Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Cyfrifeg - BA (Anrh)

Cyfrifeg - BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

​Mae'r cwrs gradd BA (Anrh) Cyfrifeg ym Met Caerdydd wedi'i achredu'n broffesiynol gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr. O'r herwydd, gall myfyrwyr gael y nifer uchaf o eithriadau o arholiadau proffesiynol y cyrff hyn.

​Bydd y cwrs yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i chi i bob maes cyfrifeg ac yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach yng nghamau olaf cymwysterau cyfrifeg proffesiynol.

Mae myfyrwyr sy'n dewis yr opsiwn rhyngosod yn gwneud lleoliad gwaith blwyddyn o hyd rhwng eu hail a'u trydedd flwyddyn astudio. Hefyd, mae gennym bartneriaeth strategol barhaus gyda Graham Paul Chartered Accountants, sy'n darparu lleoliadau haf 12 wythnos o hyd â thâl i nifer o fyfyrwyr Met Caerdydd, gyda'r bwriad o gynnig contractau hyfforddi parhaol i raddedigion.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.

Mae 100% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion ​2023)


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

​Blwyddyn Un:

  • Cyfrifeg Ariannol a Digidol
  • Gwasanaethau Ariannol Byd-eang
  • Cyfrifeg Rheoli
  • Dulliau Meintiol
  • Yr Economi – Microeconomeg
  • Yr Economi - Macroeconomeg

Blwyddyn Dau:

  • Archwilio a Sicrwydd
  • Cyfraith Gorfforaethol a Busnes
  • Rheolaeth Ariannol
  • Adroddiadau Ariannol
  • Rheoli Perfformiad
  • Trethiant

Blwyddyn Tri:

  • Rheolaeth Ariannol Uwch
  • Adroddiadau Ariannol Uwch
  • Rheoli Perfformiad Uwch
  • Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol
  • Trethi Uwch neu Drethi Uwch (Singapôr)*

Opsiynau**:

  • Offer Economaidd i'r Llywodraeth
  • Cyfrifeg Fforensig
  • Rheoli Buddsoddi


*Opsiwn gorfodol. Bydd myfyrwyr sy'n astudio yng Nghaerdydd yn dilyn Fersiwn y DU. Fersiwn Singapôr i’w chyflwyno gan Bartneriaid Cydweithredol yn unig

**Bydd modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn amodol ar alw ac argaeledd


Dysgu ac Addysgu

Yn y rhan fwyaf o fodiwlau, mae'r dull addysgu yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd byr bob wythnos, ynghyd â dwy awr o seminarau yr wythnos. Mae seminarau'n rhai ymarferol ac fel arfer yn cael eu cynnal fel gweithdai sy'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Cefnogir pob modiwl yn llawn gan Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y brifysgol fel rhan o ddull dysgu cyfunol a gall myfyrwyr hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtoriaid modiwlau a thiwtoriaid personol ar adeg sy’n gyfleus i bawb.

Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys cyrsiau byr mewn rhaglenni cyfrifiadurol gwahanol ac entrepreneuriaeth.

Mae'r tîm addysgu yn cynnwys gweithwyr proffesiynol brwdfrydig sydd â phrofiad o'r diwydiant fel cyfrifwyr cymwysedig a gweithgarwch ymchwil perthnasol.


Asesu

Mae’r gwaith cwrs yn ymarferol iawn ei natur, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen ar gyfrifydd proffesiynol. Mae asesiadau ar gyfer modiwlau wedi'u hachredu'n broffesiynol yn cynnwys arholiadau llyfr caeedig er mwyn bodloni gofynion eithrio.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Mae cryn alw gan gyflogwyr y DU am raddedigion cyfrifeg ac mae profiad blaenorol yn awgrymu y bydd cyfran sylweddol o raddedigion yn cael lleoedd hyfforddi graddedigion gyda'r 'pedwar enw mawr' (Deloitte, PwC, EY, KPMG), adrannau cyllid busnesau, practisau'r stryd fawr a'r sector cyhoeddus.

Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag arbenigwyr cyflogadwyedd y brifysgol ochr yn ochr â'u cwricwlwm craidd gydol eu cwrs astudio ac yn cael gwahoddiad i fynychu gweithdai rheolaidd gyda'r cyrff cyfrifeg proffesiynol a gyflwynir yn benodol i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae'r cwrs wedi'i achredu'n llawn gan y prif gyrff cyfrifeg a byddwch yn gallu cael yr eithriadau mwyaf posibl o arholiadau ACCA, ICAEW a CIMA. Mae'n gwrs heriol felly, sy'n cyfuno'r ochr academaidd â datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i basio arholiadau terfynol y cyrff cyfrifeg.

Mae mynd ymlaen i astudio cwrs ôl-raddedig Ysgol Reoli Caerdydd yn opsiwn hefyd.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Judi Stockford, arweinydd y rhaglen:
Ebost: jstockford@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5638

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
N400 - Gradd 3 blynedd
N40F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Lleoliad astudio:
Campws Llandaf


Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd


Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​