Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) – TAR/TBA

Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) – TAR/TBA

​​​

Dysgwch fwy am gwrs byr 10 wythnos – Paratoi i Addysgu mewn AHO – sy’n dechrau ar ddydd Llun 9 Medi 2024.

Mae ein rhaglenni AHO TAR a TBA yn uchel eu parch a'u gwerthfawrogiad yn y sector. Maent yn darparu profiad addysgu proffesiynol ichi a gydnabyddir yn genedlaethol a fydd yn eich cymhwyso i archwilio amrywiaeth o yrfaoedd addysgu mewn Addysg Bellach ac Uwch, darpariaeth gwaith ieuenctid, addysg oedolion a chymunedol, y sector 14-19, addysg yn y gwaith, hyfforddiant yn Lluoedd EM, addysg mewn carchardai, y byd diwydiant ac adrannau hyfforddiant masnachol.

Mae dau gwrs ar gael, yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol, sy'n cyd-fynd â'r Safonau Addysgu Proffesiynol: 

  • AHO Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
  • AHO Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TBA)
Mae'r AHO TAR ar gyfergraddedigion sydd eisiau dysgu eu pwnc gradd neu unrhyw bwnc y mae ganddynt gymhwyster Lefel 3 neu uwch ynddo. Dylent hefyd fod yn addysgu neu wrthi'n ceisio addysgu yn y sector AHO neu'r aector dysgu a sgiliau gydol oes.

Mae'r AHO TBA ar gyfer myfyrwyr sydd â chymhwyster Lefel 3 ac sy'n dymuno datblygu eu profiad yn eu maes pwnc trwy addysgu yn y sector AHO neu'r sector dysgu a sgiliau gydol oes. 

Bydd dechreuwyr graddedig a di-radd yn dilyn yr un patrwm dysgu ond, yn unol â gofynion ASA, cânt eu hasesu ar lefelau gwahaniaethol astudio israddedig ym Mlwyddyn 2.

Mae lleiafswm o 30 awr o ddysgu cyswllt yn y flwyddyn gyntaf a 100 awr yn yr ail flwyddyn (i'w cwblhau rhwng Medi a Mai) yn ofynnol ar gyfer y ddau gymhwyster mewn swydd. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu horiau addysgu eu hunain a dod o hyd i fentor pwnc addas i gefnogi eu harfer addysgu proffesiynol. 

Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi sicrhau addysgu rhan amser neu amser llawn yn y sector AHO, fel arfer yn addysgu eu pwnc eu hunain yn ogystal â meysydd pwnc eraill. Cyfeirir yr holl raddedigion at Gyngor Sir Caerdydd ac adran Ehangu Mynediad Met Caerdydd fel darpar diwtoriaid addysg oedolion ar gyfer gweithgareddau allgymorth ac ysgol haf, ac fe’u cyfeirir yn ogystal at Addysg Oedolion Cymru ar gyfer cyfleoedd addysgu ychwanegol. 

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Mae’r rhaglenni AHO wedi’u llunio i gyflwyno myfyrwyr i addysgu yn y sector addysg a hyfforddi ôl-orfodol (AHO), gan gynnwys addysg drydyddol, bellach ac uwch, addysg gymunedol ac i oedolion, addysg alwedigaethol ac 14-19 oed, ynghyd â hyfforddiant yn y sector preifat neu mewn amgylcheddau dysgu yn y gwaith. Bydd y rhaglenni dwy flynedd yn rhan amser hyn yn gofyn i chi ymgymryd ag aseiniadau academaidd ac ymarferol.

Mae’r rhaglenni’n seiliedig ar ddysgu cyfranogol sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, sy’n gofyn i’r myfyriwr ymgysylltu â nifer o ddulliau addysgu, gan gynnwys ymarferion ymarferol ac efelychiadol, trafodaethau yn y dosbarth, chwarae rôl, a thasgau dysgu trwy brofiad a dulliau dysgu cyfunol, er mwyn cynyddu dysgu effeithiol a chynnig profiad dysgu cynhwysol i bob myfyriwr drwy’r rhaglen.

