Ymchwil>Cymunedau Bwriadol>Grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol

Grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol


Mae’r Grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol


Mae’r Grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol yn cynnal cyfres o seminarau rhyngddisgyblaethol dros y 6 mis nesaf. Grŵp ymchwil traws-brifysgol rhyngwladol yw hwn sy’n cynnwys academyddion, ymchwilwyr a rhai myfyrwyr Doethuriaeth. 

Y llinyn cyswllt yw Cymunedau Bwriadol, ond mae’n aml yn croestorri themâu megis lles, yr amgylchedd a ffyrdd gwahanol o fyw (gan gynnwys cyd-drigo, hunangynhaliaeth a heneiddio).

Rydym yn cwrdd bob deufis ac mae gennym gymysgwch o siaradwyr gwadd a chyfleoedd i drafod / cyflwyno.
EST = 12.00 – 2.00 canol dydd
GMT = 5.00 - 7.00yh
GMT+2 = 7.00 - 9.00yh

Dydd Mawrth 12fed Hydref

Yr Athro Silvia Rode, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Cymunedol, Prifysgol De Indiana, a fydd yn siarad â ni am y broses o greu a rheoli archifau a’r casgliad sydd ynddynt.

Dydd Mawrth 14eg Rhagfyr

Economeg (solidariaeth) Amgen.  

Chwefror 15fed

Heneiddio a Chymuned Fwriadol

Ebrill 12fed

I’w gadarnhau

Mehefin 14eg

I’w gadarnhau

Os oes diddordeb gennych mewn mynychu, ymuno, neu gyflwyno, cysylltwch â ni:  kstevens-woood@cardiffmet.ac.uk