Henry Dawson

​​

Teitl y Swydd:  Darlithydd mewn Tai ac Iechyd
 Rhif Ystafell:
 
D1. 03
 Rhif Ffôn:
 
+ 44 (0) 29 2041 6856
 Cyfeiriad E-bost:
  hdawson@cardiffmet.ac.uk 

 

 

Addysgu

Mae gan Henry Dawson BSc (Anrh) mewn Bioleg Gymhwysol ac MSc mewn Iechyd yr Amgylchedd.  Mae Henry wedi bod yn ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ers mis Tachwedd 2012. Mae'n arweinydd modiwl ac yn gyfrannwr ar gyrsiau israddedig Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd a'r rhaglen Meistr mewn Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles

Ymchwil

Meysydd diddordeb Henry yw'r astudiaeth o bolisi sy'n ymwneud â llety wedi ei rentu'n breifat, y berthynas rhwng tai ac iechyd a'r defnydd o dechnoleg i wella addysgu.

Cyhoeddiadau

Dawson, H. B. University education and training systems in the UK. Mawrth 2016. Wedi ei gyflwyno yn 13eg Gynhadledd Flynyddol MUESA, Kampala, Uganda

Dawson, H.B. The housing health and safety rating system. Gorffennaf 2014. Wedi ei gyflwyno yn 13eg Gynhadledd Iechyd Amgylcheddol y Byd, Las Vegas, UDA


 

Dolenni Allanol

 Mae Henry yn Aelod â Phleidlais o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd Siartredig (CEnvH, MCIEH), ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae'n arholwr allanol ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig Prifysgol Gorllewin Lloegr mewn Iechyd yr Amgylchedd ac Ymarfer Iechyd yr Amgylchedd. Mae Henry yn eistedd ar Banel Arbenigwyr Tai Cymru sy'n cydlynu gweithredu ar dai rhent preifat gan gynghorau lleol a Chyngor y Diwydiant Gosodiadau sy'n dylanwadu ar bolisi ac yn darparu arweiniad ar faterion sy'n ymwneud â'r farchnad tai rhent preifat yng Nghymru a Lloegr.