Nod cyffredinol y rhaglenni hyn yw cynhyrchu athrawon neu hyfforddwyr sy’n gallu dangos cymhwysedd ar draws ystod o rolau a thasgau sy’n ymwneud â chynllunio, darparu, rheoli a gwerthuso dysgu. Bydd myfyrwyr yn gadael y rhaglen wedi’u paratoi â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol sy’n sail i gyflawni’r tasgau a ddisgwylir gan addysgwr neu hyfforddwr proffesiynol yn y sector ôl-orfodol.

Nod y rhaglen yw darparu profiad o ansawdd uchel sy’n briodol yn broffesiynol, sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu gallu i gynllunio a chyflawni prosiectau sy’n ymwneud ag arfer, a chysylltu eu harfer â damcaniaeth mewn modd beirniadol a gwerthusol. Mae’n paratoi myfyrwyr â’r sgiliau i ymgysylltu â’r cysyniad o arfer myfyriol ac i ddewis meysydd o berthnasedd proffesiynol ar gyfer eu hastudiaeth.

Mae’r sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) yn faes cynyddol bwysig mewn byd o newid cymdeithasol ac economaidd sy’n datblygu’n gyflym. Wrth i unigolion wynebu’r angen i ddiweddaru eu sgiliau er mwyn diwallu gofynion y byd gwaith, mae gan addysgwyr yn y sector ôl-16 rôl allweddol i’w chwarae yn eu helpu nhw i gyflawni eu nodau dysgu.

Y nod cyffredinol yw creu ‘ymarferwyr myfyriol’.


Modiwlau:

Blwyddyn 1

Lefel 4 Paratoi i Addysgu 10 credyd

Lefel 5 Cyflwyno Dysgu ac Addysgu mewn AHO 30 credyd

Lefel 5 Ymarfer Myfyriol 20 credyd


Blwyddyn 2

  • Cyflwynir y modiwlau canlynol ar y ddwy raglen-cyflwynir yr AHO TBA ar Lefel 5 a'r AHO TAR ar Lefel 6
  • Cyd-destun Proffesiynol AHO 20 credyd
  • Dylunio Cwricwlwm ar gyfer Strategaethau Addysgu a Dysgu mewn AHO 20 credyd
  • Addysgeg Pwnc ac Ymarfer Myfyriol 20 credyd

Mae Tîm y Cwrs yn cadw'r hawl i newid y rhaglen i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol.


Paratoi i Addysgu Mewn Cwrs Byr AHO

Os ydych chi’n ansicr a yw’r cwrs dwy flynedd hwn yn addas i chi, mae cwrs byr wedi’i gynllunio fel cyflwyniad i addysgu ôl-16 – Paratoi i Addysgu mewn AHO.

Mae’r cwrs Paratoi i Addysgu 10 wythnos o hyd yn becyn cymorth addysgu ar gyfer myfyrwyr â chymhwyster Lefel 3 sy’n ystyried addysgu neu sy’n addysgu neu’n hyfforddi ar hyn o bryd mewn amgylcheddau addysgu ôl-orfodol. Modiwl unigol yw hwn, ac mae modd mynd ymlaen i’r TAR neu’r TBA AHO ar ôl cwblhau’r modiwl Paratoi i Addysgu yn llwyddiannus. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.

Bydd y cwrs Paratoi i Addysgu mewn AHO nesaf yn dechrau ar 9 Medi 2024​.


Dysgu ac Addysgu

Mae tîm y rhaglen yn cydnabod bod dysgwyr sy'n oedolion yn cynnig profiadau y gellir eu defnyddio fel adnoddau ar gyfer dysgu. O ganlyniad, nid oes darlithoedd ffurfiol yn y rhaglen hon. Rydyn ni’n disgwyl y bydd myfyrwyr yn chwarae rhan weithgar yn eu dysgu ym mhob sesiwn.

Bydd y pwyslais cyffredinol ar gydweithio a gwneud defnydd effeithiol o’r profiadau a’r sgiliau y bydd dysgwyr unigol yn eu cynnig i’r grŵp. Mae’r dull hwn sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr yn eu galluogi i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain. Ystyrir tiwtoriaid fel hwyluswyr dysgu, gan ddarparu adnoddau, cefnogi, ysgogi a herio lle bo'n briodol.

