Os nad ydych yn siŵr bod y cwrs dwy flynedd yn iawn i chi mae'r cwrs byr hwn wedi'i gynllunio fel cyflwyniad i addysgu yn ôl-16.
Mae'r cwrs paratoi i addysgu 10 wythnos hwn wedi'i ddatblygu fel pecyn cymorth addysgu sy'n cynnig 10 credyd ar Lefel 4. Mae yna opsiwn ar gyfer ardystio ar hyn o bryd sy'n gysylltiedig â gofyniad proffesiynol i ymgymryd ag 20 awr o addysgu mewn sefyllfa sy'n berthnasol yn broffesiynol. Yn ogystal, mae cyfle i ymestyn eich astudiaeth a symud ymlaen i Ran Dau naill ai o'r
TAR AHO ar gyfer graddedigion neu'r
TBA AHO ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion a gynigir ym MetCaerdydd.
Bydd y cwrs Paratoi i Addysgu mewn AHO nesaf yn dechrau ar 9 Medi 2024.
Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.