Forensic Psychology Masters

Seicoleg Fforensig - Doethuriaeth (D. Foren. Psy.)

 

Ffeithiol Allweddol

Wedi’i gymeradwyo gan: 
Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal

Lleoliad Astudio: 
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Cwrs Ychwanegol - Dwy flynedd yn llawn-amser neu bedair blynedd yn rhan-amser.

Approved by:

Health and Care Professions Council

Course Overview

Mae'r Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig yn cael ei chymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Ar ôl ei chwblhau, mae'r rhaglen yn rhoi cymhwysedd i fyfyrwyr wneud cais i'r gofrestr i ymarfer fel Seicolegwyr Fforensig yn y DU.

Mae cofrestru ar gyfer Doethuriaeth Ychwanegol yn digwydd ym mis Ionawr, Ebrill a Medi bob blwyddyn. Mae'r Ddoethuriaeth Ychwanegol wedi'i chynllunio ar gyfer Seicolegwyr Fforensig cymwys a fyddai’n hoffi ymgymryd â phrosiect ymchwil ar faes o arbenigedd.

​Ar gyfer ymgeiswyr sy'n ceisio hyfforddi a chymhwyso fel Seicolegydd Fforensig gweler ein Diploma Ôl-raddedig mewn Seicoleg Fforensig Ymarferwyr. ​

​Cynnwys y Cwrs​​

Hyblygrwydd yw hanfod ein dull o ddysgu myfyrwyr. Mae'r Rhaglen Ddoethuriaeth yn hwyluso myfyrwyr sy'n dod i mewn ac allan mewn gwahanol fannau yn y Rhaglen yn dibynnu ar anghenion unigol y myfyriwr. Felly, mae'r rhaglen Ddoethuriaeth lawn yn cynnwys:

  • 120 credyd o MSc wedi’i achredu gan BPS mewn Seicoleg Fforensig
  • Diploma Ôl-raddedig mewn Seicoleg Fforensig Ymarferwyr
  • Doethuriaeth 'Ychwanegol', sef yr elfen ymchwil lefel uwch.

Bydd y Ddoethuriaeth Ychwanegol ar gael i ymarferwyr cofrestredig sy'n ceisio ffurfioli eu sgiliau ymchwil a chlinigol mewn maes arbenigedd. Bydd ymgeiswyr sy'n cwblhau'r Ddoethuriaeth Ychwanegol yn cyflwyno traethawd ymchwil yn adrodd ar ddarn sylweddol o ymchwil.

Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn cwblhau Rhaglen Ddoethuriaeth lawn wneud cais am y MSc neu’r Diploma Ôl-radd i ddechrau, yn dibynnu ar eu hanghenion unigol eu hunain a’u dilyniant gyrfa. Gellir dyfarnu Doethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig i ymgeiswyr sy'n cwblhau Diploma Ôl-radd a’r Ddoethuriaeth 'Ychwanegol'.

Dysgu ac Addysgu

Mae'r Ddoethuriaeth Ychwanegol yn cynnwys traethawd ymchwil. Astudiaeth ymchwil annibynnol fydd hon. Neilltuir tîm goruchwylio i bob myfyriwr a fydd yn gyfrifol am gefnogi a goruchwylio'r myfyriwr yn ystod ei ymchwil. Rhagwelir y gall nifer o fyfyrwyr ar y gydran Ychwanegol fod wedi'u lleoli yn bell o Gaerdydd ac yn yr achosion hynny bydd y tîm goruchwylio yn cynnal cyfarfodydd trwy Skype neu fideo-gynadledda. Fodd bynnag, lle mae hyfforddiant ychwanegol yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr fynychu'r brifysgol, disgwylir i'r myfyriwr gynnwys hyn yn ei ymrwymiadau amser.

Asesu

Asesir y traethawd ymchwil trwy arholiad viva voce.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Mae Doethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig yn galluogi graddedigion i ennill statws Ymarferydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HCPC).

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Rhaid i ymgeiswyr am y Ddoethuriaeth Ychwanegol fod wedi'u cofrestru fel Seicolegydd Fforensig gyda'r Cyngor Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HCPC).

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 7.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Y Broses o Ddethol:
Mae'r dethol fel arfer yn seiliedig ar dderbyn ffurflen gais, cynnig ymchwil a chyfweliad.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth . Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs yn Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i gwrs, e-bostiwch forensic@cardiffmet.ac.uk

​​​


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.cardiffmet.ac.uk/terms