I’r perwyl hwn, bydd y dulliau addysgu ar y rhaglen yn cynnwys:

  • Hunanwerthuso ac ymarfer myfyriol;
  • Gwaith grŵp a gwerthuso grŵp;
  • Seminarau, tiwtorialau a thrafodaethau dan arweiniad myfyrwyr;
  • Dysgu mewn parau neu mewn grŵp;
  • Chwarae rôl a dadansoddi;
  • Ymarferion meithrin tîm;
  • Trafodaeth;
  • Ymarferion trwy brofiad a myfyriol;
  • Astudiaethau achos a gwerthuso;
  • Astudio, darllen a dysgu agored preifat hunangyfeiriedig ac annibynnol o dan arweiniad personol;
  • Darlithoedd a thrafodaeth ryngweithiol;dysgu cyfunol / dysgu hybrid 

Oriau Cyswllt

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu'r dosbarth ar un diwrnod yr wythnos fel arfer rhwng 2yp ac 8yh.  Bydd amseroedd yn amrywio’n aml yn dibynnu ar y modiwl sy'n cael ei astudio, y cynnwys a'r asesiadau.  Rhoddir gwybod i fyfyrwyr am unrhyw newidiadau i'r modiwlau trwy gydol y cwrs.  Yn ogystal â chyswllt dosbarth, mae'n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd ag oriau addysgu ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn 2 y cwrs (gweler gwybodaeth benodol y modiwlau).

Cefnogaeth

Mae tîm y cwrs yn ymfalchïo yn lefel y gefnogaeth a gynigir i'n myfyrwyr, a gaiff ei gadarnhau’n barhaus gan adborth myfyrwyr.  Darperir amrywiaeth o gefnogaeth cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau'r rhaglen, gan gynnwys mynediad at:

  • Bolisi drws agored (ar-lein ac ar y campws) i gael mynediad at gefnogaeth gan staff, yn enwedig y cyfarwyddwr rhaglen, tiwtor personol ac arweinwyr modiwlau;
  • Siarter Myfyrwyr / Rhaglenni Sefydlu / Llawlyfr Myfyrwyr y Brifysgol;
  • Llawlyfr Rhaglen Myfyrwyr;
  • Pecynnau cymorth sgiliau astudio gan gynnwys hyfforddiant sgiliau TG ar-lein trwy MS Teams;
  • Cefnogir adnoddau llyfrgell a dysgu gan sesiynau hyfforddi ar-lein;
  • Tiwtorialau (wedi'u hamserlennu ac y gellir eu harchebu trwy gydol y cwrs);
  • Cefnogaeth fentora gan fentoriaid yn y gwaith a chyn-fyfyrwyr;
  • Cyfleusterau TG ledled y brifysgol yn ogystal ag ystafelloedd cyfrifiaduron sy’n benodol i raglenni;
  • Mynediad at Wasanaethau Myfyrwyr gan gynnwys y rhai a gynigir gan gymorth Anabledd, Cwnsela, cymorth Iechyd Meddwl, cyngor Cyllid a Lles, ParthG, cymorth Tu Allan i Oriau, Caplaniaeth a'r Gwasanaeth Iechyd;
  • Cynrychiolaeth a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr gan gynnwys eiriolaeth a chefnogaeth.

Tiwtorialau

Bydd aelodau’r grŵp yn cwrdd â’u tiwtoriaid unigol ar adegau rheolaidd sydd wedi’u hamserlennu fel rhan o strwythur y cwrs i adlewyrchu ar eu profiadau dysgu, rhannu pryderon a phroblemau a gosod targedau dysgu. Gellir trefnu tiwtorialau ychwanegol gyda thiwtoriaid cwrs yn ôl y gofyn. Canmolwyd lefel y gefnogaeth diwtorial a gynigir ar y rhaglenni gan gyn-fyfyrwyr ac arholwyr allanol ac mae tîm y cwrs yn ymfalchïo yn eu hagwedd bersonol a lefel ac ansawdd y gefnogaeth a ddarperir ganddynt. 

