Cynnwys y Cwrs
(OSH7017) DIOGELWCH, IECHYD A LLESIANT GWEITHWYR (20 CREDYD):
Nod y modiwl yw gwerthuso'r dylanwadau cadarnhaol a negyddol sydd gan y gweithle ar ddiogelwch ac iechyd gweithwyr a gwerthuso'r dystiolaeth ar gyfer creu dull hollgynhwysol o wella diogelwch, iechyd a llesiant yn y gwaith.
(FST7008) CANFYDDIAD RISG, ASESU A CHYFATHREBU (20 CREDYD):
Nod y modiwl yw galluogi'r myfyriwr i werthuso'r effaith y mae ystod eang o ffactorau gan gynnwys dylanwadau seicolegol a seicogymdeithasol yn ei chael ar ganfyddiad, asesu a chyfathrebu risg. Bydd y modiwl yn cynnwys nodi peryglon, asesiad risg, ffactorau lliniaru a'u heffaith gyffredinol ar ddiogelwch, iechyd a llesiant.
(SHS7000) DULLIAU A DYLUNIO YMCHWIL GYMHWYSOL (20 CREDYD)
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil er mwyn cymhwyso egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dylunio a chynnal prosiectau ymchwil cadarn.
(OSH7018) DATBLYGU YMYRIADAU & DYLANWADU AR YMDDYGIAD (20 CREDYD):
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i gymharu a chyferbynnu dulliau o ddylanwadu ar ymddygiad gweithwyr a llunio ymateb strategol a dull amlddisgyblaethol o wella diogelwch, iechyd a llesiant yn y gweithle.
(OSH7012) MEASURING SAFETY, HEALTH AND WELLBEING PERFORMANCE (20 CREDITS):
Nod y modiwl yw galluogi'r myfyriwr i werthuso a gwella effeithiolrwydd rhaglenni iechyd, diogelwch a llesiant trwy arfarnu canlyniadau perfformiad unigol a sefydliadol.
(OSH7015) YMGYSYLLTU A LLESIANT Y GWEITHIWR (20 CREDYD):
Nod y modiwl yw galluogi'r myfyriwr i werthuso a gwella effeithiolrwydd rhaglenni iechyd, diogelwch a llesiant trwy arfarnu canlyniadau perfformiad unigol a sefydliadol.
(OSH7016) PROSIECT YMCHWIL (60 CREDYD):
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddylunio, cynllunio, cynnal a chyflwyno ymchwil mewn maes astudio perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o'u disgyblaeth a'u maes ymarfer proffesiynol.
Dysgu ac Addysgu
Darlithoedd Wyneb yn Wyneb
Cynhelir darlithoedd wyneb yn wyneb ar y campws ac maent yn cynnwys defnyddio amrywiol gyfryngau a dulliau addysgu, gan gynnwys cyflwyniadau, fideos, technoleg rhith-realiti a thrafodaeth fanwl.
Dysgu Cyfunol
Mae dysgu cyfunol yn ymgorffori addysgu wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein â chymorth trwy Moodle ein Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE).
Dysgu o Bell
Mae opsiwn dysgu o bell yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Cysylltwch â Stuart Scott i gael mwy o fanylion ynghylch pryd y bydd yr opsiwn uchod ar gael:
sscott@cardiffmet.ac.uk , Ffôn: +44(029) 2041 6872
Lleoliadau Gwaith a Dysgu'n Seiliedig ar Waith
Mae lleoliadau gwaith a chyfleoedd dysgu yn y gwaith wedi'u hintegreiddio trwy gydol y rhaglen. Anogir myfyrwyr i gynnal a chwblhau prosiectau yn y gwaith fel rhan o sawl asesiad modiwl. I'r rhai nad ydynt mewn gwaith mae gennym Gydlynydd Lleoli sy'n gweithio gyda myfyrwyr i sicrhau lleoliadau byr ac interniaethau tymor hwy wrth astudio ar y rhaglen.
