Dr Maninder Ahluwalia

​​​​Dr Maninder Ahluwalia

Teitl Swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Geneteg Glinigol/Ddynol a Chyfarwyddwr Rhaglen MSc Gwyddoniaeth Biofeddygol
Rhif Ystafell: D2.01b
Rhif Ffôn:  ++ 44 (0) 29 2020 5924
Cyfeiriad E-bost:  mahluwalia@cardiffmet.ac.uk






Addysgu

Rwy’n rhan weithredol o’r gwaith o gynllunio a chyflwyno bioleg foleciwlaidd, geneteg, biowybodeg, meddygaeth a maeth manwl, ac epigeneteg ar nifer o raglenni yn yr adran Gwyddorau Biofeddygol, gan gynnwys BSc Gwyddor Gofal Iechyd, BSc Gwyddoniaeth Biofeddygol a Gwyddorau Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth) a MSc Gwyddoniaeth Biofeddygol. Rydw i hefyd yn rheoli’r rhaglen MSc Gwyddoniaeth Biofeddygol sy’n cynnig pum llwybr arbenigol (Geneteg Feddygol a Genomeg, Biocemeg Feddygol, Imiwnohaematoleg, Microbioleg Feddygol a phatholeg Celloedd a Moleciwlaidd).

Ymchwil

Mae’r rhan fwyaf o’m bywyd ymchwil wedi canolbwyntio ar egluro mecanweithiau gweithrediadau cyffuriau amrywiol gan gynnwys Rosiglitazone ac Anagrelide. Mae fy arbenigedd technegol ym maes dadansoddi mynegiad genynnau drwy qPCR, rheoleiddio trawsgrifiol, dadansoddi microarae, a genoteipio SNP. Yn fwyaf diweddar, rydw i wedi canolbwyntio ar gymhwyso fy arbenigedd i archwilio’r rhyngweithio rhwng genynnau a maeth ym meysydd maetheneteg a maethenomeg sy’n ehangu o’r newydd. Mae rhai enghreifftiau o amryffurfedd genynnau’n cyfrannu at yr ymateb metabolaidd, statws maeth, y gallu i ymateb/beidio ag ymateb i ymyraethau maethol. Ar yr un pryd, mae gan rai maetholion yn ein deiet y gallu i newid mynegiad genynnau a chyfrannu at iechyd ac afiechyd. Mae gen i ddiddordeb mewn deall mecanweithiau genomig ac epigenomig allweddol gweithrediadau cyfansoddion bioactif deietegol a’u rhyngweithio â’r genom. Rwy’n mwynhau sôn am “Fwyta i weddu i’ch Genynnau” a “maeth wedi’i bersonoli” ar lwyfannau ymgysylltu â’r cyhoedd amrywiol.

Cyhoeddiadau

  • Nurudeen Hassan, Ahmed Ali, Cathryn Withycombe, Maninder Ahluwalia, Raya Hamdan Al-Nasseri, Alex Tonks, Keith Morris TET-2 up-regulation is associated with the anti-inflammatory action of Vicenin-2. Cytokine 108 (2018) 37-42

 

  • Butcher L, Ahluwalia M, Örd T, Johnston J, Morris RH, Kiss-Toth E, Örd T, Erusalimsky JD  Evidence for a role of TRIB3 in the regulation of megakaryocytopoiesis. Sci Rep. 2017 Jul 27;7(1):6684

 

  • Nurudeen Hassan, Cathryn Withycombe, Maninder Ahluwalia, Andrew Thomas, Keith Morris A methanolic extract of Trigonella foenum-graecum (fenugreek) seeds regulates markers of macrophage polarization.  Functional Foods in Health and Disease 2015; 5(12): 417-426

 

  • Ahluwalia M, Butcher L, Donovan H, Killick-Cole C, Jones PM, Erusalimsky JD. The gene expression signature of anagrelide provides an insight into its mechanism of action and uncovers new regulators of megakaryopoiesis. J Thromb Haemost 2015; 13: 110312.

     
  • Isa SA, Ruffino JS, Ahluwalia M, Thomas AW, Morris K, Webb R. "M2 macrophages exhibit higher sensitivity to oxLDL-induced lipotoxicity than other monocyte/ macrophage subtypes." Lipids Health Dis. 2011 Dec 6;10(1):229.

 

  • Ahluwalia M, Donovan H, Singh N, Butcher L, Erusalimsky JD. 2010 Anagrelide represses GATA-1 and FOG-1 expression without interfering with thrombopoietin receptor signal transduction.  J Thromb Haemost 8(10):2252-61

 

  • Morris RH, Tonks AJ, Jones KP, Ahluwalia MK, Thomas AW, Tonks A, Jackson SK. 2008 DPPC regulates COX-2 expression in monocytes via phosphorylation of CREB. Biochem Biophys Res Commun. 370(1):174-8

 

  • Caddy J, Singh N, Atkin L, Ahluwalia M, Roberts A, Lang D, Thomas AW, Webb R. 2008 Rosiglitazone transiently disturbs calcium homeostasis in monocytic cells. Biochem Biophys Res Commun. 366(1):149-55

     
  • Ahluwalia M, Evans M, Morris K, Currie C, Davies S, Rees A, Thomas A. 2002 The influence of the Pro12Ala mutation of the PPAR-gamma receptor gene on metabolic and clinical characteristics in treatment-naive patients with type 2 diabetes. Diabetes Obes Metab 4(6): 376-8


Dolenni Allanol