Ymchwil>Cymunedau Bwriadol>Symposiwm 2016

Symposiwm 2016

Yr Athro Jenny Pickerill

Mae ymchwil gyfredol Jenny yn cynnwys dadansoddi materion cymdeithasol, daearyddol a gwleidyddol eco-dai er mwyn deall yn well ffurf a swyddogaethau eco-gartrefi, sut y gellid gwella eco-gartrefi, sut i annog mwy o gyflenwad a galw, sut mae gwybodaeth eco-adeiladu yn teithio a sut i wneud eco-dai yn fwy fforddiadwy.




 

Yr Athro Dave Mullins

Mae David ym Mhrifysgol Birmingham ers 1989 a than 2011 bu’n gweithio yn y Ganolfan Astudiaethau Trefol a Rhanbarthol lle cyflawnodd amrywiaeth o rolau ymchwil ac addysgu gan gynnwys Cyfarwyddwr Ymchwil.  Fe'i penodwyd yn Gadeirydd y Polisi Tai yn 2006 ac ymunodd â Chanolfan Ymchwil y Trydydd Sector yn 2009 lle mae'n arwain y ffrydiau tai a darparu gwasanaethau ar hyn o bryd.

 





Dr Keith Halfacree

Mae Keith Halfacree yn ymwneud â dadleuon cysyniadol ynghylch y ffyrdd y mae cefn gwlad yn newid ym Mhrydain a gwledydd eraill yn y Gogledd byd-eang. Yn ddiweddar, cafodd gefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme i archwilio sut mae pobl sy'n ymwneud ag arbrofion 'yn ôl i'r tir' diweddar ym Mhrydain yn rhyngweithio â'r tir o ddydd i ddydd.