Moodle
Gall myfyrwyr gael mynediad at ddeunydd rhaglen ar ac oddi ar y campws trwy Moodle, amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyflwyniadau darlithoedd, cyflwyniadau Panopto Video, tasgau rhyngweithiol, cwisiau, darllen argymelledig a gofynnol, fforymau grŵp, e-bortffolios ac ystod o adnoddau dysgu ac addysgu eraill sy'n benodol i'r modiwlau a'r rhaglen.
Oriau Astudio
TYn nodweddiadol ar gyfer modiwl 10 credyd, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â'r hyn sy'n cyfateb i 18 awr o astudiaeth a addysgir neu a gyfarwyddir wedi'i ategu gan 82 awr o astudiaeth hunangyfeiriedig.
Yn nodweddiadol ar gyfer modiwl 20 credyd, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â'r hyn sy'n cyfateb i 36 awr o astudiaeth a addysgir neu a gyfarwyddir wedi'i ategu gan 164 awr o astudiaeth hunangyfeiriedig.
Mae'r rhain yn oriau dangosol a gallant amrywio ar draws modiwlau.
Tiwtoriaid Personol
Tra ar y rhaglen bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol a fydd yn helpu i'w cefnogi a'u tywys trwy eu profiad dysgu.
Datblygiad Proffesiynol
Yn ystod eich astudiaethau fe'ch anogir yn weithredol i integreiddio'ch profiadau dysgu â'ch anghenion a'ch dyheadau ynghylch eich datblygiad proffesiynol eich hun.
Modiwlau fel Cyrsiau Byr
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau proffesiynol gellir cymryd nifer o fodiwlau fel modiwlau CPD unigol. Gellir astudio modiwlau fel modiwlau credydol, sy'n gofyn am gyflwyno aseiniadau, neu anghredydol, nad oes angen cwblhau aseiniadau. Cyhoeddir tystysgrif presenoldeb ar gyfer modiwlau a gymerir fel rhai anghredydol.
Mae' r modiylau dilynnol ar gael fel CPD:
Modiwl/strong> |
Credydau |
Pris Credydol |
Pris Anghredydol |
SHS7000 Dulliau a Chynllunio Ymchwil Cymhwysol | 20 | £1000* | £750* |
OSH7017 Diogelwch, Iechyd a Llesiant Gweithwyr | 20 | £1000* | £750* |
FST7008 Canfyddiad Risg, Asesu a Chyfathrebu | 20 | £1000* | £750* |
OSH7012 Mesur Perfformiad Diogelwch, Iechyd a Llesiant | 20 | £1000* | £750* |
OSH7018 Datblygu Ymyriadau & Dylanwadu ar Ymddygiad | 20 | £1000* | £750* |
OSH7015 Ymgysylltu a Llesiant Gweithwyr | 20 | £1000* | £750* |
**Sylwch: Mae'r prisiau'n arwyddol ond gallant newid.
Asesiad
Asesir yr MSc hwn gan waith cwrs. Mae enghreifftiau o dasgau asesu yn cynnwys adroddiadau, traethodau, astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar a phoster academaidd. Mae tasgau asesu yn annog myfyrwyr i ddewis pynciau astudio penodol sy'n berthnasol iddyn nhw a'u hymarfer
Buddion
Buddion unigryw i astudio ein MSc Iechyd, Diogelwch a Llesiant Galwedigaethol:
Cefnogaeth academaidd wrth ddechrau'r cwrs neu'r modiwlau
Modiwl E-ddysgu sgiliau academaidd am ddim
Wythnos sgiliau academaidd (Wedi'i chyflwyno ar ddechrau'r cwrs)
Pwyslais ar les ac ymgysylltiad gweithwyr
Gwella a chyfoethogi sgiliau iechyd a diogelwch traddodiadol
Lleoliadau diwydiannol a dysgu yn y gwaith
Cefnogaeth ac arweiniad i'r rheini sydd am ddatblygu sgiliau ymarferol ymhellach
Portffolio o offer
Canllawiau a dogfennau defnyddiol y gellir eu lawrlwytho a'u defnyddio mewn cyd-destun ymarferol.
