Skip to main content
Hafan>Ysgol Reoli Caerdydd>Marchnata a Strategaeth

Marchnata a Strategaeth

Mae'r Adran Marchnata a Strategaeth yn ganolfan uchel ei pharch ym maes darparu gweithgareddau addysgu, ymchwil ac entrepreneuraidd. Mae'n gartref i dros 20 o staff gyda chefndiroedd academaidd, ac ymarferwyr amrywiol sy'n gonglfaen ein hathroniaeth o roi’n damcaniaethau ar waith.

O ran marchnata, mae'r adran yn gyfrifol am amrywiol fodiwlau a graddau marchnata. Datblygwyd pob un ohonynt ar y cyd â'r Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM). Mae'r adran yn un o ddim ond 25 o Brifysgolion yn y wlad sydd wedi cael statws 'Porth Graddedigion' CIM. Mae ein hachrediad CIM yn galluogi myfyrwyr llwyddiannus i gael eithriadau priodol o'r cymwysterau CIM ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a mentergarwch wedi'u seilio ar CIM.

O ran disgyblaethau busnes strategol rydyn ni’n cynnig cyfres o raddau MBA Met Caerdydd ac mae gennym arbenigedd penodol mewn Rheoli Prosiectau. Dyluniwyd ein gradd MSc Rheoli Prosiect newydd i ateb y galw cynyddol yn y diwydiant, ac ar hyn o bryd mae'n aros am achrediad gan y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM) a'r Sefydliad Rheoli Prosiectau (PMI).

MBA Met Caerdydd 

Mae MBA Met Caerdydd yn gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac mae’n uchel ei barch. Mae’n denu myfyrwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, o'r DU a thramor. Mae'r MBA yn cyflwyno’r dulliau mwyaf diweddar o feddwl ym maes addysg reoli a bydd yn datblygu meddylwyr beirniadol gyda sgiliau i ddatrys problemau’n effeithiol ar lefel reoli.

Mae'r cwrs yn ymdrin â hanfodion addysg reoli – cwrs gloywi i raddedigion busnes neu gyflwyniad i raddedigion heblaw busnes. Mae’r modiwlau craidd yn ehangu ac yn archwilio'n sylfaenol hanfodion busnes a rheoli sydd wedi’u hintegreiddio â’r prif fodiwlau ym maes rheolaeth strategol, gan roi'r gallu i chi feddwl yn gysyniadol ac yn gyfannol. Byddwch hefyd yn gwneud modiwlau dewisol. Mae rhestr gynhwysfawr o’r rheini sy'n caniatáu ichi ganolbwyntio ar faes penodol fel cyllid, Rheoli Adnoddau Dynol neu farchnata, neu ganolbwyntio ar reoli’n fwy cyffredinol.

Cynigir yr MBA trwy nifer o lwybrau arloesol a llwybrau arbenigol gan gynnwys yr MBA amser llawn, MBA (Rhaglen Mynediad Uwch) ac MBA Gweithredol. 

Cyrsiau

Staff​

Content Query ‭[1]‬

​​
​​