Christine Faulkner

​ ​ ​ ​ ​Christine Faulkner ​Swydd: ​Arweinydd Strategol Pontio

Cyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddi Saesneg

​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:cfaulkner@cardiffmet.ac.uk
​ Ffôn:​029 2041 7265
​Rhif Ystafell:​Q008

 

Proffil

Fi yw Arweinydd Strategol Pontio yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol - yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt bontio i brifysgol, boed o'r ysgol neu fel myfyrwyr hŷn. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddi Saesneg, yn cynnal cyrsiau i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol gyda'u datblygiad iaith ac academaidd, a'u paratoi i symud ymlaen i gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig. Yn y swydd hon, rwy'n Gyfarwyddwr Rhaglen y Cwrs Sylfaen Rhyngwladol ac yn Arweinydd y Modiwl Datblygiad Proffesiynol ar y cwrs hwn. Rwyf hefyd yn arwain y Cwrs Cyn-Sesiynol.

Ar ôl gyrfa yn y diwydiant gwasanaethau ariannol dechreuais addysgu Saesneg yn 2003, ar ôl cwblhau fy CELTA ym Mhrifysgol Bryste. Ymunais â'r Ganolfan Hyfforddi Saesneg yn 2008 ar ôl pum mlynedd yn addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnes i gwblhau TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn UWIC. Cefais fy mhenodi'n Gyfarwyddwr y Ganolfan yn 2014.

Yn ogystal â mynychu cynadleddau a digwyddiadau sector, rwyf hefyd wedi cynnal a chyd-gynnal nifer o gynadleddau Learn English in Wales dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd y cynadleddau hyn yn rhoi cyfleoedd rhwydweithio i athrawon Saesneg rannu arferion gorau a chyflwyno eu gwaith ymchwil eu hunain.

Cwblheais fy ngradd Meistr mewn Addysg (Rhagoriaeth) yn 2011 gyda'm traethawd hir yn archwilio profiadau dysgu Saesneg ymhlith myfyrwyr Tsieineaidd

Yn 2019 enillais statws Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.