Cymhwyster cydnabyddedig ac uchel ei barch yn rhyngwladol
Cydnabyddir yn rhyngwladol gan gyrff y llywodraeth, y sector cyhoeddus a phreifat a chyflogwyr o lawer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys ymhlith eraill, y DU, Oman, Libya, Lebanon, Nigeria a'r Almaen.
Cysylltiadau agos â diwydiant
Mae gennym berthynas gweithiol agos â llawer o sefydliadau a chwmnïau mewn sectorau amrywiol gan gynnwys: Diwydiant Trwm, Gweithgynhyrchu, y Sector Cyhoeddus a Gofal Iechyd
Achrediad gan Sefydliad Diogelwch ac Iechyd (IOSH)
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau elfen Diploma Ôl-radd y cwrs yn llwyddiannus yn gymwys i fod yn aelod o Raddedigion IOSH.
Gwell potensial gyrfa
Mae arolwg cyflog IOSH (2016) yn nodi mai cyflog cyfartalog gweithiwr iechyd a diogelwch proffesiynol gyda chymhwyster gradd meistr yw £50,000.
Mae llawer o Raddedigion bellach mewn swyddi ar Lefel Uwch Reolwyr a Chyfarwyddwyr. Mae Graddedigion eraill wedi mynd ymlaen i ymgymryd â PhD
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Proffil Graddedigion 2015
Proffil Graddedigion 2015 MSc Iechyd, Diogelwch a Llesiant Galwedigaethol
Daniah Turjman
Arbenigwr Iechyd a Diogelwch yr Amgylchedd Gweinyddiaeth yr Amgylchedd, Lebanon--
Ers cwblhau'r MSc Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant ym mis Gorffennaf 2015, rwyf wedi bod yn gweithio fel Swyddog Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol mewn Cwmni Rheoli Gwastraff o'r enw Averda.
Rwy’n hapus iawn gyda fy ngwaith a chefais fy hun mewn sefyllfa fanteisiol yn y cam recriwtio o ystyried yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu yn fy ngradd am reoli OHS. Roedd y gwaith cwrs ynghyd â theori a phrofiadau ein darlithwyr yn arbennig o graff.
Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar brosiect newydd i gynnal asesiad Iechyd a Diogelwch o'r holl brosiectau a safleoedd cwmnïau ledled y byd, gan gynnwys: Emiradau Arabaidd Unedig, KSA, Oman, Qatar, Jordan, Moroco, Congo a Gabon. Mae gweithio'n rhyngwladol yn ddiddorol iawn, mae gennym swyddfeydd yn Llundain, a phrosiectau yn Nulyn a Galway.
Sylwadau Graddedigion:
DEAN BARNETT - PENNAETH IECHYD A DIOGELWCH
Sut mae'r cwrs wedi eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol?
'Rhoddodd fy ngradd meistr gyfle i mi agor dadl, cloddio ychydig yn ddyfnach ac ystyried ffyrdd dyfeisgar o weithredu strategaethau iechyd a diogelwch mewn gwahanol ddiwydiannau'
CHRIS GARLICK - RHEOLWR IECHYD A DIOGELWCH
Pam wnaethoch chi ddewis y cwrs hwn yn hytrach nag unrhyw ddewisiadau amgen?
'Un o'r pethau mwyaf deniadol am y cwrs yw ei ddull strategol cyffredinol o reoli iechyd, diogelwch a llesiant yn y gweithle.'
Beth oedd eich argraff o'rr gefnogaeth gan staff addysgu?
'Heb ei ail. Ar gael bob amser, cefnogaeth ymarferol dda a dull addysgu cyfeillgar ond proffesiynol.'
CATHY FISHER - ARWAIN YMGYSYLLTU A LLESIANT
Pe bai'n rhaid i chi ddisgrifio'r manteision o wneud y cwrs MSc OHSW mewn un frawddeg beth fyddech chi'n ei ddweud?
'Mae'r wybodaeth a gafwyd yn gyfredol ac yn berthnasol i weithle heddiw a rhai'r dyfodol. Mae'r tiwtoriaid a'r gefnogaeth a ddarparwyd wedi bod heb ei ail. Roeddwn wedi mwynhau'n wirioneddol. Gwaith caled ond yn werth chweil.'
