Mae Hannah yn Therapydd Lleferydd ac Iaith cymwysedig, ac mae wedi bod
yn gweithio fel rhan o dîm darlithio Met Caerdydd ers 2007.
Yn y flwyddyn 2000, dechreuodd Hannah ei swydd glinigol gyntaf yn Essex
yn gweithio gyda phlant ac oedolion ag anawsterau cyfathrebu a llyncu. Yn 2002,
symudodd Hannah yn ôl i Gaerdydd i ddechrau swydd fel Therapydd Lleferydd ac
Iaith Arbenigol mewn ysgol arbennig i blant ag anawsterau lleferydd ac iaith
penodol.
Pan symudodd Hannah i addysgu ym Met Caerdydd, cyflawnodd ei Thystysgrif
Ôl-raddedig Addysgu ym maes Addysg Uwch, a daeth yn Gymrawd o'r Academi Addysg
Uwch. Yn ogystal, cafodd Hannah gymrodoriaeth addysgu a arweinir gan fyfyrwyr
am addysgu arloesol yn 2012, ar ôl ail-gynllunio ei haddysgu i gynnwys dulliau
clinigol dilys. Yn 2015, cafodd Hannah Uwch Gymrodoriaeth gan yr Academi Addysg
Uwch, sy'n adlewyrchu ei hymgysylltiad parhaus â dysgu ac addysgu.
Ar hyn o bryd, mae Hannah yn cynnal clinig pediatrig yn y brifysgol mewn
cydweithrediad â'r bwrdd iechyd lleol, ac mae'n aml yn goruchwylio lleoliadau
myfyrwyr. Mae hi hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Clinigol, ac yn addysgu am namau
lleferydd ac iaith pediatrig.
Mae Hannah yn aelod o'r corff proffesiynol, Coleg Brenhinol y
Therapyddion Iaith a Lleferydd, a'r corff rheoleiddio y Cyngor Proffesiynau
Iechyd a Gofal.
Mae Hannah yn arbenigo mewn anawsterau lleferydd ac iaith, gan gynnwys
namau iaith penodol ac anhwylderau sain lleferydd.
Mae'n addysgu ar y modiwlau canlynol:
SLP5021 Patholeg Lleferydd ac Iaith 1
SLP5031 Patholeg Lleferydd ac Iaith 2
SLP5050 Arfer Clinigol 1
SLP6011 Patholeg Lleferydd ac Iaith 3
SLP6040 Seicoieithyddiaeth a Niwroseicoleg Wybyddol
SLP6050 Arfer Clinigol 2
SLP6080 Prosiect Blwyddyn Olaf
Mae diddordebau ymchwil Hannah ym maes anhwylderau sain lleferydd a nam
ieithyddol. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar oedolion sydd â namau ieithyddol
datblygiadol parhaus, ac ar hyn o bryd mae Hannah yn cyflawni ei gradd Meistr
mewn Ymchwil ym Met Caerdydd er mwyn ymchwilio i'r boblogaeth hon ymhellach, ac
i archwilio anghenion cymorth ymhellach.
Plumpton, H. (2010) Bridging the Gap' between theory and practice-
Situative Learning and Experiential Techniques in the Lecture Theatre yn
Haslett, S.K. (Gol) Linking research and teaching in Wales. Yr Academi Addysg
Uwch.
Plumpton, H. a Mayr, R. (2014) Clinical Morphology
yn Methods in Teaching Clinical Linguistics and Phonetics (Whitworth a Knight
(goln). Guildford: Gwasg J&R