Dr Julia Jenkins

​​​

​Swydd:Uwch Ddarlithydd
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:Jjenkins@cardiffmet.ac.uk
​Rhif Ystafell:​B214

Ymchwil

Aelodaethau:
• Cymdeithas Addysg Wyddoniaeth

Diddordebau Ymchwil:
• Sgiliau meddwl
• Asesu ar gyfer dysgu
• Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
• Metawybyddiaeth

Cyhoeddiadau

Other Publications:
Guidance material for Welsh Goverment: Why develop thinking and assessment for learning in the classroom, How to develop thinking and assessment for learning in the classroom, A guide to using PISA as a learning context, Curriculum planning guidance for LNF

Co-author of 'Launchpad' science materials for KS3 (UWIC press)

Development of classroom 'Rich Tasks' for TLC! 

Prosiectau

         Ymgynghorydd allanol ar gyfer Llywodraeth Cymru (2005-2014). Cyd-arwain ar 'ddatblygu rhaglen meddwl ac asesu ar gyfer dysgu', arwain ar 'raglen gymorth PISA eilaidd', aelod o'r tîm datblygu deunyddiau cymorth gyda TLC! ar gyfer Llythrennedd Gwyddonol. Adolygydd ar gyfer OSAMs (deunyddiau asesu sgiliau dewisol).

Hyfforddwr i'r Cyngor Prydeinig, Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth: • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Ymgynghorydd addysgol ar gyfer ITNEdu: defnyddio archif newyddion/fideo i gefnogi addysgu a dysgu STEM

Arbenigwr pwnc gwyddoniaeth ar gyfer OFQUAL: adolygydd pwnc

Proffil

 

Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel Uwch Ddarlithydd mewn addysg gwyddoniaeth Uwchradd fel arbenigwr Ffiseg ym mis Medi 2015. Yn athrawes gyda dros 20 mlynedd o brofiad, rwyf wedi dysgu mewn tri Awdurdod Lleol, gan ddal swyddi fel athrawes Cynghori Gwyddoniaeth, Pennaeth Gwyddoniaeth, cydlynydd CASE ac athrawes ffiseg a gwyddoniaeth. Graddiais o Goleg Prifysgol Abertawe ym 1994 gyda PhD mewn Ffiseg a chwblhau fy TAR yn Abertawe yn syth ar ôl hynny.

Yn ogystal â fy ngwaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rwy’n diwtor TAR ar gyfer Gwyddoniaeth yn y Brifysgol Agored, yn fentor allanol ar gyfer Sefydlu ANG a Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Rwy'n darparu cyngor fel ymgynghorydd ar addysgeg effeithiol, cwricwlwm gwyddoniaeth a datblygu sgiliau ac rydw i'n gyfforddus yn hyfforddi ac yn gweithio gydag athrawon  yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag arwain HMS. Fel arbenigwr Gwyddoniaeth OFQUAL, rwy'n ymwneud ag adolygu'r cwricwlwm gwyddoniaeth a chymryd rhan mewn astudiaethau cymharol ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch.

Sbardunwyd fy niddordeb mewn Sgiliau Meddwl ac Asesu ar gyfer dysgu trwy CASE (Cyflymiad Gwybyddol trwy Addysg Wyddoniaeth) a fy ngwaith dilynol ar hyn gyda Choleg King's Llundain.