Emma Thayer

Swydd:Uwch Ddarlithydd Drama
​Ysgol:Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E- bost:ethayer@cardiffmet.ac.uk
​Telephone:​029 2041 6535
​Rhif Ystafell:​B112

 

Ymchwil

Diddordebau Ymchwil:
• Ymagweddau gweithredol, ensemble tuag at Shakespeare mewn addysg
• Meithrin cydweithredu ac egwyddorion ensemble mewn AU
• Addysgeg ac arfer drama mewn cyd-destun addysgol

Cyhoeddiadau

Professional / non-refereed publications:
Thayer, E. (2015) ‘An analysis of Higher Education Drama students’ attitudes towards group work and subsequent learning’, Research Papers 7, Cardiff Metropolitan University.

Conference Papers:
Thayer, E. (2016) ‘Transitions in Approach, Shakespeare as a Constant: Our Journey with the RSC’, Shakespeare and Education. Presented at University of Brighton, Brighton, 29-30 April.

Other Publications:
Thayer, E. (2015) International Professional Learning Community (IPLC) Delegation to Los Angeles, 1-7 February 2016. Final Report of the IPLC Arts in Special Educational Needs (USA) Visit to the British Council Wales. Internal British Council Wales Report. Unpublished.

Proffil

Dechreuais fy ngyrfa fel athro Drama Uwchradd ac AB (Addysg Bellach) wrth berfformio a chyfarwyddo ar yr un pryd mewn cynyrchiadau lled-broffesiynol yng Nghaerdydd. Hyfforddais gyda'r Royal Shakespeare Company mewn partneriaeth â Phrifysgol Warwick am dair blynedd fel rhan o'u Learning and Performance Network, gan ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu Shakespeare ar ôl hynny. Trwy'r profiad hwn a hyfforddiant pellach, datblygais hoffter angerddol o Ddrama fel cyfrwng ar gyfer cydlyniant cymunedol. Fe wnes i ddylunio a hwyluso dau brosiect Shakespeare ar raddfa fawr - cynhyrchiad ‘Regional School’s Festival’ o The Merchant of Venice (2012) a 'Shakespeare on Film' (2013). Roedd y prosiectau yma’n cwrdd ag agenda gymunedol ond fe'u cydnabuwyd yn genedlaethol hefyd - rhoddodd y BBC sylw yn y cyfryngau i'r ddau ddigwyddiad a chynhaliwyd y 'Regional Schools Festival’' fel rhan o 'Ŵyl Shakespeare y Byd' mewn cydweithrediad â’r 'Olympiad Diwylliannol', 2012.

Fe’m cyflogwyd fel darlithydd Drama ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Medi, 2013 a datblygais sawl modiwl israddedig newydd ('Drama as a Cross-curricular Tool for Learning’, ‘Exploring the Teaching of Drama’ ac ‘Other Theatres’) wrth wneud fy MA (Add.), a gwblheais yn 2015. Yn ystod fy ail flwyddyn academaidd yn Met Caerdydd, cefais fy mhenodi’n ymchwilydd i British Council Cymru fel rhan o daith Cymuned Ddysgu Broffesiynol Ryngwladol i Los Angeles, lle bûm i (ynghyd â fy nghyd-gynrychiolwyr o’r proffesiwn addysgu) yn ymchwilio i’r defnydd o’r Celfyddydau o fewn cyd-destun Anghenion Addysgol Arbennig.

Yn 2016 cefais fy mhenodi’n Arweinydd Rhaglen ar gyfer TAR Drama Uwchradd ac ers hynny rwyf wedi parhau i ddatblygu fy mhroffil ymchwil ac ymarfer proffesiynol. Ar hyn o bryd rwy'n cyd-ymchwilio (gyda chydweithwyr TAR eraill) i ddulliau trawsgwricwlaidd o addysgu a dysgu o fewn Addysg Gychwynnol Athrawon mewn ymateb i argymhellion diwygio cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus Donaldson (2015).

Gwybodaeth Bellach

 Addysgu cyfredol:
• Arweinydd Rhaglen ar gyfer TAR Drama Uwchradd.
• Darlithydd mewn Drama ar Raglenni matrics y Dyniaethau.

Ymchwil ôl-raddedig:
• Y Celfyddydau a Dysgwyr AAA: Effaith a Gweithredu.
• Addysgu Shakespeare - Dulliau Gweithredol ac Ensemble mewn Addysg Uwchradd.
• Defnyddio dulliau asesu ffurfiannol mewn cyd-destun Drama Addysg Uwch.
• Defnyddio gwaith grŵp i gefnogi dysgu mewn cyd-destun Drama Addysg Uwch.