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob sector yma yn y DU ac o lefydd eraill o bob cwr o'r byd:
- Fel rheol, mae disgwyl i ddarpar fyfyrwyr feddu ar radd mewn disgyblaeth sy'n ymwneud â diogelwch ac iechyd galwedigaethol.
- Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad perthnasol arall mewn diogelwch ac iechyd galwedigaethol, neu broffesiwn cysylltiedig, yn cael eu hystyried.
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Lle bo hynny'n berthnasol, gall ymgeiswyr wneud cais am eithriad o fodiwlau trwy'r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL). Gall hyn gynnwys trosglwyddo credyd o raglen lefel 7 arall, cydnabod dysgu blaenorol wedi'i gredydu a chydnabod dysgu trwy brofiad blaenorol'.
Gellir gweld manylion y broses RPL ar
wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Gofynion Iaith Saesneg
Rhaid i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf allu dangos ar fynediad hyfedredd iaith Saesneg ar sgôr IELTS o 6.5 o leiaf.
Mae cyrsiau Saesneg cyn-sesiynol ar gael trwy Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n cwrdd â'r gofyniad i ddechrau.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais ac am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’rtudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth . FAm wybodaeth pellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y
dudalen RPL.
Gwybodaeth Ychwanegol
Hyd y Cwrs:
Mae'r cyfnodau astudio canlynol ar gael. Mae pob llwybr yn cynnwys 120 credyd o ddosbarthiadau a addysgir a phrosiect ymchwil dan oruchwyliaeth 60 credyd.
Derbyniadau Medi (09) ac Ionawr (01)
Llawn Amser (FT) - Wedi'i gwblhau mewn blwyddyn i ddwy
Rhan Amser (PT) - Wedi'i gwblhau mewn dwy i dair blynedd
Dyfarniadau a Llwybrau Ymadael
Tystysgrif Ôl-raddedig - UNRHYW 60 credyd o fodiwlau a addysgir
Diploma Ôl-raddedig - HOLL 120 credyd o fodiwlau a addysgir
Meistr - HOLL 120 credyd o fodiwlau a addysgir a phrosiect ymchwil 60 credyd.
FFIOEDD DYSGU A CHEFNOGAETH ARIANNOL:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Mae manylion llawn ar gost astudio rhan amser neu amser llawn ar gael trwy'r
wefan cyllid prifysgol, dewiswch 'Ffioedd Dysgu' ar ochr dde'r dudalen.
-
Ffioedd amser llawn (ffioedd y DU a rhyngwladol) -Oni nodir yn wahanol, cyfanswm y ffi yw cyfanswm cost y rhaglen gyfan
-
Ffioedd rhan amser --Yn seiliedig ar nifer y credydau a astudir bob blwyddyn academaidd.
Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd ym mlwyddyn 1 a 60 credyd ym mlwyddyn 2 (PgC & PgD), a phrosiect ymchwil 60 credyd ym mlwyddyn 3 (MSc). I gael gwir brisiad, eglurwch hyn trwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol./p>
YSGOLORIAETHAU ÔL-RADDEDIG A BENTHYCIADAU MYFYRWYR:
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig cynllun ysgoloriaeth ôl-raddedig i helpu myfyrwyr tra yn y brifysgol.
Gweld a ydych chi’n gymwys..
Mae Benthyciadau Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig y DU am fanylion pellach cliciwch
http://www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/Pages/Postgraduate,-Research-and-Part-Time-Students-.aspx
RHAGLEN BARTNERIAID
Mae'r rhaglen MSc Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Llesiant hefyd ar gael fel gradd Meistr a addysgir yn llawn ac yn rhan-amser yn Singapore.
Wedi'i chyflenwi gan ein sefydliad partner, Coleg Hyfforddi Rhyngwladol DIMENSIONS, mae'r rhaglen yn cael ei dilysu gan Cardiff Met a'i hachredu gan IOSH.
Am fanylion pellach, gweler gwefan
DIMENSIONS.
Cysylltu â Ni