Gyrfaoedd y Diwydiant Bwyd

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn creu llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr sy'n astudio cwrs gradd sy'n gysylltiedig â bwyd i ymgysylltu â gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, arbenigwyr diwydiant a Gyrfaoedd Blasus Cymru.

Gall graddedigion gael eu cyflogi gan un o'r nifer o wneuthurwyr bwyd a diod o Gymru yr ydym yn gweithio gyda nhw, a gweithio’n benodol fel Cyswllt Trosglwyddo Gwybodaeth Technolegydd Bwyd neu Gyswllt Trosglwyddo Gwybodaeth Gwerthu a Marchnata ar y prosiect HELIX.

Mae ein cystadleuaeth ysgolion flynyddol i ddatblygu cynnyrch newydd yn gwahodd disgyblion i ddatblygu ryseitiau arloesol ac yn eu cyflwyno i gyfleoedd astudio pellach yn y diwydiant bwyd a diod.

Mae Ysgol Haf breswyl IGD yn cynnig blas o fywyd myfyrwyr i ddisgyblion chweched dosbarth a mewnwelediad i gyfleoedd gyrfa yn y sector bwyd a diod.