Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>TAR Uwchradd Cyfrifiadura a TGCh

TAR Uwchradd
Cyfrifiadura a TGCh

​​​​​​​

Mae rhaglen TAR TGCh a Chyfrifiadura Met Caerdydd yn cynnig hyfforddiant a chymorth ymchwil blaenllaw a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn ein hysgolion Partneriaeth Caerdydd rhagorol. Byddwch yn datblygu cymwyseddau addysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn perthynas â chynllunio, addysgu ac asesu yn eich pwnc. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o natur a phwrpas y cwricwlwm Cyfrifiadura a sut y gellir ei gyflwyno’n llwyddiannus i ddisgyblion 11 i 18 oed.

Mae gan athrawon cyfrifiadureg gyfle i rymuso’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Mae’n gofyn am ymrwymiad, angerdd at y pwnc a dealltwriaeth fanwl o’r addysgeg sy’n eich galluogi i wella a datblygu dealltwriaeth dysgwr ifanc o’r pwnc anhygoel hwn. Nid yn unig hynny, ond bydd disgwyl i chi hefyd fod yn esiampl gadarnhaol a chefnogi dysgwyr i oresgyn unrhyw heriau a allai fod wedi datblygu o’u profiadau blaenorol o’r pwnc.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gael i’w astudio yn y Gymraeg a’r Saesneg

1 flwyddyn yn llawnamser

Bwrsariaeth Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg


Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Mae’r rhaglen TAR Cyfrifiadura yn un uchel ei pharch ymhlith ysgolion, arweinwyr ac athrawon yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae sesiynau’r Brifysgol yn hwyl, yn gydweithredol ac yn heriol. Mae ymchwil addysgol wedi’i weu’n fedrus drwy gydol y rhaglen i herio ac ehangu eich meddwl. Mae siaradwyr gwadd o ysgolion Partneriaeth, consortia rhanbarthol, a sefydliadau allanol fel arbenigwyr y fanyleb yn cael eu galw i mewn i gyfoethogi a gwella’r ddarpariaeth a addysgir.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae rhagolygon gyrfa athrawon Cyfrifiadura sy’n graddio o Bartneriaeth Caerdydd yn gadarnhaol iawn. Mae bron pob un o’r graddedigion TAR Cyfrifiadura’n sicrhau gwaith llawnamser yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR ac mae llawer yn parhau i wneud cynnydd yn gyflym i rolau rheoli canol ac uwch. Mae’r galw am athrawon Cyfrifiadura cyfrwng Cymraeg yn eithriadol o uchel ac mae athrawon dan hyfforddiant da’n aml yn cael cynnig eu dewis o rolau ar draws sawl ysgol yng Nghymru!

Mae Cyfrifiadura a TGCh hefyd yn cael ei gydnabod fel pwnc blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac felly bydd pob myfyriwr llwyddiannus yn derbyn bwrsariaeth gwerth £15,000 tra byddwch yn hyfforddi yng Nghymru ar gyfer Cyfrifiadura a TGCh a bodloni meini prawf cymhwysedd.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio TAR mewn Cyfrifiadura a TGCh?

Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth am y pwnc. Yn y lle cyntaf, ceisiwch gwblhau detholiad o bapurau blaenorol TGAU CBAC. Allwch chi gofio sut y cawsoch eich addysgu i ddatrys problemau rhaglennu er enghraifft? A oes ieithoedd eraill nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt? Os felly, gwnewch rywfaint o ymchwil ar-lein a threialwch yr ieithoedd hyn cyn cychwyn ar eich taith addysgu!

Ar ôl i chi fodloni eich hun gyda phapurau TGAU blaenorol, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyny ac i lawr y continwwm Cyfrifiadura! Rhywbeth sydd yr un mor bwysig, a fyddech chi’n gwybod sut i lywio sgwrs gyda disgybl Blwyddyn 7 sy’n gofyn, “Pam ydyn ni’n defnyddio Algebra Boole”? Cofiwch, nid yw cyfrifiadurwr gwych o reidrwydd yn golygu athro Cyfrifiadureg gwych. Fodd bynnag, gall athro Cyfrifiadura gwych sydd hefyd yn gyfrifiadurwr gwych newid y byd.

O Gemau i Addysg: Defnyddio fy ngradd i addysgu gyda TAR Uwchradd TGCh ym Met Caerdydd
 
 

“Roeddwn i’n gwybod erioed fy mod i eisiau helpu pobl; trwy fy TAR y des i o hyd i’r llwyfan gorau imi wneud hynny. Penderfynais wneud fy TAR Uwchradd mewn TGCh a Chyfrifiadura oherwydd ei fod yn cyd-fynd orau â’m gradd bresennol. Mae gen i angerdd at y pynciau hyn hefyd ac roeddwn i’n hoffi’r syniad o addysgu pwnc sy’n esblygu’n gyflym. Rwy’n gallu defnyddio fy nghefndir mewn celf, codio a dylunio gemau i helpu strwythuro gwersi diddorol ac unigryw. Mae wedi fy nghaniatáu i ragori yn y TGAU newydd – Technoleg Ddigidol. Gan ddefnyddio fy ngwybodaeth, rydw i wedi gallu paratoi adnoddau ar gyfer fy adran a helpu i greu amrywiaeth o fodiwlau.”

Joseph Hamer, TAR Uwchradd (TGCh a Chyfrifiadura)

Darllen Mwy

Cwrdd â’r Tîm

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y TAR Uwchradd TGCh a Chyfrifiadura, cysylltwch â Josephine Farag, Arweinydd Rhaglen, yn jfarag@cardiffmet.ac.uk.

I ddysgu mwy am brofiadau myfyrwyr TAR, dilynwch ni ar Twitter yn @CSECardiffMet and @ITECardiffMet

Teacher with school pupil  
 
Logo - Cardiff Partnership for Initial Teacher Education

Met Caerdydd yw cartref Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym fwy na 60 mlynedd o brofiad ac enw da i genfigennu wrtho o ran ansawdd ein darpariaeth hyfforddi athrawon.