Technoleg a Chyfleusterau

Cyflwynir modiwlau wyneb yn wyneb yn bennaf ac fe'u cefnogir gan yr amrywiol offer dysgu ac asesu sydd ar gael ar Moodle (ADRh). Defnyddir yr ADRh yn helaeth yn yr Ysgol i sicrhau bod deunydd ac adnoddau dysgu ar gael. Ymhlith y nodweddion eraill a ddefnyddir i ennyn diddordeb myfyrwyr yn eu dysgu eu hunain y mae wicis, blogiau a grwpiau trafod. Yn ogystal, defnyddir yr ADRh mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol ac yn olaf i gyfathrebu â myfyrwyr. Mae myfyrwyr hefyd yn derbyn cefnogaeth trwy e-bost yn ogystal â chymorth wyneb yn wyneb fel sy'n briodol.  Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein, i arbrofi gyda chymwysiadau wrth addysgu ac fe'u cefnogir yn llawn â hyfforddiant a datblygiad sgiliau digidol er mwyn iddynt allu integreiddio'r rhain i'w harferion addysgu.

Defnyddir Microsoft Teams hefyd fel offeryn i wella dysgu hyblyg a hybrid o ganlyniad i ddysgu gartref y llynedd a bydd yn parhau i fod yn rhan o ddarpariaeth y cwrs yn y flwyddyn sydd i ddod.  Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymgymryd â hyfforddiant mewn Sgiliau Digidol i wella eu defnydd o gymwysiadau amrywiol.

Arbenigedd Staff

Mae gan staff sy'n addysgu ar y cwrs brofiad helaeth o addysgu mewn addysg uwch, addysg bellach a'r sector oedolion a chymunedol.  Mae'r holl staff yn aelodau o AU Ymlaen a chyrff proffesiynol cydnabyddedig eraill.  Rôl tîm y rhaglen yw cyflwyno myfyrwyr i ystod lawn o strategaethau addysgu a dysgu, a bod yn enghraifft o arfer gorau wrth ddefnyddio'r rhain yn yr ystafell ddosbarth er mwyn darparu profiadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Felly, mae'r rhaglen ei hun yn ceisio darparu modelau rôl ac enghreifftiau i'r myfyrwyr.


Asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ar draws pob modiwl ar y rhaglen ac, fel athrawon dan hyfforddiant, mae myfyrwyr yn dod i gysylltiad â nifer o ddulliau asesu a ddefnyddir yn y sector AHO (naill ai'n ffurfiol neu'n anffurfiol) a thrafodir eu dichonoldeb o fewn y gwahanol ddisgyblaethau mewn sesiynau dosbarth. Gall y rhain gynnwys: 

  • Trafodaethau grŵp a gweithgareddau o fewn modiwlau;
  • Ymarferion a gweithgareddau unigol o fewn modiwlau;
  • Astudiaethau achos; aseiniadau ysgrifenedig;
  • Asesiadau addysgu ymarferol;
  • Cyflwyniadau seminar gydag adborth gan diwtor a chymheiriaid;
  • Trafodaethau tiwtorial personol a grŵp ac adborth;
  • Cyflwyniadau poster;
  • Tasgau ysgrifenedig myfyriol;
  • Profiadau ffug gan ddefnyddio senarios chwarae rôl. 

Gwneir asesiadau crynodol trwy gwblhau tasg(au) asesu’r modiwl yn llwyddiannus ar gyfer pob modiwl a ymgymerir ag ef. 

Cefnogir myfyrwyr yn llawn trwy gydol eu hasesiadau a byddant yn derbyn adborth parhaus wrth gwblhau aseiniadau a thrwy gydol eu lleoliadau addysgu ymarferol trwy fentoriaid pwnc a thîm y cwrs.  Mae myfyrwyr yn aml yn gwneud sylwadau ar ansawdd y gefnogaeth a gânt tra byddant ar y rhaglen.  Mae myfyrwyr hefyd yn cynnal asesiadau gan gymheiriaid o sesiynau addysgu ymarferol, lle trafodir y pwnc o ddarparu cefnogaeth fel rhan o'r cylch addysgu.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd y TAR a’r TBA AHO yn eich cymhwyso i addysgu ym maes Addysg Bellach ac Uwch, addysg ieuenctid, oedolion a chymunedol, y sector 14-19 oed, addysg yn y gwaith, hyfforddi yn Lluoedd EM, addysg mewn carchardai, ac adrannau hyfforddiant diwydiannol a masnachol.

Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i addysgu’n rhan amser neu’n llawn amser yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO), fel arfer yn addysgu eu pwnc nhw a meysydd eraill sy’n berthnasol i’r pwnc. Caiff holl raddedigion y cwrs eu cyfeirio at adran Ehangu Mynediad Met Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd fel tiwtoriaid addysg posib ar gyfer gweithgareddau allgymorth ac ysgolion haf. Bydd rhai myfyrwyr yn cael cynnig cyfleoedd addysgu gan eu mentor ar ôl graddio, a gall rhwydweithio gyda chyfoedion hefyd fod yn ddefnyddiol o ran cyfleoedd addysgu yn y dyfodol.

Achrediad Proffesiynol

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n gweithio yn y sectorau AB a dysgu yn y gwaith gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a hwylusir y broses hon trwy gysylltiadau Tîm y Rhaglen â chynrychiolwyr CGA.

Cyfeirir myfyrwyr sy'n dymuno dysgu mewn AU at aelodaeth o AU Ymlaen fel rhan o'u DPP.

Llwybr Cynnydd:

Bydd y rhai sydd heb radd sy’n cwblhau’r TBA (AHO) yn cael 120 credyd ar lefel 4 a 5. Byddai modd i fyfyrwyr symud ymlaen at raglen radd yn eu pwnc penodol neu gymwysterau DPP cysylltiedig eraill.

Bydd graddedigion sy’n cwblhau’r TAR (AHO) yn cael 120 credyd ar lefel 4, 5 a 6. Yna, gall myfyrwyr symud ymlaen at raglenni Meistr yn eu maes pwnc penodol e.e. Fframwaith DPD MA yn Met Caerdydd.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai ymgeiswyr y Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TBA) fod â:

  • Chymhwyster Lefel 3 neu uwch yn y pwnc maen nhw’n bwriadu ei addysgu

Dylai ymgeiswyr y cwrs TAR (AHO) fod â:

  • Gradd
  • Cymhwyster Lefel 3 neu uwch yn y pwnc maen nhw’n bwriadu ei addysgu

Gwiriad Cofnod Troseddol:

Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Hunan Ddatganiad AHO mewn perthynas ag unrhyw euogfarn(au) troseddol cyn dechrau’r rhaglen. Mae’n debygol y bydd gofyn i chi gyflawni proses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn dechrau lleoliad addysgu proffesiynol. Mae’n bosib y bydd euogfarnau troseddol yn eich atal rhag cyflawni lleoliad proffesiynol; siaradwch â thîm y cwrs os oes gennych bryderon.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:

Bydd gofyn i fyfyrwyr fynd i gyfweliad a chyflwyno CV. Bydd hefyd angen dau eirda ar fyfyrwyr, a chyflwyno copïau o’u cymwysterau uchaf. Gofynnir i fyfyrwyr ynghylch cyfleoedd addysgu posib a dod o hyd i fentor addas.

Sut i Wneud Cais:

Dylai ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael, ewch i.  (gweler ‘israddedig rhan amser am bob 10 credyd’ ar y tabl ffioedd). Gall myfyrwyr gysylltu â Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth ariannol hefyd.


Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy ffonio 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost at directapplications@cardiffmet.ac.uk​

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinwyr y rhaglen:

TAR (AHO):
Rhiain Burberry
Ebost: rburberry@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6292

TBA (AHO) a Pharatoi i Addysgu (cwrs blasu 10 wythnos):
Leanne Davies
Ebost: LeanneDavies@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 7097

Mae’r telerau ac amodau llawn o ran derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gael drwy www.cardiffmet.ac.uk/terms​​

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol::
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Dwy flynedd yn rhan amser.

Cyflwynir y ddwy raglen yn rhan-amser dros ddwy flynedd ac maent yn gymwysterau mewn swydd sy'n gofyn am o leiaf 30 awr o addysgu cyswllt yn y flwyddyn gyntaf a 100 awr o ddysgu cyswllt yn yr ail flwyddyn. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu horiau addysgu eu hunain, y dylid eu cynnal rhwng Medi a Mai ym mhob blwyddyn academaidd. Bydd angen i fyfyrwyr hefyd ddod o hyd i fentor pwnc addas i gefnogi eu harfer addysgu proffesiynol.

Bydd myfyrwyr yn talu 120 credyd dros y ddwy flynedd - 60 credyd ym mlwyddyn 1 a 60 credyd ym mlwyddyn 2.