Amdanom Ni

Yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE  

Mae Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn darparu cefnogaeth dechnegol, weithredol a masnachol i fusnesau bwyd er mwyn eu galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol.  

Mae ZERO2FIVE yn cyflogi technolegwyr bwyd a diod profiadol, arbenigwyr busnes ac uwch ddarlithwyr ac athrawon. Gyda'i gilydd, mae'r tîm hwn yn arbenigo ym mhob agwedd ar brosesu a gweithgynhyrchu, ynghyd â materion gweithredol a thechnegol, bwyd a diod. 

Mae ZERO2FIVE yn gallu defnyddio arbenigedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n cynnwys arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn gwyddor bwyd, maeth, dieteteg, deddfwriaeth bwyd, iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, datblygu cynnyrch newydd a gwyddorau biofeddygol. 

Mae ein tîm o arbenigwyr diwydiant bwyd, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ar gael i gynorthwyo ein cleientiaid ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau bwyd gan gynnwys technolegau pobi, llaeth a chig, rheoli hylendid, dylunio pecynnau, systemau rheoli technegol a datblygu cynnyrch newydd.  

Gall y tîm  busnes ddarparu cymorth marchnata, dadansoddi'r farchnad, datblygu cynnyrch newydd, ariannol ac ymgysylltu â’r diwydiant.  Gallwn hefyd gynorthwyo cwmnïau i ddod o hyd i gyllid, maen tramgwydd mawr yn natblygiad llawer o fusnesau.  

Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn ZERO2FIVE ar gael i'w defnyddio gan fusnesau ac ysgolion. Mae'r rhain yn cynnwys ystafellau synhwyraidd defnyddwyr, 4 ffatri maint addas ar gyfer gwaith peilota, cegin ddatblygu a chegin ymchwil i ddefnyddwyr. 

Am fwy o wybodaeth 

E-bost: ZERO2FIVE@CardiffMet.ac.uk

Ffôn: 02920 41 6306