Ymchwil>Cymunedau Bwriadol>Symposiwm 2018

Symposiwm 2018

 

Francesca Fois

Mae Francesca Fois yn ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, DU. Mai ei thesis PhD yn archwilio deddfiad dwy gymuned fwriadol ysbrydol ym Mrasil a'r Eidal gan ddefnyddio cysyniadau wtopiaeth a heterotopia. Ers 2012, mae Francesca wedi bod yn cydweithio â Terra Mirim, cymuned fwriadol sydd wedi'i lleoli ym Mrasil, ac mae wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus am fyw ar y cyd a siamaniaeth yn y DU a'r Eidal gydag aelodau o'r gymuned. 



 

Chris Coates

Mae Chris Coates yn gomiwnwr brofiadol ac arloeswr cyd-drigo. Mae Chris wedi bod yn rhan o gasgliad golygyddol Diggers & Dreamers (www.diggersanddreamers.org.uk) ers iddo ddechrau yn ôl yn yr 1980au. Mae’n awdur dau lyfr ar hanes arbrofion wtopaidd a chymunedau bwriadol yn y DU. Ar ôl 20 mlynedd yn byw mewn comiwn bach yn Nwyrain Swydd Gaerhirfryn mae Chris bellach yn byw yn Gymuned Cyd-drigo Forgebank ger Caerhirfryn ac yn cydbwyso ysgrifennu am gymuned â pharhau i'w adeiladu.






Kirsten Stevens-Wood

Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yw Kirsten; mae hi hefyd yn ymchwilydd ethnograffig sy’n ymgymryd â Doethuriaeth yn archwilio Creadigrwydd ac arbrofi mewn cymunedau bwriadol ar hyn o bryd.  Mae ganddi radd Meistr mewn Dulliau Ymchwil ac mae’n Weithiwr datblygu cymunedol ac ieuenctid cymwys. Mae’n rheoli coetir bach yn Ne Ddwyrain Cymru, mae’n arddwr a gwenynwr brwd ac fe wnaeth gwblhau cwrs dylunio permaddiwylliant yn 2013. Kirsten hefyd yw arweinydd y grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol ac mae’n olygydd ar gyfer Diggers and Dreamers.






Yael Arbell

Mae Yael Arbell yn aelod sefydlol o Gymuned Cyd-drigo Chapeltown  - prosiect sy'n dod i'r amlwg yn Leeds - ac yn ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Leeds. Mae ymchwil Yael yn ymwneud a chwestiynau am hunaniaeth, goddrychedd a chysylltiadau cymdeithasol mewn prosiectau tai a arweinir gan y gymuned yn Lloegr. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn llwybrau i gyfranogi ac arwyddocâd gwleidyddol tai a arweinir gan y gymuned.





Cath Boswell

Roedd Cath Boswell yn uwch-ddarlithydd ym Met Caerdydd cyn ymddeol ar ddechrau 2017 a symud i fyw mewn cymuned yng nghefn gwlad ganol Cymru. Treuliodd 15 mlynedd fel academydd ym meysydd polisi cymdeithasol mewn perthynas â thai ac iechyd a gofal cymdeithasol, gan arbenigo mewn cynhwysiant cymdeithasol a menter gymdeithasol, ond yn olaf ym maes cymunedau bwriadol.