HNC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Page Content
Cynnwys y Cwrs
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at ystod o bobl sydd ennill wedi ymrwymo i ennill dealltwriaeth o weithgareddau iechyd a gofal cymdeithasol ac sy'n ystyried dilyn gyrfa yn y sectorau hyn. Dyluniwyd y cwrs o amgylch y themâu canlynol: Pobl, Gwerthoedd, Moeseg a Chyfle Cyfartal, Newid, y Gyfraith, Rheoleiddio a Chanllawiau a Phrosesau Cymdeithasol ac mae'r themâu hyn yn ymddangos ym mhob agwedd ar y cwrs.
Dyluniwyd y cwrs ar sail modiwlau. Mae'r 12 modiwl fel a ganlyn:
- Polisi Cymdeithasol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Gwahaniaeth
- Deddfwriaeth
- Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Gweithio gydag Oedolion
- Gweithio gyda Phlant
- Materion Cyfoes ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Asesu Risg
- Agweddau Cymdeithasol ar Iechyd
- Agweddau Seicolegol ar Iechyd
- Gwerthuso Ansawdd
Potensial o ran Gyrfa
Nod y cwrs yw darparu cam tuag at gymhwyster academaidd pellach, gan gynnwys cymwysterau proffesiynol, a / neu yrfa yn y dyfodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gall myfyrwyr HNC llwyddiannus symud ymlaen i'r HND ac wedi hynny i flwyddyn tri o'r BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Asesu
Tri TGAU i gynnwys Saesneg ac un o'r canlynol:
- Mynediad i Addysg Uwch
- BTEC Blynyddoedd Cynnar
- Diploma Cenedlaethol Astudiaethau Iechyd BTEC
- Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC mewn gofal neu faes cysylltiedig arall
- GNVQ Uwch Edexcel mewn maes astudio priodol neu AVCE
- Tystysgrif / Diploma yr Institute of Welfare
- O leiaf un Safon Uwch mewn pwnc priodol
- Diploma CACHE
- O leiaf ddwy lefel UG mewn pynciau priodol.
Anogir myfyrwyr sydd heb y cymwysterau ffurfiol hyn ond sydd â phrofiad perthnasol i ymgeisio.
Ffeithiau Allweddol
Campws: Llandaf
DS. Mae'r cwrs hwn hefyd wedi'i fasnachfreinio i Goleg Ystrad Mynach a allai fod yn fwy cyfleus i fyfyrwyr o'r ardal honno.
Ysgol: CYsgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Hyd y Cwrs: Dwy flynedd yn rhan-amser
Dwy flynedd yn rhan-amser
Asesu:
Defnyddir ystod o ddulliau asesu sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu yn ogystal ag asesu. Mae'r rhain yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, astudiaeth achos, proffiliau personol ac arholiadau.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dethol fel arfer ar sail eich cymwysterau a'ch profiad blaenorol.
Gofynion Mynediad:
Dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU i gynnwys Iaith Saesneg ar radd C neu'n uwch, ynghyd ag un o'r canlynol:
- 260 pwynt o leiaf tair Safon Uwch / ‘Advanced Higher’ yr Alban i gynnwys graddau BC, gradd B mewn Saesneg neu Astudiaethau'r Cyfryngau
Ffeithiau Allweddol