Mark Williams

​Swydd:Arweinydd Rhaglen, TAR Uwchradd Hanes
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:MPWilliams2@cardiffmet.ac.uk
Ffôn:​029 2041 6527
​Rhif Ystafell:​B211

 

Ymchwil

Aelodaeth:
Historical Association

Diddordebau Ymchwil:
Effaith dysgu’n seiliedig ar ymchwilio ar gyrhaeddiad myfyrwyr
Datblygiad hunaniaeth broffesiynol ymhlith athrawon
Defnyddio ffilm ac animeiddiad i ymgysylltu â dysgwyr sydd wedi dadrithio
Rôl cymwysiadau symudol o ran cefnogi dysgu disgyblion

Proffil

Astudiais hanes ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn trosedd a chymdeithas, hanes Cymru a helfeydd gwrachod yn Ewrop ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg.  Derbyniais fy TAR o Brifysgol Abertawe a gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.   Rwyf wedi treulio 23 mlynedd fel Pennaeth Hanes mewn ysgolion uwchradd yn nhri o awdurdodau lleol Cymru.  Rwyf hefyd wedi ymgymryd â nifer o rolau ychwanegol mewn ysgolion gan gynnwys Pennaeth Blwyddyn, Cydlynydd Llythrennedd a Llywodraethwr Ysgol.  Rwyf hefyd wedi gweithio i awdurdodau lleol yn cynnal rhaglenni ymyrraeth llythrennedd, sefydlu amgylcheddau rhith-ddysgu, hyfforddi staff cymorth mewn ysgolion a lledaenu arfer da.  Rwy’n gweithio fel arholwr TGAU a Safon Uwch i sawl bwrdd arholi ac rwyf wedi cyhoeddi nifer o adnoddau ar-lein.  Ers 1992, rwyf wedi cyfrannu at hyfforddi athrawon o sawl sefydliad hyfforddiant athrawon gwahanol fel Mentor ac Uwch Fentor.  Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn natblygiad strategaethau addysgegol i wella profiadau dysgu dysgwyr ac rwyf wedi arwain nifer o raglenni a ariannwyd gan y Gronfa Dreftadaeth  i ymgysylltu â dysgwyr sydd wedi dadrithio.  Rwy’n awyddus i gynnal fy rôl fel ymarferydd yn y dosbarth ac rwy’n parhau i ddysgu ar draws Cyfnodau Allweddol Tri, Pedwar a Phump mewn ysgol gyfun 11-18.