Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Rwy'n Dechnolegydd Bwyd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE (FIC), yn cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru i ddatblygu a gweithredu eu Systemau Rheoli Ansawdd a'u Cynlluniau Diogelwch Bwyd (HACCP), yn ogystal â mentora graddedigion a gyflogir ar raglen KITE. Rwy'n cynnal archwiliadau mewnol, yn helpu cwmnïau i baratoi ar gyfer archwiliadau trydydd parti, cynghori ar ymholiadau Awdurdod Lleol, adolygu Systemau Rheoli Ansawdd, ysgrifennu cynlluniau HACCP, cefnogi Datblygu Cynnyrch Newydd, cynnal dadansoddiad cemegol o gynhyrchion, gan gynghori ar bennu oes silff, a chyfarwyddo ar gydymffurfiad labelu cyfreithiol.