliad Marchnata Digidol (IDM) ac anghenion y diwydiant digidol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y CIM Pitch/Brolio.​

Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.

Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o farchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn' a'r cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM ac IDM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.

Ymholiadau Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch a Dr Paula Kearns

E-bost: PKearns@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
N501 - Gradd 3 blynedd
N51F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​